Pan fyddwch chi'n cael sgwrs am 'yr hyn sy'n bwysig' gyda rhywun â dementia, gall gymryd mwy o amser iddo ddeall beth rydych chi'n ei ddweud neu beth sy'n digwydd.
Felly, mae'n bwysig i wneud y canlynol:
- gofyn cwestiynau agored sy'n canolbwyntio ar un pwnc ar y tro
- caniatáu amser i dawelwch er mwyn gadael i'r person brosesu'r pwnc ac ateb.
- Gall pobl siarad o amgylch gair hefyd, gan ei ddisgrifio. Er enghraifft, gall 'oriawr' fod yn 'amser’. Rhowch amser i bobl ddisgrifio.
Mae pobl â dementia yn aml yn cofio cyfathrebu dieiriau a'r ffordd yr oedd trafodaeth wedi gwneud iddyn nhw deimlo, hyd yn oed os dydyn nhw ddim yn gallu cofio'r manylion. Gallech chi ddefnyddio adnoddau i helpu i hwyluso'r sgwrs, fel:
- darluniau
- geiriau allweddol ar ddarnau o bapur
- ‘matiau siarad’.
Os oes gan y person anabledd dysgu a dementia, efallai y bydd angen i chi ddewis adnoddau cyfathrebu gwahanol.
Mae'n bwysig deall mai yn y broses gyfathrebu y mae'r her, nid gyda'r person â dementia.