Jump to content
Ym mhle i gael sgwrs am 'yr hyn sy'n bwysig'

Dylai sgyrsiau ddigwydd yn rhywle lle mae'r person rydych chi'n ei gefnogi yn teimlo'n gyfforddus.

  • Dewiswch leoliad cyfarwydd, tawel a hamddenol.
  • Gwnewch yn siŵr bod y person yn teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus.


Weithiau gellir cynllunio'r sgyrsiau hyn, ond nid bob amser.

Sgyrsiau wedi'u cynllunio

Efallai y bydd yn rhaid i weithiwr cymdeithasol sy'n gwneud asesiad, neu weithiwr allweddol mewn tŷ byw â chymorth, gynllunio sgwrs cyn iddi ddigwydd.

Bydd y rhain yn aml yng nghartref y person ei hun. Ond mae'n bwysig meddwl am breifatrwydd ac unrhyw un arall a allai glywed, gan y gall y person rydych chi'n ei gefnogi fod yn rhannu gwybodaeth bersonol.

Lleoliadau anffurfiol

Mae pobl yn aml yn cael sgyrsiau gwych wrth yrru, wrth fynd am dro, neu mewn rhywle sydd heb bobl eraill a heb y pethau sy'n tynnu sylw

Meddyliwch am y person a'r amgylchedd.

Ydy sŵn neu dorf o bobl yn ei lethu?

A fyddai'n fwy cyfforddus gyda rhywun y mae’n ymddiried ynddo?

Cysur a phreifatrwydd

Y peth pwysicaf yw bod y sgwrs yn digwydd mewn lle y mae'r person yn teimlo'n fwyaf cyfforddus ynddo a bod y sgwrs ddim yn cael ei gorfodi.

Mewn rhai sefyllfaoedd, fel yn ystod argyfwng, efallai y bydd angen i sgyrsiau ddigwydd mewn lleoliadau nad ydyn nhw o blith dewis cyntaf y person.

Ceisiwch bob amser gefnogi'r person i fod mewn lleoliadau sydd fwyaf cyfarwydd iddo.

Cofiwch

Meddyliwch am y sgwrs o safbwynt y person a gefnogir:

  • “rwyf bob amser yn ceisio cael y sgyrsiau hyn mewn lleoliad lle rydw i'n teimlo fwyaf cyfforddus ac ymlaciedig”
  • “efallai y byddaf yn rhannu pethau personol a phreifat - felly efallai mod i ddim am i bobl eraill glywed yr hyn rydw i'n ei rannu”
  • “efallai y byddaf wedi ymlacio fwy ac yn rhannu mwy pan fydda i allan o fy nghartref, wrth fynd am dro neu allan yn fy nghar”.