Esbonio beth yw ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau, pam rydyn ni'n ei ddefnyddio a ble i gael mwy o wybodaeth.
Beth yw ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau?
Mae ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau yn ffordd o weithio lle rydyn ni’n archwilio, mewn ffordd gydweithredol, gryfderau, galluoedd ac amgylchiadau rhywun – yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn na allant ei wneud.
Gan weithio gyda'n gilydd, rydyn ni’n datblygu dealltwriaeth gyffredin o'r hyn sy'n bwysig a'r hyn sydd angen digwydd i helpu'r unigolyn i fyw'r bywyd gorau posibl, gan ganolbwyntio ar ei llesiant cyffredinol.
I wneud hyn, rydyn ni’n cytuno ar dri amcan, a elwir yn 'ganlyniadau personol', ac yn datblygu cynllun sy'n adeiladu ar yr hyn y gall y person ei wneud, ei deulu, ei ffrindiau a'i rwydweithiau cymunedol.
Rydyn ni hefyd yn siarad am yr hyn rydyn ni i gyd yn poeni amdano (risgiau) ac yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y cynllun yn ein helpu i reoli unrhyw ups a drwg, gan gadw pawb yn ddiogel lle bo hynny'n bosibl.
Gall unrhyw un ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar gryfderau, ar unrhyw adeg, i gefnogi plant neu oedolion.
Weithiau rydyn ni’n defnyddio termau eraill i siarad am ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau:
- ymarfer sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau
- cydbwyso hawliau a chyfrifoldebau (BRR)
- sgiliau cyfathrebu cydweithredol (CCS)
- ymagwedd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
- cael sgwrs 'beth sy'n bwysig'.
Yn y fideo hwn, mae'r gweithiwr cymdeithasol Tina yn disgrifio'r hyn y mae'n ei olygu i weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau:
Beth yw canlyniadau personol?
Mae canlyniadau personol yn disgrifio'r hyn y mae person eisiau ei gyflawni. Mae'r rhain yn nodau realistig y gall y sawl sy'n derbyn gofal a chymorth, a'u gweithiwr gofal neu eu gofalwr, weithio tuag atynt. Maen nhw’n seiliedig ar gefnogi llesiant yr unigolyn.
Bydd y canlyniadau yn amrywio o berson i berson ac o blentyn i blentyn, oherwydd eu bod yn ymwneud â'r hyn sy'n bwysig i'r unigolyn hwnnw.
Dyma rai enghreifftiau o ganlyniadau personol:
- "rydw i eisiau mynd i'r ysgol ar amser fel y plant eraill a chael gwisg lân"
- "gallu mynd yn ôl adref, magu fy hyder a byw ar fy mhen fy hun fel yr oeddwn i o'r blaen"
- "rydw i eisiau gweld fy mrawd, siarad ag e a threulio amser gydag ef a pheidio colli cysylltiad nawr dydyn ni ddim yn byw gyda'n gilydd"
- "rydw i eisiau mynd i ddosbarthiadau nofio, ond dwi angen gwybod bydd fy ngŵr yn iawn ac y bydd rhywun yna iddo fo pan dwi ddim".
Dylai canlyniadau personol fod:
- yn cael eu gyrru gan ddyheadau y person – maen nhw'n unigryw i'r person a'u bywyd
- yn realistig – ni all fod yr un peth ag yr oedd, felly sut alla i addasu, rheoli, aros yn obeithiol a theimlo mewn rheolaeth?
- yn gyraeddadwy – pa gryfderau sydd gen i i ddelio â'r dyfodol? Pa adnoddau sydd gen i o fewn fy hun, fy nheulu, ffrindiau a chymuned?
- yn ystyrlon – mynd i'r afael â phryderon a chyfyng-gyngor go iawn y person
- yn esblygu a newid – derbyn nad oes dim yn aros yr un fath.
Nid yw canlyniadau personol yn wasanaethau nac yn adnoddau.
Dyma rai enghreifftiau o wasanaethau ac adnoddau:
- person sy'n mynychu grŵp rhianta
- cael cawod cerdded i mewn
- derbyn gwasanaeth gofal cartref.
Dyma'r pethau y mae'r person yn eu gwneud neu'n cael eu darparu (y mewnbynnau) i'w helpu i gyflawni eu canlyniadau, ond dydyn nhw ddim yn ganlyniad.
Pam defnyddio ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau?
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 dweud wrthyn ni am ganolbwyntio ar lesiant pobl a'u rhoi yng nghanol eu cynllunio gofal a chymorth.
Mae ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau yn ffordd i ni wneud hynny. Mae'n ein helpu i:
- gynllunio gofal a chymorth realistig, cyraeddadwy oherwydd ein bod yn deall yr adnoddau sydd ar gael a'r heriau i'r person rydyn ni’n ei gefnogi
- gefnogi teuluoedd i reoli risgiau (a elwir weithiau'n 'gynllunio diogelwch' neu 'gynllunio wrth gefn') a gweld risgiau o'u safbwynt nhw
- ddefnyddio deunyddiau a gwasanaethau yn fwy effeithlon, gan ein bod ond yn defnyddio’r hyn sydd ei angen i gyflawni'r canlyniad
- feithrin gwell cysylltiad â'r person rydyn ni'n ei gefnogi – os ydyn ni'n defnyddio gwrando gweithredol a myfyriol, rydyn ni'n gallu mynd at wraidd yr hyn sy'n digwydd i bobl a chael sgwrs fwy agored
- ddeall beth sydd wir ei hangen ar y person oherwydd ein bod yn gwrando arnynt
- ddeall yr anghydraddoldebau strwythurol sy'n effeithio ar y bobl rydyn ni’n eu cefnogi, fel y gallwn herio'r rhwystrau hynny a chefnogi pobl yn dosturiol
- sicrhau bod gan yr unigolyn rydyn ni’n ei gefnogi lais, dewis a rheolaeth mewn penderfyniadau a chynlluniau ar gyfer eu gofal a'u cefnogaeth eu hunain
- gefnogi pobl i wneud y pethau sydd bwysicaf iddyn nhw, yn eu ffordd eu hunain fel eu bod nhw'n gallu byw bywyd fel maen nhw eisiau.
Y Fframwaith canlyniadau cenedlaethol
Mae Llywodraeth Cymru’n mesur sut mae awdurdodau lleol yn diwallu anghenion llesiant y bobl y maent yn gofalu amdanynt ac yn eu cefnogi. Gallwch ddarganfod mwy am ei adroddiad fframwaith canlyniadau cenedlaethol.
Y camau nesaf
Gallwch ddod o hyd i offer, adnoddau a dolenni i leoedd i gael hyfforddiant ar ein tudalen adnoddau.