Jump to content
Paratoi ar gyfer sgwrs am 'yr hyn sy'n bwysig'

I baratoi ar gyfer sgwrs ystyrlon gyda rhywun ag anabledd dysgu, dylech chi ddarganfod:

  • mwy am y person rydych chi'n ei gefnogi
  • pwy mae angen i chi ei gynnwys
  • pryd i gael y sgwrs
  • ym mhle i gael y sgwrs
  • sut i gyfathrebu â'r person
  • sut i gofnodi a rhannu'r sgwrs.

Gweld gwerth mewn pobl

Cyn i chi ddechrau darganfod yr hyn sy'n bwysig, meddyliwch am sut y byddwch chi'n gwneud yn siŵr eich bod chi'n gweld gwerth yn y person rydych chi'n ei gefnogi. Dyma ambell fan cychwyn:

  • seilio eich sgyrsiau ar gryfderau – a chanolbwyntio ar yr hyn y gall rhywun ei wneud a'r hyn y mae'n ei fwynhau, nid yr hyn dyw e ddim yn gallu ei wneud
    • teilwra'r sgwrs i'w ddiddordebau a'i ddewisiadau.
  • parhau i ddysgu – a bod yn chwilfrydig a manteisio ar gyfleoedd i ddod o hyd i ffyrdd newydd o wneud pethau
  • bod yn greadigol – meddwl am ffyrdd newydd o ddarganfod a chofnodi'r hyn sy'n bwysig i'r bobl rydych chi'n eu cefnogi
  • gwneud pethau gyda phobl, nid iddyn nhw – a chynnwys y bobl rydych chi'n eu cefnogi gymaint â phosibl a'u gwneud yn gyfforddus ym mhob cam o'r broses
  • cofio'r pethau bychain – gall yr hyn sy'n ymddangos yn fach i ni fod yn bwysig i rywun arall
  • peidio â chymryd unrhyw beth yn ganiataol - mae pawb yn wahanol, felly dylid ceisio deall pethau o'u safbwynt nhw
  • gwrando ar y bobl sy'n adnabod y person orau – gallan nhw fod yn gylch cefnogaeth gwerthfawr
  • cofio nad yw risg yn rhwystr bob amser – dylech chi drafod cymryd risgiau cadarnhaol gyda'r person a'i rwydwaith cymorth
  • paratoi'n drylwyr – a cheisio deall cefndir y person, ei ddiagnosis, ac unrhyw anghenion penodol, oherwydd bydd yn eich helpu i deilwra'r sgwrs i'w sefyllfa unigryw
  • empathetig a pharchus – dangoswch empathi a pharch at deimladau a phrofiadau'r person. Ceisiwch ddilysu ei emosiynau a gwrando'n astud.
  • hyblyg ac addasadwy – efallai y bydd angen i chi newid eich ffordd o weithio yn seiliedig ar ymatebion ac anghenion y person
    • Mae hyblygrwydd yn allweddol i gyfathrebu effeithiol.
  • cymryd camau dilynol yn aml – ewch ati'n rheolaidd i adolygu a diweddaru'r wybodaeth rydych chi'n ei chasglu i wneud yn siŵr ei bod yn adlewyrchu anghenion a dewisiadau cyfredol y person.