Adnoddau, deunyddiau hyfforddi a gwybodaeth am ddefnyddio ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau.
Mae ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau'n dechrau gyda deall 'yr hyn sy'n bwysig' i bobl a'r pethau y maen nhw am eu cyflawni (a elwir yn 'ganlyniadau personol' neu 'nodau').
Mae'n gwella eu llesiant ac yn ein helpu i weithio allan a oes angen cymorth ar bobl i wneud y pethau hynny.
Dyma rai adnoddau i'ch helpu i gytuno ar ganlyniadau gyda'r bobl rydych yn gofalu amdanynt neu eu cefnogi a gweithio allan beth sydd ei angen arnynt i gyflawni'r canlyniadau hyn.
Cliciwch ar y botwm 'dangos' wrth ymyl pob pwnc i weld yr adnoddau.
Adnoddau
Cael sgyrsiau 'beth sy'n bwysig'
Cofnodi achosion
Offer goruchwylio ac ymarfer myfyriol
Astudiaethau achos a straeon personol
Fideos e-ddysgu a hyfforddiant
Gwasanaethau amddiffyn plant
Cydbwyso risgiau, hawliau a chyfrifoldebau
Adnoddau ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau ar gyfer gofal cartref
Adnoddau ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau ar gyfer gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth (IAA)
Asesu anghenion cymorth gofalwyr
Hyfforddiant a digwyddiadau
Hyfforddiant
Ar gyfer hyfforddiant ar ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau, siaradwch â'ch arweinydd hyfforddi a datblygu.
Gweithdai a digwyddiadau
Rydyn ni weithiau'n cynnal gweithdai a digwyddiadau yn seiliedig ar ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau.
Cadwch lygad ar ein tudalen digwyddiadau ar gyfer y digwyddiadau diweddaraf sydd ar ddod.
Cymryd rhan
Cymuned ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau
Mae gennym gymuned ddigidol ar gyfer pobl sy'n defnyddio ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau fel rhan o'u rôl. Gallwch ei ddefnyddio i gysylltu ag ymarferwyr eraill a rhannu arfer gorau. I ymuno â'r gymuned, e-bostiwch cryfderau@gofalcymdeithasol.cymru
Grŵp mentoriaid cenedlaethol Cymru gyfan
Rydyn ni’n dod â phobl ynghyd sy'n hyrwyddo arferion sy'n seiliedig ar gryfderau yn eu sefydliadau fel rhan o grŵp mentoriaid Cymru gyfan.
Mae'r grŵp yn cwrdd bedair gwaith y flwyddyn ac yn helpu'r rhai mewn rolau tebyg i gysylltu, myfyrio a rhannu ymarfer a heriau.
Mae'r cyfarfodydd fel arfer ar-lein ac yn para dwy awr. Maen nhw'n rhyngweithiol ac yn canolbwyntio ar y pethau sy'n bwysig i fentoriaid.
I gael gwybod mwy am y rhwydwaith, e-bostiwch cryfderau@gofalcymdeithasol.cymru
Siaradwch â ni am ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau
Hoffwn glywed am y pethau rydych chi'n eu gwneud i gefnogi ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau. I gysylltu â ni, e-bostiwch cryfderau@gofalcymdeithasol.cymru