1
00:00:05,020 --> 00:00:07,480
Croeso i'r trydydd o'n hadnoddau fideo
2
00:00:07,530 --> 00:00:10,360
sydd wedi'u datblygu
i gefnogi sefydliadau
3
00:00:10,410 --> 00:00:12,360
sy'n gweithio ym maes
gofal cymdeithasol plant,
4
00:00:12,410 --> 00:00:16,440
i ddeall sut gallan nhw wreiddio dull
recriwtio sy'n seiliedig ar werthoedd.
5
00:00:16,840 --> 00:00:18,935
Yn y fideo hwn byddwn ni'n canolbwyntio
6
00:00:18,985 --> 00:00:23,110
ar elfennau 'denu' a 'cynnig' y Model 5A
o recriwtio sy'n seiliedig ar werthoedd.
7
00:00:23,160 --> 00:00:26,415
Dangoswn sut gallwch chi
dargedu a denu
8
00:00:26,465 --> 00:00:29,292
ymgeiswyr sy'n rhannu
gwerthoedd eich gweithle,
9
00:00:29,342 --> 00:00:32,440
a sut i sicrhau bod gan ymgeiswyr y cyfle
10
00:00:32,490 --> 00:00:35,869
i ddangos eich gwerthoedd
yn y broses ymgeisio.
11
00:00:36,658 --> 00:00:40,815
Mae denu digon o staff gyda'r gwerthoedd
iawn i weithio ym maes gofal cymdeithasol
12
00:00:40,865 --> 00:00:43,080
yn her i gyflogwyr ar hyn o bryd.
13
00:00:43,291 --> 00:00:46,800
Ond rydyn ni'n gwybod hefyd fod y mwyafrif
o'r rhai sy'n gweithio yn y sector
14
00:00:46,850 --> 00:00:50,759
yn cael eu cymell gan wneud gwahaniaeth
a rhoi rhywbeth yn ôl i gymdeithas.
15
00:00:51,258 --> 00:00:54,480
Er mwyn denu'r staff iawn i weithio i chi,
16
00:00:54,920 --> 00:00:57,350
meddyliwch am sut gallwch chi sefyll allan
17
00:00:57,400 --> 00:01:00,640
a gwerthu beth sy'n unigryw
am eich sefydliad neu'ch lleoliad,
18
00:01:00,690 --> 00:01:02,806
a pham y dylai pobl weithio i chi.
19
00:01:03,300 --> 00:01:06,681
Mae eich gwerthoedd yn un o'r pethau
sy'n eich gwneud chi'n unigryw.
20
00:01:07,567 --> 00:01:10,501
Rydyn ni i gyd yn gwybod bod gan
wahanol grwpiau o staff
21
00:01:10,551 --> 00:01:13,040
wahanol gymhellion dros weithio
ym maes gofal cymdeithasol.
22
00:01:13,090 --> 00:01:17,070
Felly i wneud y mwyaf o'ch potensial
i recriwtio staff gwych,
23
00:01:17,120 --> 00:01:19,535
ystyriwch sut i ddenu staff amrywiol
24
00:01:19,585 --> 00:01:22,655
sy'n gallu ychwanegu cymaint
at ddiwylliant eich sefydliad,
25
00:01:22,705 --> 00:01:26,800
ac sydd â'r gwerthoedd a'r ymddygiadau
rydych chi'n eu hadnabod fel rhai pwysig.
26
00:01:27,331 --> 00:01:30,280
Gallai hyn gynnwys staff hŷn
neu staff sydd wedi ymddeol,
27
00:01:30,330 --> 00:01:32,135
staff heb brofiad gofal,
28
00:01:32,185 --> 00:01:33,575
staff o dramor,
29
00:01:33,625 --> 00:01:34,880
staff niwroamrywiol,
30
00:01:34,930 --> 00:01:36,615
a llawer o grwpiau eraill o bobl
31
00:01:36,665 --> 00:01:39,740
sydd efallai heb ystyried
gweithio ym maes gofal o'r blaen.
