Jump to content
Asesu

Defnyddio adnoddau gwahanol i asesu a yw ymgeiswyr yn arddel eich gwerthoedd a'ch ymddygiadau, ac a fyddan nhw’r bobl iawn ar gyfer eich swyddi.

Defnyddio adnoddau gwahanol i asesu a yw ymgeiswyr yn arddel eich gwerthoedd a'ch ymddygiadau, ac a fyddan nhw’r bobl iawn ar gyfer eich swyddi.

Gallwn gynyddu ein siawns o recriwtio'r person iawn os ydyn ni’n:

  • defnyddio gwahanol adnoddau asesu
  • cynnwys amrywiaeth o bobl yn ein proses recriwtio.

Mae adnoddau asesu seiliedig ar werthoedd yn bwysig oherwydd eu bod yn:

  • cyfrannu at ffordd mwy cynhwysol o recriwtio drwy alluogi gwahanol bobl i gwrdd ag ymgeiswyr
  • rhoi cyfleoedd gwahanol i ymgeiswyr ddangos eu profiadau, eu gwerthoedd a'u hymddygiadau
  • rhoi cyfleoedd i ymgeiswyr sydd â phrofiad gwaith nad yw’n berthnasol, a'r rhai sydd â phrofiad, i ddangos sut bydden nhw’n defnyddio eu gwerthoedd a'u hymddygiadau mewn rôl yn eich cartref plant.

Mae enghreifftiau o adnoddau recriwtio sy’n seiliedig ar werthoedd yn cynnwys:

  • cyfweliadau sy'n seiliedig ar werthoedd
  • gweithgareddau grŵp (cwrdd â'r tîm, cwrdd â'n plant a'n pobl ifanc)
  • tasgau ysgrifenedig neu gyfrifiadurol
  • trafodaethau sy'n seiliedig ar senarios
  • arsylwadau gwaith.

Sut i adnabod ac asesu gwerthoedd ac ymddygiadau ymgeiswyr yn y broses ddethol

Gallwch adnabod ac asesu gwerthoedd ac ymddygiadau ymgeiswyr drwy’r canlynol:

  • cynllunio adnoddau asesu (cyfweliad, gweithgareddau, tasgau) sy'n berthnasol i'r rôl, ac sy'n gadael i ymgeiswyr ddangos sut byddent yn defnyddio gwerthoedd eich gweithle mewn sefyllfaoedd perthnasol
  • defnyddio adnoddau asesu gwahanol i roi cyfleoedd gwahanol i'ch ymgeiswyr rannu eu gwerthoedd gyda chi, a fydd yn galluogi eich proses i fod yn fwy cynhwysol 
  • cael meini prawf ymddygiad clir ar gyfer y gwerthoedd rydych chi'n eu hasesu, fel y gallwch chi benderfynu, yn deg ac yn gyson, a yw'ch ymgeiswyr yn arddel y gwerthoedd a'r ymddygiadau yn y broses ddethol
  • sicrhau eich bod chi'n hyfforddi'r bobl sy'n ymwneud â recriwtio i asesu'n deg, yn wrthrychol ac yn gynhwysol a yw ymgeiswyr yn rhannu eich gwerthoedd.

Adnoddau

Dyma rai adnoddau i'ch cefnogi i gynnwys eich gwerthoedd a'ch ymddygiadau yn eich prosesau dethol.

Asesu gwerthoedd yn eich proses ddethol – Gofal Cymdeithasol Cymru

Awgrymiadau da ar sut i gynllunio proses ddethol sy'n seiliedig ar werthoedd a sut i asesu a yw ymgeiswyr yn rhannu ac yn gallu dangos gwerthoedd ac ymddygiadau eich cartref gofal i blant.

Cynnwys defnyddwyr gwasanaethau mewn recriwtio seiliedig ar werthoedd (gofal cymdeithasol i oedolion)  Sgiliau Gofal

Mae'r adnodd hwn yn rhannu ffyrdd ymarferol o gynnwys y rhai sy'n derbyn gofal a chymorth ym maes gofal cymdeithasol i oedolion. Gallech chi ddefnyddio'r canllawiau hyn i fyfyrio ar sut gallech chi gynnwys plant a phobl ifanc i ddod o hyd i ymgeiswyr â'r gwerthoedd a'r ymddygiadau a fyddai'n cyd-fynd â gwerthoedd y cartref plant a pha rai sy’n bwysig i blant a phobl ifanc.