- Bod yn amyneddgar a chaniatáu amser: ceisiwch osgoi rhuthro'r sgwrs a rhowch ddigon o amser i'r person brosesu gwybodaeth ac ymateb.
- Defnyddio iaith glir a syml: siaradwch yn araf ac yn glir, gan ddefnyddio brawddegau syml ac iaith syml. Ceisiwch osgoi jargon a geiriau anodd.
- Gofyn cwestiynau penagored: dylech ganolbwyntio ar un pwnc ar y tro, ac annog y person i fynegi ei hun trwy ofyn cwestiynau sydd angen mwy nag ateb ie neu na.
- Defnyddio cyfathrebu dieiriau: rhowch sylw i iaith y corff, mynegiant wyneb, ac ystumiau. Gallech ddefnyddio cymhorthion gweledol fel lluniau, symbolau, neu 'fatiau siarad' i helpu'r person i ddeall.
Dewis iaith
Mae'n ddefnyddiol i chi wybod dewis iaith y person cyn y sgwrs.
Os yw dewis iaith y person yn wahanol i'ch un chi, efallai y byddai'n ddefnyddiol cynnwys rhywun sy'n gallu cyfieithu i'w iaith gyntaf neu i'r iaith ddewisol. Efallai y bydd y gallu mynegi ei hun yn well yn ei iaith gyntaf.
Os na all rywun gyfathrebu ar lafar, efallai y bydd yn gallu:
- cyfathrebu trwy Makaton neu ieithoedd arwyddion eraill
- defnyddio ei ddulliau ei hun o gyfathrebu dieiriau, fel pwyntio, ysgwyd eu pen (i ddweud ie neu na), mynegiant wyneb, neu iaith y corff
- defnyddio symbolau i gyfleu ei feddyliau
- mynegi ei deimladau trwy weithredoedd neu ymatebion.
Cofiwch, eich rôl chi yw dod o hyd i ffyrdd effeithiol o gyfathrebu. Weithiau, gweithredoedd neu ymatebion yw'r unig ffordd y mae pobl yn teimlo y gallan nhw fynegi eu hunain.
Os ydych chi'n cefnogi rhywun sy'n defnyddio dulliau dieiriau, efallai y bydd angen i chi roi mwy o sylw i farn a meddyliau pobl sy'n ei adnabod yn dda.
Efallai y bydd yna bobl sydd wedi adnabod y person ers blynyddoedd lawer, a bydd eu mewnwelediadau fel arfer yn ddefnyddiol iawn. Weithiau mae'r bobl hyn yn cael eu galw'n 'gylch cefnogaeth’.
Galluedd meddyliol
Efallai y bydd angen i chi ystyried galluedd y person hefyd. Mae hyn yn golygu ei allu i ddeall gwybodaeth a gwneud penderfyniadau am ei fywyd.
Mae ystyried galluedd meddyliol yn ffordd bwysig o wneud yn siŵr bod llais y person yn cael ei glywed.
Tybio galluedd
Dylech chi bob amser ddechrau gyda'r rhagdybiaeth bod gan y person alluedd oni bai ei fod wedi'i brofi fel arall. Mae hyn yn parchu ei ymreolaeth a'i hawliau.
Chwilio am asesiadau blaenorol
Cyn i chi wneud unrhyw benderfyniadau, edrychwch am unrhyw asesiadau blaenorol a allai fod wedi'u gwneud. Gall hyn ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr i alluoedd ac anghenion y person.
Gwnewch y gorau o'i alluedd
Meddyliwch am sut y gallwch chi wneud y gorau o unrhyw alluedd sydd gan y person, waeth pa mor fach y gall hynny fod. Gall hyn gynnwys defnyddio iaith symlach, cymhorthion gweledol, neu dulliau cyfathrebu eraill.
Fframwaith cyfreithiol
Gallwch chi ddarganfod mwy am y Ddeddf Galluedd Meddyliol a Threfniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) ar ein gwefan.
Meddyliwch am y sgwrs o safbwynt y person a gefnogir:
- “ceisiwch bob amser ddeall sut rwy'n cyfathrebu, heblaw am yr hyn rwy'n ei ddweud. Fel arfer os ydw i'n gwylltio, bydd hyn am reswm.”
- “ceisiwch ddefnyddio cymaint o ffyrdd â phosibl i'm helpu i gyfathrebu. Gallai hyn gynnwys defnyddio lluniau neu iaith arwyddion.”
- “mae gen i hawliau o dan y gyfraith. Peidiwch byth cymryd yn ganiataol mod i ddim yn gallu dweud yr hyn rwy'n ei feddwl. Gofynnwch yn gyntaf bob amser.”