32
00:01:39,960 --> 00:01:41,635
Manteision hyn
33
00:01:41,685 --> 00:01:44,940
yw eu bod nhw'n cynyddu'r gronfa
o ddarpar recriwtiaid i chi
34
00:01:44,990 --> 00:01:47,255
ac yn cynnig gweithlu mwy amrywiol,
35
00:01:47,305 --> 00:01:51,440
sy'n adlewyrchu'r bobl rydych chi'n
gofalu amdanyn nhw ac yn eu cefnogi.
36
00:01:52,320 --> 00:01:56,366
Eich cam cyntaf wrth ddefnyddio'r
gwerthoedd hyn i ddenu staff
37
00:01:56,416 --> 00:01:58,810
yw dechrau meddwl am beth sy'n gwneud
38
00:01:58,860 --> 00:02:01,635
eich lleoliad neu'ch sefydliad
yn unigryw.
39
00:02:01,827 --> 00:02:04,594
Dyma rai cwestiynau
gallech chi fyfyrio arnyn nhw.
40
00:02:05,228 --> 00:02:07,727
Beth sy'n gwneud
eich sefydliad yn unigryw,
41
00:02:07,777 --> 00:02:11,283
beth sy'n eich gwneud chi'n gyflogwr
o ddewis yn eich ardal,
42
00:02:11,333 --> 00:02:14,119
a pham felly y dylai pobl
aros i weithio i chi?
43
00:02:14,676 --> 00:02:18,640
Meddyliwch am bwy yw
eich recriwtiaid mwyaf llwyddiannus,
44
00:02:18,690 --> 00:02:21,815
beth yw eu nodweddion
a'u cymhellion amrywiol
45
00:02:21,865 --> 00:02:23,650
dros weithio mewn gofal cymdeithasol,
46
00:02:23,700 --> 00:02:27,000
a sut mae eu gwerthoedd nhw
yn cyd-fynd â'ch gwerthoedd chi.
47
00:02:27,490 --> 00:02:30,210
Mae eich gwerthoedd a'ch diwylliant
yn unigryw i chi,
48
00:02:30,260 --> 00:02:34,335
a thrwy rannu eich gwerthoedd wrth
hysbysebu swyddi i ddarpar recriwtiaid,
49
00:02:34,385 --> 00:02:39,831
gallwch chi ehangu'r ystod amrywiol o bobl
allai fod â diddordeb mewn gweithio i chi,
50
00:02:39,881 --> 00:02:42,360
a chynyddu'r gronfa
o ddarpar ymgeiswyr.
51
00:02:42,960 --> 00:02:44,130
Er enghraifft,
52
00:02:44,180 --> 00:02:48,360
dychmygwch rywun sy'n gweithio
mewn manwerthu neu hamdden,
53
00:02:48,505 --> 00:02:52,095
sy'n mwynhau gweithio gyda phobl
a darparu gwasanaeth gwych,
54
00:02:52,145 --> 00:02:54,300
ond sy'n teimlo bod rhywbeth ar goll
55
00:02:54,350 --> 00:02:58,540
ac sydd wir eisiau teimlo eu bod nhw'n
gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill.
56
00:02:58,641 --> 00:03:02,400
Gallai eu gwerthoedd nhw gyd-fynd
yn wych â gyrfa mewn gofal cymdeithasol,
57
00:03:02,450 --> 00:03:06,815
ond efallai nad ydyn nhw wedi ystyried
sut i drosglwyddo eu sgiliau a'u profiad
58
00:03:06,865 --> 00:03:08,680
i rôl yn gweithio gyda phlant.
59
00:03:09,600 --> 00:03:12,070
Drwy rannu eich gwerthoedd
yn eich hysbysebion
60
00:03:12,120 --> 00:03:15,420
ac yn unrhyw un o'ch digwyddiadau
a'ch gweithgareddau denu ymgeiswyr,
61
00:03:15,470 --> 00:03:20,440
a gwneud yn glir y bydd gweithio i chi
yn rhoi cyfle i bobl wneud gwahaniaeth
62
00:03:20,490 --> 00:03:23,175
a byw eu gwerthoedd
yn eu gwaith bob dydd,
63
00:03:23,225 --> 00:03:26,440
gallech chi ddenu pobl newydd
i fod eisiau gweithio i chi.
64
00:03:27,040 --> 00:03:30,760
Mae yna lawer o ffyrdd ymarferol
o wneud yn siŵr bod eich hysbysebion
65
00:03:30,810 --> 00:03:34,135
a'ch gweithgareddau denu ymgeiswyr
yn sefyll allan
66
00:03:34,185 --> 00:03:37,903
ac yn denu grwpiau amrywiol
o ymgeiswyr sy'n rhannu'ch gwerthoedd.
67
00:03:38,100 --> 00:03:39,492
Dyma rai enghreifftiau.
68
00:03:39,800 --> 00:03:42,135
Efallai gallech chi gael
set wahanol o hysbysebion
69
00:03:42,185 --> 00:03:44,975
yn dibynnu ar ba grŵp
rydych chi'n ceisio apelio ato,
70
00:03:45,025 --> 00:03:49,000
a hysbysebu mewn gwahanol gyfryngau
i ddenu ymgeiswyr mwy amrywiol.
71
00:03:49,720 --> 00:03:53,040
Meddyliwch am sut gallech chi greu
cysylltiad emosiynol mewn hysbysebion
72
00:03:53,090 --> 00:03:56,560
rhwng gwerthoedd eich gweithle
a gwerthoedd personol ymgeiswyr.
73
00:03:56,900 --> 00:04:00,470
Un enghraifft fyddai defnyddio
ymadroddion mewn hysbyseb fel,
74
00:04:00,520 --> 00:04:04,680
'Ydych chi'n dymuno gwneud
gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc
75
00:04:04,730 --> 00:04:07,880
drwy ddefnyddio eich profiad a'ch sgiliau
mewn ffordd wahanol?'
76
00:04:08,020 --> 00:04:12,499
'Ydych chi wrth eich bodd yn rhan o dîm
sy'n parchu ac yn gofalu am ei gilydd?'
77
00:04:12,650 --> 00:04:14,680
'Yna gwnewch gais am ein swydd nawr.'
78
00:04:15,400 --> 00:04:17,335
Gwnewch i'ch hysbyseb sefyll allan
79
00:04:17,385 --> 00:04:20,055
drwy ddefnyddio eich gwerthoedd
a'ch pwyntiau gwerthu unigryw,
80
00:04:20,105 --> 00:04:23,497
fel bod pobl yn clicio ar eich rôl chi
yn hytrach nag un arall.
81
00:04:24,080 --> 00:04:26,030
Mae llawer o hysbysebion
yn edrych yr un fath
82
00:04:26,080 --> 00:04:28,455
ac yn canolbwyntio mwy
ar ffeithiau'r rôl,
83
00:04:28,505 --> 00:04:30,415
nid ar y diwylliant a'r gwerthoedd
84
00:04:30,465 --> 00:04:32,600
a sut brofiad fyddai gweithio i chi.
85
00:04:32,650 --> 00:04:37,120
Felly gallwch sefyll allan drwy apelio
at galonnau pobl yn ogystal â'u pennau.
86
00:04:38,020 --> 00:04:40,910
Defnyddiwch eich gwefan a'ch postiadau
cyfryngau cymdeithasol
87
00:04:40,960 --> 00:04:42,595
i sôn am eich gweithle
88
00:04:42,645 --> 00:04:45,875
ac i adrodd straeon am staff
yn gwireddu eich gwerthoedd,
89
00:04:45,925 --> 00:04:48,910
sy'n gwneud iddyn nhw deimlo'n
falch o weithio mewn gofal cymdeithasol,
90
00:04:48,960 --> 00:04:52,520
ac sy'n esbonio pam maen nhw
mor ymrwymedig i aros gyda chi.
91
00:04:52,920 --> 00:04:56,200
Ac ar ddiwrnodau agored
a digwyddiadau wyneb yn wyneb eraill,
92
00:04:56,250 --> 00:04:59,360
rhannwch wybodaeth am
eich gwerthoedd gyda phobl,
93
00:04:59,410 --> 00:05:02,800
nid jyst esbonio manteision
a gofynion eich swyddi,
94
00:05:02,850 --> 00:05:05,840
ond hefyd eich gwerthoedd
a'ch disgwyliadau,
95
00:05:05,890 --> 00:05:07,850
a sut mae hynny'n gwneud i bobl deimlo
96
00:05:07,900 --> 00:05:10,520
pan maen nhw wrth eu bodd
yn rhan o'ch tîm a'ch gwasanaeth.
97
00:05:11,480 --> 00:05:15,080
Mae gwefan Gofalwn Cymru
yn llawn straeon anhygoel
98
00:05:15,130 --> 00:05:18,593
a gwybodaeth ysbrydoledig
am weithio mewn gofal cymdeithasol,
99
00:05:18,643 --> 00:05:21,170
y gallech chi eu defnyddio
i ddatblygu eich hysbysebion
100
00:05:21,220 --> 00:05:22,815
ac i hyrwyddo eich cyfleoedd
101
00:05:22,865 --> 00:05:26,120
i bobl sydd efallai heb ystyried
rôl mewn gofal o'r blaen.
102
00:05:26,609 --> 00:05:29,639
Gallwch hefyd hysbysebu
eich swyddi gwag ar y wefan
103
00:05:29,689 --> 00:05:31,481
i gyrraedd cynulleidfa ehangach.
104
00:05:32,485 --> 00:05:35,335
Nawr ein bod ni wedi ystyried
sut i ddefnyddio'ch gwerthoedd
105
00:05:35,385 --> 00:05:37,310
i ddenu cronfa ehangach
o ymgeiswyr,
106
00:05:37,360 --> 00:05:41,200
edrychwn ar sut gallwch chi gael ymgeiswyr
i rannu eu gwerthoedd a'u hymddygiadau
107
00:05:41,250 --> 00:05:42,880
wrth iddyn nhw wneud cais.
108
00:05:43,520 --> 00:05:45,995
Mewn marchnad gystadleuol am ymgeiswyr,
109
00:05:46,045 --> 00:05:48,735
byddwch eisiau ei gwneud hi
mor gyflym a hawdd â phosib
110
00:05:48,785 --> 00:05:50,640
i ymgeiswyr wneud cais am eich rolau
111
00:05:50,690 --> 00:05:52,768
i chi osgoi colli pobl wych.
112
00:05:52,836 --> 00:05:54,415
Ond mae hefyd yn bwysig
113
00:05:54,465 --> 00:05:57,310
sicrhau eich bod chi'n cael
yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch
114
00:05:57,360 --> 00:06:00,880
i wneud penderfyniadau recriwtio
yn ddiogel a theg, nid jyst yn gyflym.
115
00:06:01,520 --> 00:06:05,960
Mae llawer o sefydliadau bellach
yn defnyddio proses ymgeisio dau gam,
116
00:06:06,010 --> 00:06:09,910
lle maen nhw'n defnyddio cais byr
i gael ymgeiswyr i gyfweliad,
117
00:06:09,960 --> 00:06:12,470
gan ganolbwyntio
ar eu gwerthoedd a'u cymhellion
118
00:06:12,520 --> 00:06:16,470
ac wedyn yn gofyn iddyn nhw lenwi
ffurflen gais hirach a mwy manwl
119
00:06:16,520 --> 00:06:20,039
i gasglu gwybodaeth bersonol
a gwybodaeth diogelu bwysig.
120
00:06:20,740 --> 00:06:24,498
Felly pam dylech chi ofyn
am werthoedd yn y broses ymgeisio?
121
00:06:25,480 --> 00:06:29,250
Yn gyntaf, am ei fod yn sicrhau bod
yr ymgeiswyr sy'n ceisio am eich rolau
122
00:06:29,300 --> 00:06:32,550
yn cael eu cymell
gan y rôl a chan weithio i chi,
123
00:06:32,600 --> 00:06:34,295
gan eu bod nhw wedi gorfod ystyried
124
00:06:34,345 --> 00:06:37,760
sut byddai eu gwerthoedd yn cyd-fynd
â'r rôl maen nhw wedi gwneud cais amdani.
125
00:06:38,280 --> 00:06:41,620
Ac yn ail, mae'n eich galluogi chi
i hidlo allan ymgeiswyr
126
00:06:41,670 --> 00:06:45,947
nad yw eu gwerthoedd a'u hagweddau'n
gweddu i rôl mewn gofal cymdeithasol.
127
00:06:46,320 --> 00:06:49,255
Gallai deimlo fel peth
anghyffredin iawn
128
00:06:49,305 --> 00:06:51,095
i fod â chymaint o ymgeiswyr
129
00:06:51,145 --> 00:06:55,135
nes y gallwch fforddio hidlo pobl allan
yn gynnar yn y broses recriwtio,
130
00:06:55,273 --> 00:06:56,750
ond fel rydyn ni'n gwybod,
131
00:06:56,800 --> 00:06:58,550
gallwch hyfforddi ar gyfer sgil,
132
00:06:58,600 --> 00:07:01,150
ac ar gyfer llawer o'r sgiliau
angenrheidiol mewn gofal cymdeithasol,
133
00:07:01,200 --> 00:07:04,160
ond allwch chi ddim hyfforddi
ar gyfer gwerthoedd ac agwedd.
134
00:07:04,480 --> 00:07:06,510
Pan fo gan staff y gwerthoedd iawn,
135
00:07:06,560 --> 00:07:10,120
maen nhw'n fwy ymrwymedig
i ddysgu'r sgiliau i wneud eu rôl yn dda.
136
00:07:10,360 --> 00:07:13,200
Drwy ganolbwyntio ar werthoedd
ar y cam ymgeisio,
137
00:07:13,250 --> 00:07:17,160
byddwch yn arbed amser o fewn
amserlen waith sydd eisoes yn brysur,
138
00:07:17,210 --> 00:07:20,080
drwy sicrhau bod y bobl rydych chi'n
eu gwahodd i gyfweliad
139
00:07:20,130 --> 00:07:23,510
wedi dangos eu bod nhw wedi meddwl
am beth yw'r gwerthoedd
140
00:07:23,560 --> 00:07:25,451
a'u bod nhw'n rhannu eich gwerthoedd.
141
00:07:26,360 --> 00:07:30,707
Dyma rai ffyrdd gwahanol
o gael ymgeiswyr i ddangos eu gwerthoedd
142
00:07:30,757 --> 00:07:33,327
ar y cam ymgeisio a llunio rhestr fer.
143
00:07:33,600 --> 00:07:37,160
Gallech ystyried cynnwys
cwestiwn yn eich proses ymgeisio
144
00:07:37,210 --> 00:07:39,815
lle rydych chi'n gofyn i ymgeiswyr
rannu enghreifftiau
145
00:07:39,865 --> 00:07:43,840
o sut maen nhw wedi dangos eich
gwerthoedd yn eu gwaith neu yn eu bywyd.
146
00:07:44,220 --> 00:07:46,815
Gallai hyn fod yn rhan
o'r wybodaeth ychwanegol
147
00:07:46,865 --> 00:07:48,989
maen nhw'n ei rhoi
ar eich ffurflen gais.
148
00:07:49,420 --> 00:07:52,320
Ond os nad ydych chi'n gallu
ei gynnwys yn y ffurflen gais,
149
00:07:52,370 --> 00:07:55,880
gallech ofyn iddyn nhw ei gynnwys
mewn e-bost neu lythyr eglurhaol.
150
00:07:56,400 --> 00:07:59,255
Mae rhai sefydliadau'n
rhoi cynnig ar ffyrdd arloesol
151
00:07:59,305 --> 00:08:01,335
o leihau'r amser mae recriwtio'n ei gymryd
152
00:08:01,385 --> 00:08:04,055
a gwneud y broses
yn fwy hygyrch i ymgeiswyr,
153
00:08:04,105 --> 00:08:07,175
felly maen nhw'n rhoi cyfle
i ymgeiswyr recordio
154
00:08:07,225 --> 00:08:10,920
nodyn llais ymgeisio dwy funud,
"amdana i a fy ngwerthoedd",
155
00:08:10,981 --> 00:08:14,440
y gallan nhw ei anfon
ynghyd â ffurflen gais fer.
156
00:08:15,280 --> 00:08:19,055
Syniad arall fyddai rhoi'r gwerthoedd a'r
ymddygiadau rydych chi'n chwilio amdanynt
157
00:08:19,105 --> 00:08:20,975
yn eich manylebau person,
158
00:08:21,025 --> 00:08:24,560
gan gymryd y geiriad o'ch
fframwaith gwerthoedd ac ymddygiadau.
159
00:08:25,040 --> 00:08:29,280
Os yw'ch sefydliad wedi cytuno ar
ddisgrifiad swydd a manyleb person
160
00:08:29,330 --> 00:08:30,920
na allwch chi eu hailysgrifennu,
161
00:08:30,970 --> 00:08:34,790
gallech chi ddal i gynnwys y gwerthoedd
hynny sy'n benodol i'ch gwasanaeth chi,
162
00:08:34,840 --> 00:08:38,590
efallai drwy ychwanegu adran ychwanegol
at ddiwedd y fanyleb person
163
00:08:38,640 --> 00:08:41,082
i sôn am eich gwerthoedd penodol chi.
164
00:08:41,132 --> 00:08:43,535
Fel arall, gallech chi
ychwanegu'r gwerthoedd
165
00:08:43,585 --> 00:08:47,110
at eitemau sydd eisoes wedi'u
rhestru yn y fanyleb person.
166
00:08:47,160 --> 00:08:50,784
Er enghraifft, petai maen prawf
yn y fanyleb person
167
00:08:50,834 --> 00:08:56,080
yn nodi rhywbeth fel "cynnwys plant mewn
penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw",
168
00:08:56,130 --> 00:09:01,400
gallech chi ychwanegu "dangos
parch a thosturi" at ddiwedd y frawddeg.
169
00:09:02,320 --> 00:09:04,920
Mae cael y gwerthoedd
yn y fanyleb person
170
00:09:04,970 --> 00:09:07,640
yn golygu y gallwch ei defnyddio
i lunio rhestr fer o ymgeiswyr
171
00:09:07,690 --> 00:09:10,520
sy'n dangos eu bod nhw'n
rhannu eich gwerthoedd
172
00:09:10,570 --> 00:09:12,520
ac wedi'u cymell i weithio i chi.
173
00:09:12,960 --> 00:09:16,310
Mae angen hyfforddi eich recriwtwyr
i lunio rhestrau byr o ymgeiswyr
174
00:09:16,360 --> 00:09:20,950
sy'n rhannu enghreifftiau o'u gwerthoedd
o'u profiadau a'u cefndiroedd amrywiol
175
00:09:21,000 --> 00:09:22,883
yn ogystal ag o'u profiad gwaith.
176
00:09:23,440 --> 00:09:25,322
Felly hoffem orffen y fideo hwn
177
00:09:25,372 --> 00:09:29,000
gyda phrif awgrymiadau
a chwestiynau i fyfyrio arnyn nhw,
178
00:09:29,050 --> 00:09:32,270
i'ch ysbrydoli a'ch cefnogi
i wreiddio eich gwerthoedd
179
00:09:32,320 --> 00:09:35,249
yn eich hysbysebion
a'ch gwaith denu ymgeiswyr.
180
00:09:36,623 --> 00:09:38,240
Prif awgrym un:
181
00:09:38,392 --> 00:09:41,920
ystyriwch beth sy'n unigryw
am ddiwylliant a gwerthoedd eich gweithle
182
00:09:41,970 --> 00:09:44,070
sy'n eich gwneud chi'n gyflogwr o ddewis,
183
00:09:44,120 --> 00:09:48,122
a chynhwyswch hyn yn eich hysbysebion
a'ch gweithgareddau denu ymgeiswyr.
184
00:09:48,560 --> 00:09:49,706
Prif awgrym dau:
185
00:09:49,840 --> 00:09:51,800
gwreiddiwch werthoedd ac ymddygiadau
186
00:09:51,850 --> 00:09:54,280
yn eich disgrifiadau swydd
a'ch manylebau person,
187
00:09:54,330 --> 00:09:57,135
a gofynnwch i ymgeiswyr rannu
enghreifftiau o'u gwaith a'u bywyd
188
00:09:57,185 --> 00:10:01,720
o sut maen nhw wedi dangos eich
gwerthoedd, fel rhan o'ch proses ymgeisio.
189
00:10:02,160 --> 00:10:03,449
A phrif awgrym tri:
190
00:10:03,661 --> 00:10:07,560
rhowch ar y rhestr fer yr ymgeiswyr
sy'n rhannu eich gwerthoedd,
191
00:10:07,610 --> 00:10:09,720
ac y gallwch chi eu hyfforddi
ar gyfer sgil.
192
00:10:11,360 --> 00:10:13,987
A dyma'r tri chwestiwn
i fyfyrio arnyn nhw.
193
00:10:14,338 --> 00:10:18,160
Sut mae'r gwerthoedd a'r ymddygiadau
sy'n bwysicaf yn eich gweithle
194
00:10:18,210 --> 00:10:20,080
wedi'u gwreiddio
yn eich hysbysebion swyddi,
195
00:10:20,130 --> 00:10:22,800
eich disgrifiadau swydd,
a'ch manylebau person?
196
00:10:23,261 --> 00:10:26,960
Pa mor effeithiol ydych chi'n denu
pobl ar gyfer eich swyddi
197
00:10:27,010 --> 00:10:28,915
sydd â'r gwerthoedd a'r ymddygiadau
198
00:10:28,965 --> 00:10:31,400
all sicrhau eu bod nhw'n gallu
llwyddo yn eich rôl chi?
199
00:10:32,000 --> 00:10:35,360
A beth mae angen i chi ei wneud nesaf
i sicrhau y gallwch chi ddenu
200
00:10:35,410 --> 00:10:37,895
ac adnabod cronfa mor eang â phosib
201
00:10:37,945 --> 00:10:40,960
o ymgeiswyr fydd yn gwireddu
eich gwerthoedd yn eu gwaith?
202
00:10:42,133 --> 00:10:44,840
Diolch am gymryd yr amser
i wylio'r fideo hwn
203
00:10:44,890 --> 00:10:48,360
ac i ddysgu sut i ddenu ymgeiswyr
sy'n rhannu eich gwerthoedd.
204
00:10:48,641 --> 00:10:52,055
Ymunwch â ni yn y fideo nesaf,
lle byddwn ni'n archwilio
205
00:10:52,105 --> 00:10:55,375
sut i asesu gwerthoedd ac ymddygiadau
ymgeiswyr yn effeithiol
206
00:10:55,425 --> 00:10:58,040
yn ystod y broses gyfweld a dethol.