Os ydych chi'n cael sgwrs am 'yr hyn sy'n bwysig' fel rhan o broses wedi'i chynllunio, fel asesiad neu gynllun gofal, fel arfer bydd dull wedi'i gytuno o gofnodi'r wybodaeth.
Cadw'r wybodaeth yn gyfredol
Mae'n bosibl mai dim ond unwaith y flwyddyn y bydd asesiadau ac adolygiadau gwaith cymdeithasol yn cael eu cynnal. Bydd adolygiadau mewn gwasanaethau cofrestredig yn digwydd unwaith bob tri mis fel arfer.
Bydd y wybodaeth am yr hyn sy'n bwysig i'r person yn rhan allweddol o'r asesiadau a'r adolygiadau hyn.
Gall yr hyn sy'n bwysig i'r person newid yn llawer amlach, hyd yn oed yn ddyddiol. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi rannu'r wybodaeth hon yn rheolaidd â phobl eraill sy'n cefnogi'r person â dementia.
Byddwch chi angen ffordd o gofnodi'r wybodaeth hon a'i chadw'n 'fyw' ac yn berthnasol. Byddwch angen ffordd o'i rhannu ag unrhyw un arall sydd angen gwybod hefyd.
Ffyrdd o gofnodi sgyrsiau
Mae angen i chi gofnodi'r wybodaeth mewn ffordd sy'n cynnwys y person gymaint â phosibl. Mae yna lawer o ffyrdd o wneud hyn, gan gynnwys:
- cael sgwrs a'i chofnodi yn ysgrifenedig (y dull mwyaf cyffredin)
- defnyddio symbolau a delweddau wedi'u dylunio ymlaen llaw, a thynnu ffotograffau o'r rhain
- defnyddio celf a lluniadau i greu darlun o'r hyn sy'n bwysig
- tynnu lluniau neu greu fideos o'r hyn sy'n bwysig i'r person
- gofyn cwestiynau mewn gwahanol ffyrdd – er enghraifft, 'sut beth yw diwrnod da neu ddiwrnod gwael?' neu 'sut beth yw bywyd da?’
- ysgrifennu nodiadau ar bapurau nodiadau gludiog wrth iddyn nhw ddigwydd a chadw'r rhain gyda'i gilydd mewn blwch.
Os ydych chi'n defnyddio rhai o'r dulliau eraill hyn i gofnodi'r hyn sy'n bwysig, efallai y bydd angen i chi greu fersiwn ysgrifenedig os ydyn nhw'n anodd eu rhannu ag eraill.
O safbwynt statudol, bydd yn rhaid dogfennu sgwrs ar ffurflen 'yr hyn sy'n bwysig' fel arfer.
Mae bob amser yn ddefnyddiol cael ffurflen y gallwch chi ei rhannu yn syth (neu'n fuan wedyn) fel bod pawb yn glir ynghylch y camau y maen nhw wedi cytuno i'w cymryd.
Pam rydych chi'n cofnodi sgyrsiau
Mae'n bwysig cofnodi'r wybodaeth hon i gefnogi'r person i ddeall a chyflawni'r hyn sy'n bwysig iddo, a gwella ansawdd ei fywyd.
Os ydych chi'n cofnodi er mwyn cofnodi, ni fydd o fudd i'r person a bydd yn creu gwaith diangen i staff. Os nad ydych chi’n siŵr, cymerwch eiliad i ofyn i chi eich hun pam rydych chi'n cofnodi'r wybodaeth.
Rhannu cofnodion o'ch sgyrsiau am 'yr hyn sy'n bwysig'
Gall fod adegau pan fydd raid i bartneriaid statudol rannu gwybodaeth. I wneud hyn, byddan nhw'n rhoi ffurflenni 'caniatâd i rannu' i'r person â dementia er mwyn iddo eu llofnodi. Efallai y bydd dull wedi'i gytuno o rannu gwybodaeth hefyd.
Mae cynnwys sgwrs am 'yr hyn sy'n bwysig' yn bersonol iawn a dylech chi ei rhannu â phobl sydd angen gwybod yn unig.
Os gall y person ddeall a chyfathrebu ei hun, gall ddweud wrthych chi â phwy y mae am rannu'r wybodaeth.
Os nad yw’n gallu dweud wrthych chi, dylech chi rannu gyda'r bobl sy'n rhoi cefnogaeth uniongyrchol a pharhaus yn unig. Weithiau, bydd angen i chi ei rhannu â phobl sy'n cael cyswllt achlysurol â'r person â dementia.