Jump to content
2. Deall dementia

Deall dementia

Mae pobl â dementia yn fwy na'u diagnosis.

Mae llawer o bethau yn cyfrannu at bwy ydyn nhw a sut maen nhw'n teimlo, a all effeithio ar sut rydych chi'n darganfod yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw.

Mae dementia yn cynnwys llawer o gyflyrau niwrolegol cynyddol. Mae'n bwysig deall y math o ddementia sydd gan y person, a sut mae'n debygol o effeithio arno.

Gallwch chi ddarganfod mwy am fathau o ddementia ar wefan Cymdeithas Alzheimer.

Mae'n bwysig deall sut mae'r person a'i deulu yn teimlo am y diagnosis. Gall effeithio ar ba mor agored y mae'n teimlo ynghylch cael sgwrs.

Bydd gwybod a yw'r person yn deall ei ddiagnosis, ei wrthwynebiad iddo, a sut mae'n teimlo ynghylch cael asesiad yn eich helpu i gynllunio'r sgwrs.

Deall y person

Gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Mae gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn fath o ofal dementia sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn hytrach na'r clefyd.

Datblygodd Thomas Kitwood y cysyniad hwn yn yr 1980au. Mae'n esbonio pa mor bwysig ydyw ein bod yn gweld y person â dementia fel unigolyn unigryw gyda'i brofiadau, ei ddewisiadau a'i anghenion ei hun.

Nod gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yw deall anghenion emosiynol a seicolegol y person ac ymateb iddyn nhw.

Gall yr ymddygiadau rydyn ni'n eu gweld yn aml mewn dementia, fel teimladau o gynnwrf neu encilio, fod yn arwydd i ni nad yw anghenion y person wedi'u diwallu.

Egwyddor allweddol gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yw'r syniad "os ydych chi wedi cwrdd ag un person â dementia, rydych chi wedi cwrdd ag un person â dementia."

Mae hyn yn golygu y dylen ni deilwra gofal a chefnogaeth i'r person penodol yn hytrach na defnyddio un ateb sy'n addas i bawb.

Prif elfennau gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yw:

  • cysur: gwneud yn siŵr bod y person yn teimlo'n ddiogel ac yn rhydd o boen
  • ymlyniad: cynnal cydberthnasoedd a chysylltiadau â phobl eraill
  • cynhwysiant: cynnwys y person mewn gweithgareddau cymdeithasol ac wrth wneud penderfyniadau
  • galwedigaeth: gwneud yn siŵr bod y person yn gwneud gweithgareddau ystyrlon sy'n rhoi ymdeimlad o bwrpas
  • hunaniaeth: cydnabod a pharchu hanes, personoliaeth a dewisiadau'r person.

Mae'r rhain yn ein helpu i greu amgylchedd cefnogol sy'n gwella ansawdd bywyd pobl â dementia.

Mae'r ffordd hon o weithio yn rhoi cysylltiad a dealltwriaeth ddyfnach i ni hefyd â'r bobl rydyn ni'n gofalu amdanyn nhw.

Dod i adnabod cryfderau a chefndir rhywun

Mae'n amhosibl i ni ddeall rhywun yn iawn o un sgwrs yn unig.

Ond dyma rai cwestiynau i'ch helpu i gael ymdeimlad o gryfderau a chefndir y person cyn eich sgwrs:

  • credoau crefyddol neu ysbrydol
    • A ydyn nhw'n grefyddol neu'n ysbrydol?
  • profiadau bywyd
    • Beth yw eu profiadau bywyd arwyddocaol?
  • cydberthnasoedd
    • Beth yw eu cydberthnasoedd allweddol?
  • hanes gwaith
    • Ydyn nhw wedi gweithio, a beth oedd eu swydd?
    • A yw hyn yn rhan bwysig o'u hunaniaeth?
  • rôl deuluol
    • Ydyn nhw'n rhiant neu'n gyfrifol am y cartref?
    • Pa mor gysylltiedig ydyn nhw â'u plant a'u teuluoedd?
  • annibyniaeth
    • Pa lefel o annibyniaeth sydd ganddyn nhw, a pha mor bwysig yw cael hyn o hyd
    • Beth yw eu pryderon?
  • lefel gweithgarwch
    • Pa mor egnïol ydyn nhw?
    • Pa mor bwysig yw hyn iddyn nhw?
      Pa gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw i barhau i wneud hyn?
  • hobïau a diddordebau
    • Beth yw eu hobïau a'u diddordebau?
    • A fydd angen cymorth arnyn nhw i barhau i wneud hyn?
    • Pwy all eu helpu?
    • Sut maen nhw'n teimlo am ddibynnu ar rywun arall am hyn?
    • Beth yw'r risgiau a sut allwn ni leihau'r rhain?
  • gweithgareddau cymdeithasol a chymunedol
    • Pa weithgareddau cymdeithasol a chymunedol sy'n bwysig i'r person hwn?
  • heriau ac annhegwch
    • Pa heriau ac annhegwch y mae'r person hwn yn eu hwynebu?
  • dymuniadau hirdymor
    • Beth yw dymuniadau tymor hir y person hwn?
    • Faint o allu sydd gan eu rhwydwaith cymorth i hwyluso'r rhain?
  • ystyriaethau cyfreithiol
    • Beth sydd angen i chi ei ystyried o ran galluedd, atwrneiaeth, a sefyllfaoedd byw hirdymor?
  • stori bywyd
    • Beth allwch chi ei ddysgu am hanes bywyd y person hwn?
    • Gan bwy allwch chi ddysgu am hyn?
    • Sut gall hyn lywio'r gofal a'r gefnogaeth rydych chi'n ei drefnu ar gyfer y person hwn?

Gall gofyn y cwestiynau hyn ein helpu i gael dealltwriaeth ddyfnach o'r person â dementia. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer darparu gofal sy'n canolbwyntio ar y person ac sy'n ystyriol o drawma.