Dylai sgwrs sy'n seiliedig ar gryfderau ganolbwyntio ar yr unigolyn. Ond, weithiau, gall cyd-destun ychwanegol gan ofalwyr, partneriaid, ac aelodau o'r teulu roi gwybodaeth i ni sy'n newid y cynllun gofal a chymorth yn llwyr.
Yn y sgwrs enghreifftiol hon, rydyn ni'n gweld y gwahaniaeth y mae'n ei wneud i gynnwys mab Dorothy yn y sgwrs. Fel arall, gallai asesiad Dorothy fod wedi bod yn adlewyrchiad anghywir o'i galluogrwydd, ei galluedd, a'i sefyllfa fyw.