Jump to content
Canllaw: sut i gael sgwrs am 'yr hyn sy'n bwysig' gyda rhywun ag anabledd dysgu

Mae darganfod yr hyn sy'n bwysig i rywun (o safbwynt y person) yn hytrach na'r hyn sy'n bwysig ar ei gyfer (o safbwynt rhywun arall) yn rhan allweddol o ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau.

Trwy ddeall anghenion unigol – a chynnwys y person a'i rwydwaith cymorth – gallwn ni wneud yn siŵr bod ei ofal a'i gefnogaeth wedi'u teilwra, yn dosturiol ac yn barchus.

Mae'n helpu i greu amgylchedd cefnogol sy'n gwneud ansawdd bywyd person sy'n cael ei gefnogi yn well.

Gall pobl ag anableddau dysgu fod ag anghenion gwahanol, a allai effeithio ar sut rydych chi'n cyfathrebu â nhw er mwyn canfod yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw.

Ar gyfer pwy mae’r canllaw hwn

Gall unrhyw un ddefnyddio'r canllaw hwn i gefnogi rhywun ag anabledd dysgu.

Efallai y bydd gan rai ymarferwyr ffyrdd eraill o helpu pobl i fynegi'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw, sydd heb eu cynnwys yn y canllaw hwn.

Gallwch chi ddod o hyd i adnoddau ac arweiniad i'ch helpu i ddefnyddio ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau yn ein hadran ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau.

Nodyn i ymarferwyr

Mae'r canllaw hwn yn fan cychwyn ar gyfer sgyrsiau am 'yr hyn sy'n bwysig'. Gallwch chi ei ddefnyddio mor aml ag y mynnwch, cyhyd ag y mynnwch.

Y peth pwysicaf yw sylweddoli, rhannu a deall yr hyn sy'n bwysig i'r person rydych chi'n ei gefnogi, a defnyddio'r wybodaeth honno i roi cefnogaeth.

Mae cofnodi a rhannu'r wybodaeth hon yn rheolaidd yn helpu i gynnal bywyd o ansawdd uchel i'r person, gan feithrin amgylchedd cefnogol a chynhwysol.

Cynnwys

  1. Paratoi ar gyfer sgwrs am 'yr hyn sy'n bwysig'
  2. Pwy i'w gynnwys mewn sgyrsiau am 'yr hyn sy'n bwysig'
  3. Pryd i gael sgwrs am 'yr hyn sy'n bwysig'
  4. Ym mhle i gael sgwrs am 'yr hyn sy'n bwysig'
  5. Ffyrdd o gyfathrebu â rhywun ag anabledd dysgu
  6. Cofnodi a rhannu eich sgwrs
  7. Adnoddau: sut i gael sgwrs am 'yr hyn sy'n bwysig' gyda rhywun ag anabledd dysgu