Jump to content
4. Pryd a lle i gael sgwrs am 'yr hyn sy'n bwysig'

Dylid amseru eich sgyrsiau i weddu i'r person rydych chi'n ei gefnogi. Dylech chi feddwl:

  • pryd mae angen iddo gymryd meddyginiaeth a'i sgil-effeithiau
  • pa adeg o'r dydd y mae'n ymlacio a heb unrhyw ymrwymiadau eraill
  • cael y sgwrs yn ystod gweithgaredd sy'n ei helpu i ganolbwyntio
  • Er enghraifft: yn ystod taith gerdded neu wrth arddio
  • gwneud yn siŵr bod ganddo ddigon o amser i setlo ar gyfer y sgwrs
  • a fydd angen iddo fynd i apwyntiad cyn neu ar ôl eich sgwrs, a chaniatáu amser ychwanegol iddo ar gyfer hyn.

Ym mhle i gael sgwrs am 'yr hyn sy'n bwysig'

Dylech chi wneud yn siŵr bod y person rydych chi'n ei gefnogi yn gyfforddus yn ystod y sgwrs.

Dylech chi gynnal y sgwrs mewn lle y mae'n debygol o ganolbwyntio ac mewn lle y bydd yn gallu ymlacio ynddo, yn ddelfrydol rhywle sy'n gyfarwydd iddo.

Meddyliwch a oes angen i'r gofod fod yn dawel fel ei bod yn haws i chi gyfathrebu â'r person.

Gall rhai mathau o ddementia ei gwneud hi'n anodd i'r person brosesu pethau. Er enghraifft, os oes yna lawer o sŵn cefndir, efallai y bydd yn cael trafferth deall beth rydych chi'n ceisio ei ddweud wrtho.

Cyn i chi gael sgwrs, ystyriwch a yw'r amgylchedd yn addas.

Mae gan y Gymdeithas Alzheimer's restr wirio ddefnyddiol y gallwch chi ei defnyddio i wneud amgylchedd yn un sy'n ystyriol o ddementia.