Jump to content
Ymgeisio

Cael y wybodaeth iawn wrth eich ymgeiswyr, er mwyn i chi allu dod o hyd i bobl sy'n rhannu eich gwerthoedd a'ch gweledigaeth a'u rhoi ar y rhestr fer.

Cael y wybodaeth iawn wrth eich ymgeiswyr, er mwyn i chi allu dod o hyd i bobl sy'n rhannu eich gwerthoedd a'ch gweledigaeth a'u rhoi ar y rhestr fer.

Dylai prosesau ymgeisio am swyddi fod mor syml a hygyrch â phosib. Dylai'r broses helpu ymgeiswyr i ddeall beth yw eich gwerthoedd a'ch diwylliant. 

Dylai ymgeiswyr allu rhannu sut maen nhw'n arddel eich gwerthoedd a'ch diwylliant, ac yn cyd-fynd â nhw. Mae hyn yn bwysig oherwydd:

  • nid yw’n digalonni pobl sy'n ystyried gwneud cais am waith gyda phroses ymgeisio sy'n hir neu'n anhygyrch iddyn nhw
  • ei fod yn annog ymgeiswyr i feddwl am sut mae eu gwerthoedd a'u hymddygiadau eu hunain yn cyd-fynd â diwylliant a gwerthoedd eich cartref gofal cyn iddyn nhw wneud cais i weithio i chi
  • ei fod yn gosod disgwyliadau clir o ran yr ymddygiadau a'r gwerthoedd y byddwch chi, plant a phobl ifanc, eisiau eu gweld
  • ei fod yn dweud mwy wrthych chi am yr ymgeisydd – y tu hwnt i'r wybodaeth am ddiogelu a chyflogaeth – er mwyn i chi allu gwneud penderfyniadau recriwtio diogel a theg ynglŷn â’u haddasrwydd i weithio yn eich cartref gofal preswyl.

Sut i gasglu ac asesu gwybodaeth am werthoedd ac ymddygiadau yn y broses ymgeisio

Gallwch gasglu ac asesu gwybodaeth am werthoedd ac ymddygiadau yn y broses ymgeisio drwy:

  • esbonio'r gwerthoedd a'r ymddygiadau rydych chi'n eu disgwyl wrth ymgeiswyr mewn pecyn recriwtio, fel y gallant feddwl am sut byddent yn dangos y rhain yn eu cais
  • gofyn i ymgeiswyr yn ystod y cam ymgeisio, yn y ffurflen gais neu'r llythyr eglurhaol, roi enghreifftiau i chi – o'u gwaith, gwirfoddoli, neu unrhyw brofiadau eraill – pryd maen nhw wedi dangos eich gwerthoedd a'ch ymddygiadau
  • cynnwys gwerthoedd ac ymddygiadau yn eich meini prawf wrth lunio rhestr fer, a llunio rhestr fer o ymgeiswyr sydd wedi dangos eich gwerthoedd yn ymarferol yn eu cais
  • hyfforddi pobl sy'n llunio rhestrau byrion i adnabod y gwerthoedd a'r ymddygiadau rydych chi'n chwilio amdanyn nhw, a sut i weld a yw ymgeiswyr wedi'u dangos yn eu cais.

Adnoddau

Dyma rai adnoddau i'ch cefnogi i gynnwys eich gwerthoedd a'ch ymddygiadau yn eich prosesau ymgeisio ac wrth lunio’r rhestr fer.

Awgrymiadau ar gyfer gwneud gwerthoedd yn rhan o'ch proses ymgeisio – Gofal Cymdeithasol Cymru

Awgrymiadau da ar sut i gynllunio proses ymgeisio sy'n seiliedig ar werthoedd, o'r ffurflen gais i lunio rhestr fer.