Jump to content
Cymathu

Sefydlu, datblygu a rheoli staff newydd i wneud yn siŵr eu bod yn deall eich disgwyliadau a'ch diwylliant, ac yn gwybod sut i ddefnyddio eich gwerthoedd a’ch ymddygiadau yn eu gwaith.

Sefydlu, datblygu a rheoli staff newydd i wneud yn siŵr eu bod yn deall eich disgwyliadau a'ch diwylliant, ac yn gwybod sut i ddefnyddio eich gwerthoedd a’ch ymddygiadau yn eu gwaith.

Rydyn ni’n gwybod bod cadw staff yn her allweddol ym maes gofal preswyl i blant.

Ar ôl yr holl waith rydych chi wedi'i wneud i recriwtio'r staff iawn sy'n rhannu eich gwerthoedd, mae'n bwysig parhau i ganolbwyntio ar werthoedd eich gweithle unwaith y bydd staff yn ymuno â'ch sefydliad. Mae'n bwysig oherwydd ei fod yn:

  • rhoi gwybod i staff yn union beth oeddech chi'n ei ddisgwyl wrthyn nhw, fel eu bod nhw'n teimlo'n fwy hyderus a diogel
  • sicrhau bod staff yn gwybod eich bod chi'n cydnabod y gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud i'r plant a'r bobl ifanc maen nhw'n eu cefnogi drwy ddangos gwerthoedd eich gweithle.

Sut i wneud gwerthoedd ac ymddygiadau yn rhan o brosesau cynefino, goruchwylio a rheoli

Gallwch chi wneud gwerthoedd ac ymddygiadau yn rhan o brosesau cynefino, goruchwylio a rheoli drwy’r canlynol:

  • cynnwys eich gwerthoedd a'ch ymddygiadau disgwyliedig yng nghod ymddygiad eich gweithle ac ym mhob polisi a gweithdrefn berthnasol
  • rhannu eich gwerthoedd, eich ymddygiadau a'ch cod ymddygiad gyda'ch staff yn eu cyfnod cynefino, er mwyn gosod disgwyliadau clir a sicrhau eu bod yn deall sut i arddel y gwerthoedd yn eu gwaith
  • gwneud eich sesiynau goruchwylio gyda staff yn seiliedig ar werthoedd, gan ganolbwyntio nid yn unig ar yr hyn y mae staff yn ei wneud, ond sut maen nhw'n arddel y gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n gwneud gwahaniaeth yn eu gwaith
  • yn eu harfarniadau, cysylltu amcanion eich staff â gwerthoedd - mae hyn yn eu helpu i ddeall bod y gwerthoedd yn bwysig, a gall eu helpu i ddeall sut i ddefnyddio gwerthoedd er mwyn datblygu a gwella.

Adnoddau

Dyma rai adnoddau i’ch helpu i gynnwys eich gwerthoedd a’ch ymddygiadau yn eich prosesau cynefino, goruchwylio a rheoli staff.

Awgrymiadau ar gyfer cymathu gwerthoedd mewn sesiynau cynefino, goruchwylio ac arfarnu – Gofal Cymdeithasol Cymru

Awgrymiadau da ar sut i wneud sgyrsiau sy'n seiliedig ar werthoedd yn rhan o'ch sesiynau cynefino, goruchwylio a sgyrsiau arfarnu gyda staff.

Pecyn cymorth rheoli perfformiad pobl – Cyflogwyr y GIG

Mae’r pecyn cymorth hwn yn cynnig cymorth ymarferol a chanllawiau ar sut i reoli staff ac i gael sgyrsiau sy’n cynnwys gwerthoedd, ymddygiadau ac agwedd.

Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma – Hyb ACE Cymru 

Mae’r fframwaith yn egluro sut mae unigolion, teuluoedd, neu rwydweithiau, sefydliadau a systemau cymorth eraill yn ystyried trallod a thrawma.