Jump to content
Canllaw: defnyddio ymarfer seiliedig ar gryfderau mewn gwasanaethau amddiffyn plant

Esbonio sut i ddefnyddio ymarfer seiliedig ar gryfderau mewn gwasanaethau amddiffyn plant

Pam mae clywed llais y plentyn mewn prosesau amddiffyn plant yn bwysig?

    • Mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn glir y dylai plant fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau pan fyddan nhw’n destun prosesau statudol.
    • Lle nad yw plant yn cael eu gweld, ac nad yw eu lleisiau'n cael eu clywed, mae mwy o debygolrwydd o arferion anniogel.
    • Mae cynnwys plant a phobl ifanc yn caniatáu i ymarferwyr ddatblygu gwell dealltwriaeth o'u hanghenion cyn gynted â phosibl.
    • Pan fyddant yn rhan o'u cynlluniau, mae plant a phobl ifanc yn fwy tebygol o deimlo eu bod yn rhan o'r newidiadau cadarnhaol sy'n digwydd yn eu teuluoedd.
    • Mae plant a phobl ifanc sy'n cael eu cynnwys wrth wneud penderfyniadau yn adrodd am brofiadau mwy cadarnhaol mewn prosesau amddiffyn plant.

Beth mae plant a phobl ifanc yn ei werthfawrogi mewn gwasanaethau amddiffyn plant?

  • Cyfle i adeiladu perthynas ymddiried yn eu gweithwyr.
  • Cael gwybodaeth glir, hygyrch ac amserol am brosesau, cyfarfodydd a chynlluniau.
  • Gallu penderfynu a ddylid mynychu cyfarfodydd, a chael cefnogaeth i gyfrannu os ydynt yn gwneud hynny; neu ymwneud â gwneud penderfyniadau mewn ffyrdd eraill sy'n briodol i'w hoedran.

Gwyliwch y gweithiwr cymdeithasol Ian yn defnyddio'r 'triongl drama' i ddisgrifio sut y gall plant weld ymyriadau ffurfiol gan wasanaethau:

Pam cydweithio â rhieni a gofalwyr mewn gwasanaethau amddiffyn plant?

    • Mae ymgysylltu'n well â theuluoedd yn helpu ymarferwyr i gael darlun llawnach o lesiant y plentyn.
    • Gall morâl rhieni wella a chael eu cymell i newid pan fydd ymarferwyr yn cydnabod cryfderau rhiant.
    • Gall cynnwys rhieni wrth ddatblygu cynlluniau amddiffyn plant arwain at well siawns o ganlyniadau gwell.
    • Gall ymgysylltu'n dda a chefnogi rhieni - yn enwedig rhieni iau – y mae eu plant yn cael eu tynnu wrthyn nhw’n olygu bod ganddyn nhw well siawns o ymdopi fel rhiant yn y dyfodol, ac atal rhagor o blant rhag cael eu tynnu o’r teulu.
    • Mae profiadau a safbwyntiau teuluoedd yn ffordd werthfawr o wella systemau a phrosesau. Gallwn ddysgu o arfer sy'n bodoli eisoes am yr hyn sy'n gweithio'n dda i ymgysylltu â rhieni a allai, ar y dechrau, fod wedi bod yn elyniaethus.

Beth mae rhieni a gofalwyr yn ei werthfawrogi mewn gwasanaethau amddiffyn plant

Mae corff cymharol fach o dystiolaeth ymchwil am farn a phrofiadau rhieni a gofalwyr mewn prosesau amddiffyn plant.

Ond pan ofynnwyd iddynt, dywedon nhw'n gyson eu bod eisiau cymryd mwy o ran pan oedd eu plant yn destun gwasanaethau amddiffyn plant statudol.

Yn benodol, mae rhieni a gofalwyr yn dweud eu bod yn gwerthfawrogi neu'n hoffi:

  • gwybodaeth glir, ddi-jargon am y prosesau, ac amser a chefnogaeth i ddeall y wybodaeth yn eu hamser eu hunain
  • y cyfle i feithrin perthynas â gweithiwr cymdeithasol (un person yn ddelfrydol), sy'n dod i adnabod y teulu, yn treulio amser gyda'u plant ac yn gweithredu 'fel bod dynol'
  • cefnogaeth ymarferol, nid dim ond monitro
  • dull cytbwys, lle mae gweithwyr a'u hadroddiadau yn cydnabod cryfderau rhieni a bwriadau cadarnhaol, ond hefyd yn onest ac yn benodol am bryderon a risgiau
  • cynadleddau nad ydynt yn cynnwys gormod o bobl neu ormod o bethau annisgwyl, ac sydd mor anffurfiol a chynhwysol â phosibl
  • gweithwyr sy'n gofyn i rieni am eu syniadau am atebion yn eu teuluoedd eu hunain, a hefyd yn gofyn am eu hadborth am sut i wella'r system a'r prosesau ehangach
  • cynlluniau sy'n nodi'n glir yr hyn a ddisgwylir ganddynt, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau ac nid allbynnau yn unig, ac sy'n cael eu dilyn heb 'symud y pyst gôl'
  • gweithwyr nad ydynt yn barnu ac sy’n ddibynadwy
  • gweithwyr sydd wir yn gwrando ac yn cydnabod pa mor ingol a thrawmatig y gall y prosesau hyn fod i deuluoedd.

Gwrandewch ar sgwrs rhiant am sut y gwnaeth pobl sy'n gweithio gyda hi mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy'n seiliedig ar gryfderau ei chefnogi i wneud newidiadau iddi hi a'i phlant:

Gwrandewch ar Keri yn siarad am sut y gwnaeth hi annog newid diwylliant mewn gwasanaethau plant trwy gydweithio â theuluoedd a staff rheng flaen:

Cyhoeddwyd gyntaf: 4 Chwefror 2025
Diweddariad olaf: 11 Chwefror 2025
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (68.6 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch