Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut i gefnogi rhywun sy'n byw gyda dementia i osod a chyflawni canlyniadau personol.
Mae darganfod yr hyn sy'n bwysig i rywun (o safbwynt y person) yn hytrach na'r hyn sy'n bwysig ar ei gyfer (o safbwynt rhywun arall) yn rhan allweddol o ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau.
Trwy ddeall anghenion unigol – a chynnwys y person a'i rwydwaith cymorth – gallwn ni wneud yn siŵr bod ei ofal a'i gefnogaeth wedi'u teilwra, yn dosturiol ac yn barchus.
Mae'n helpu i greu amgylchedd cefnogol sy'n gwneud ansawdd bywyd person yn well.
Gall pobl â dementia fod ag anghenion gwahanol, a allai effeithio ar sut rydych chi'n cyfathrebu â nhw er mwyn canfod yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw.
Ar gyfer pwy mae’r canllaw hwn
Gall unrhyw un ddefnyddio'r canllaw hwn i gefnogi rhywun â dementia.
Efallai y bydd gan rai ymarferwyr ffyrdd eraill o helpu pobl i fynegi'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw, sydd heb eu cynnwys yn y canllaw hwn.
Gallwch chi ddod o hyd i adnoddau ac arweiniad i'ch helpu i ddefnyddio ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau yn ein hadran ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau.
Nodyn i ymarferwyr
Mae'r canllaw hwn yn fan cychwyn ar gyfer sgyrsiau am 'yr hyn sy'n bwysig'. Gallwch chi ei ddefnyddio mor aml ag y mynnwch, cyhyd ag y mynnwch.
Y peth pwysicaf yw sylweddoli, rhannu a deall yr hyn sy'n bwysig i'r person rydych chi'n ei gefnogi, a defnyddio'r wybodaeth honno i roi cefnogaeth.
Er bod dementia yn gyflwr sydd ddim yn gwella dros amser, mae'n bwysig canolbwyntio ar gynnal ansawdd bywyd. Gall gosod nodau ynghylch sefydlogrwydd, lles a mwynhad dyddiol helpu pobl i fyw'n dda gyda dementia.
Mae cofnodi a rhannu'r wybodaeth hon yn rheolaidd yn helpu i gynnal bywyd o ansawdd uchel i'r person, gan feithrin amgylchedd cefnogol a chynhwysol.
Cynnwys
- 
								1. Paratoi ar gyfer sgwrs am 'yr hyn sy'n bwysig'
																	Sut i baratoi ar gyfer sgwrs am 'yr hyn sy'n bwysig' i rhywun gyda dementia. 
- 
								2. Deall dementia
																	Mae pobl â dementia yn fwy na'u diagnosis. Mae gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a dod i wybod beth sy'n bwisig i rhywn â dementia yn ein helpu i'w deall. 
- 
								3. Pwy i'w gynnwys mewn sgyrsiau am 'yr hyn sy'n bwysig'
																	Ym mhob sgwrs, manteisiwch ar bob cyfle i gynnwys y person ei hun gymaint â phosibl. Dylech chi hefyd gynnwys pobl o amgylch yr unigolyn rydych chi'n ei gefnogi. 
- 
								4. Pryd a lle i gael sgwrs am 'yr hyn sy'n bwysig'
																	Dylid amseru eich sgyrsiau i weddu i'r person rydych chi'n ei gefnogi. 
- 
								5. Cyfathrebu â rhywun â dementia
																	Pethau i ystyried wrth gael sgwrs am 'yr hyn sy'n bwysig' gyda rhywun â dementia 
- 
								6. Dementia a gofal sy'n ystyriol o drawma
																	Beth i ystyried i ddarparu gofal sy'n ystyriol o drawma 
- 
								7. LHDTC+ a dementia
																	Gall pobl sy'n LHDTC+ ac sydd â diagnosis o ddementia elwa o amgylcheddau cefnogol a chynhwysol. 
- 
								8. Anableddau dysgu a dementia
																	Beth i feddwl amdano wrth ofalu am rhywun sydd gydag anabledd dysgu a dementia 
- 
								9. Dementia a chyflyrau eraill
																	Mae'n bwysig gwybod a oes gan y person unrhyw gyflyrau neu ddiagnosis arall. 
- 
								10. Adrodd straeon mewn dementia
																	Mae adrodd straeon yn helpu pobl â dementia i wneud synnwyr o'r byd a'r hyn sy'n digwydd iddyn nhw. 
- 
								11. Cofnodi a rhannu eich sgwrs
																	Os ydych chi'n cael sgwrs am 'yr hyn sy'n bwysig' fel rhan o broses wedi'i chynllunio, fel asesiad neu gynllun gofal, fel arfer bydd dull wedi'i gytuno o gofnodi'r wybodaeth. 
- 
								12. Adnoddau: Sut i gael sgwrs am 'yr hyn sy'n bwysig' gyda rhywun â dementia
																	Adnoddau gallwch chi lawrlwytho a defnyddio yn eich sgyrsiau 'yr hyn sy'n bwysig' gyda rhywun â dementia