Jump to content
Pwy i'w gynnwys mewn sgyrsiau am 'yr hyn sy'n bwysig'

Ym mhob sgwrs, dylid cynnwys y person ag anabledd dysgu yn ganolog i’r drafodaeth gymaint â phosibl.

Mae hyn yn wir yn yr holl amgylchiadau – hyd yn oed os:

  • oes yna rwystrau cyfathrebu gyda'r person rydych chi'n ei gefnogi
  • oes ganddyn nhw anghenion mwy cymhleth neu ddealltwriaeth gyfyngedig.

Cynnwys y person rydych chi'n ei gefnogi

Dechreuwch bob amser trwy gynnwys y person ei hun. Dylai fod yn rhan ganolog o'r sgwrs am yr hyn sy'n bwysig iddo.

Hyd yn oed os yw'n edrych fel nad oes gan y person ddiddordeb, neu ei fod yn edrych nad yw eisiau bod yn rhan o'r broses, peidiwch â chymryd unrhyw beth yn ganiataol. Efallai bod ganddo ffyrdd unigryw o fynegi ei ddewisiadau.

Gofyn pwy y dylid eu cynnwys

Dylech chi ofyn i'r person pwy yr hoffai eu cynnwys yn y sgwrs. Mae hyn yn parchu ei ymreolaeth ac yn gwneud yn siŵr y bydd yn gyfforddus.

Mae'n golygu hefyd y bydd ganddo eiriolwr y mae ei farn yn cyd-fynd â'r hyn sy'n bwysig i'r person rydych chi'n ei gefnogi.

Ewch at y bobl y mae'n eu hawgrymu. Gall y bobl hyn ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr i'r hyn sy'n wirioneddol bwysig i'r person.

Siarad â phobl eraill

Os yw'r person yn cael trafferth cyfathrebu ei anghenion, mae'r mewnwelediadau gan bobl sy'n ei adnabod yn dda yn hanfodol.

Gwiriwch bob amser gyda'r person rydych chi'n ei gefnogi pwy yr hoffai i chi eu cynnwys.

Cynnwys gweithwyr proffesiynol

Weithiau, bydd angen i chi gynnwys gweithwyr cymdeithasol neu weithwyr proffesiynol eraill, yn enwedig os yw'r sgwrs yn ofyniad statudol.

Bydd y gweithwyr proffesiynol hyn yn llywio'r broses, ond dylech chi bob amser flaenoriaethu dewisiadau'r person.

Bydd hyn yn eich helpu i wneud yn siŵr bod y person ag anabledd dysgu yn cael ei barchu ac yn cael ei gynnwys mewn penderfyniadau am ei fywyd, gan hyrwyddo amgylchedd cadarnhaol a chynhwysol.

Cofiwch

Meddyliwch am y sgwrs o safbwynt y person a gefnogir:

  • “Fy nghynllun i yw hwn, a dylwn bob amser gael fy nghefnogi i gymryd rhan cymaint ag y gallaf.”
  • “Gofynnwch i'r bobl sy'n fy adnabod i'n dda beth sy'n bwysig i mi, ond gofynnwch i mi yn gyntaf os ydw i'n gallu dweud wrthych chi.”
  • “Weithiau, mae'n rhaid i fy ngweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill fod yn rhan o'r sgyrsiau hyn.”