Jump to content
Cofnodi a rhannu eich sgwrs

Os ydych chi'n cael sgwrs am 'yr hyn sy'n bwysig' fel rhan o broses wedi'i chynllunio, fel asesiad neu gynllun gofal, fel arfer bydd dull wedi'i gytuno o gofnodi'r wybodaeth.

Cadw'r wybodaeth yn gyfredol

Mae'n bosibl mai dim ond unwaith y flwyddyn y bydd asesiadau ac adolygiadau gwaith cymdeithasol yn cael eu cynnal. Bydd adolygiadau mewn gwasanaethau cofrestredig yn digwydd unwaith bob tri mis fel arfer.

Bydd y wybodaeth am yr hyn sy'n bwysig i'r person yn rhan allweddol o'r holl asesiadau ac adolygiadau hyn.

Gall yr hyn sy'n bwysig i'r person newid yn aml, hyd yn oed yn ddyddiol. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi fel arfer rannu'r wybodaeth honno yn rheolaidd â phobl eraill sy'n cefnogi'r person ag anabledd dysgu.

Byddwch chi angen ffordd o gofnodi'r wybodaeth hon a'i chadw'n 'fyw' ac yn berthnasol. Byddwch chi angen ffordd o'i rhannu ag unrhyw un arall sydd angen gwybod hefyd.

Ffyrdd o gofnodi sgyrsiau

Mae angen i chi gofnodi'r wybodaeth mewn ffordd sy'n cynnwys y person gymaint â phosibl. Mae yna lawer o ffyrdd o wneud hyn, gan gynnwys:

  • cael sgwrs a'i chofnodi yn ysgrifenedig (y dull mwyaf cyffredin)
  • defnyddio symbolau neu ddelweddau wedi'u dylunio ymlaen llaw, a thynnu ffotograffau o'r rhain
  • defnyddio celf a lluniadau i greu darlun o'r hyn sy'n bwysig
  • tynnu lluniau neu greu fideos o'r hyn sy'n bwysig i'r person
  • gofyn cwestiynau mewn gwahanol ffyrdd – er enghraifft, 'sut beth yw diwrnod da neu ddiwrnod gwael?' neu 'sut beth yw bywyd da?’
  • ysgrifennu nodiadau ar bapurau nodiadau gludiog wrth i bethau ddigwydd a chadw'r rhain gyda'i gilydd mewn bocs.

Os ydych chi'n defnyddio rhai o'r dulliau eraill hyn i gofnodi'r hyn sy'n bwysig i'r person, efallai y bydd angen i chi greu fersiwn ysgrifenedig os ydyn nhw'n anodd eu rhannu ag eraill.

O safbwynt statudol, bydd yn rhaid dogfennu sgwrs ar ffurflen 'yr hyn sy'n bwysig' fel arfer.

Mae bob amser yn ddefnyddiol cael math o ffurflen y gallwch chi ei rhannu yn syth (neu'n fuan wedyn) fel bod pawb yn glir ynghylch y camau y maen nhw wedi cytuno i'w cymryd.

Pam rydych chi'n cofnodi sgyrsiau

Mae'n bwysig cofnodi'r wybodaeth hon i gefnogi'r person i ddeall a chyflawni'r hyn sy'n bwysig iddo, a gwella ansawdd ei fywyd.

Os ydych chi'n cofnodi er mwyn cofnodi, ni fydd o fudd i'r person a bydd yn creu gwaith diangen i staff. Os nad ydych chi’n siŵr, cymerwch eiliad i ofyn i chi eich hun pam rydych chi'n cofnodi'r wybodaeth.

Rhannu cofnodion o'ch sgyrsiau am 'yr hyn sy'n bwysig'

Efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i bartneriaid statudol rannu gwybodaeth. I wneud hyn, byddan nhw'n cyhoeddi ffurflenni 'caniatâd i rannu' i'r person ag anabledd dysgu eu llofnodi. Efallai y bydd dull wedi'i gytuno o rannu gwybodaeth hefyd.

Mae cynnwys sgwrs am 'yr hyn sy'n bwysig' yn bersonol iawn a dylech chi ei rhannu â phobl sydd angen gwybod yn unig.

Os gall y person ag anabledd dysgu ddeall a chyfathrebu ei hun, gall ddweud wrthych chi gyda phwy y mae am rannu'r wybodaeth hon.

Os nad yw’n gallu dweud wrthych chi, dylech chi rannu gyda'r bobl sy'n rhoi cefnogaeth uniongyrchol a pharhaus yn unig. Weithiau, bydd angen i chi ei rhannu â phobl sydd â chysylltiad achlysurol â'r person.

Cofiwch

Meddyliwch am y sgwrs o safbwynt y person a gefnogir:

  • “cofiwch weithiau y gallai fod ffyrdd gwell o gofnodi'r hyn sy'n bwysig i mi heblaw ei ysgrifennu - byddwch yn greadigol!”
  • “os yw'r hyn sy'n bwysig i mi yn newid o un diwrnod i'r llall - mae angen ffordd syml o gofnodi hyn i'w rannu gydag eraill.”
  • “fy ngwybodaeth i yw hon a dylech chi bob amser wirio gyda mi, neu rywun sy'n fy nghynrychioli i, o ran pwy arall all ei weld.”