1
00:00:04,666 --> 00:00:07,415
Croeso i'r ail o'n hadnoddau fideo
2
00:00:07,465 --> 00:00:09,695
sydd wedi'u datblygu
i gefnogi sefydliadau
3
00:00:09,745 --> 00:00:11,630
sy'n gweithio ym maes
gofal cymdeithasol plant,
4
00:00:11,680 --> 00:00:15,633
i ddeall sut gallan nhw wreiddio dull
recriwtio sy'n seiliedig ar werthoedd.
5
00:00:15,994 --> 00:00:21,099
Yn y fideo hwn byddwn ni'n canolbwyntio
ar y cyntaf o'r 5A, 'articulate' - mynegi.
6
00:00:21,380 --> 00:00:24,655
Dangoswn sut i ddatblygu a chyfleu
7
00:00:24,705 --> 00:00:27,010
y gwerthoedd a'r ymddygiadau
rydych chi'n chwilio amdanynt
8
00:00:27,060 --> 00:00:29,107
wrth recriwtio'r bobl iawn i'ch lleoliad.
9
00:00:29,760 --> 00:00:32,175
Mae mynegi eich gwerthoedd a'ch diwylliant
10
00:00:32,225 --> 00:00:36,175
yn eich galluogi chi i ddisgrifio beth
yw personoliaeth unigryw eich lleoliad
11
00:00:36,225 --> 00:00:37,640
a beth sy'n bwysicaf
12
00:00:37,720 --> 00:00:40,960
wrth wneud eich gwaith chi
gyda phlant a phobl ifanc.
13
00:00:41,380 --> 00:00:43,920
Mae hyn yn bwysig am nifer o resymau.
14
00:00:44,060 --> 00:00:47,580
Mae'n disgrifio diwylliant unigryw
eich sefydliad neu leoliad
15
00:00:47,660 --> 00:00:52,040
i ddarpar recriwtiaid, fel y gallwch
ddenu staff sy'n rhannu eich gwerthoedd.
16
00:00:52,480 --> 00:00:56,960
Mae'n cyfrannu at gynhwysiant
drwy ddenu ystod fwy amrywiol o staff
17
00:00:57,040 --> 00:01:01,640
sydd efallai heb brofiad o waith gofal
ond sy'n rhannu eich gwerthoedd chi.
18
00:01:02,000 --> 00:01:05,440
Mae'n eich galluogi chi i ganolbwyntio
eich proses asesu a chyfweld
19
00:01:05,520 --> 00:01:08,960
ar y gwerthoedd a'r ymddygiadau
sy'n bwysig i blant a phobl ifanc
20
00:01:09,040 --> 00:01:10,920
ac i ddiwylliant eich gweithle.
21
00:01:11,320 --> 00:01:14,120
Ac mae'n cyfrannu at gadw staff gwych
22
00:01:14,421 --> 00:01:17,440
sy'n teimlo cysylltiad â'ch gweledigaeth,
eich gwerthoedd, a'ch diwylliant,
23
00:01:17,520 --> 00:01:22,120
ac sy'n deall sut i wneud gwahaniaeth
yn eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc.
24
00:01:22,859 --> 00:01:25,720
Cyn i ni edrych ar
sut i fynegi eich gwerthoedd,
25
00:01:25,800 --> 00:01:29,112
mae'n ddefnyddiol ystyried
beth yn union yw gwerthoedd.
26
00:01:29,723 --> 00:01:34,295
Mae gwerthoedd yn setiau o gredoau
sydd gan unigolyn neu sefydliad
27
00:01:34,345 --> 00:01:36,238
am beth sy'n bwysig.
28
00:01:36,580 --> 00:01:39,760
Dw i'n hoffi meddwl am werthoedd
fel rhyw fath o gwmpawd
29
00:01:39,810 --> 00:01:42,735
sy'n eich helpu chi i benderfynu
beth i'w wneud
30
00:01:42,785 --> 00:01:45,360
ac sy'n arwain eich
gweithredoedd a'ch ymddygiad.
31
00:01:45,461 --> 00:01:49,286
Gwerthoedd yw'r 'sut'
sy'n arwain beth rydych chi'n ei wneud.
32
00:01:50,061 --> 00:01:53,440
Mae gwerthoedd
yn rhan o ddiwylliant eich gweithle.
33
00:01:53,631 --> 00:01:57,640
Wrth ddiwylliant, rydyn ni'n golygu
cymeriad a phersonoliaeth eich sefydliad
34
00:01:57,720 --> 00:01:59,285
a beth sy'n ei wneud yn unigryw.
35
00:01:59,626 --> 00:02:02,255
Gallwch chi gael
dau sefydliad neu leoliad
36
00:02:02,305 --> 00:02:04,400
sy'n gwneud yn union yr un peth,
37
00:02:04,480 --> 00:02:08,200
ond mae'r ffordd maen nhw'n gwneud pethau
yn diffinio eu diwylliant unigryw.
38
00:02:08,960 --> 00:02:11,415
Mae gwybod a mynegi
eich diwylliant a'ch gwerthoedd
39
00:02:11,465 --> 00:02:14,495
yn rhan bwysig iawn o'ch proses recriwtio,
40
00:02:15,000 --> 00:02:17,650
gan ei fod yn dangos ar ddechrau'r broses
41
00:02:17,700 --> 00:02:20,880
beth yw eich disgwyliadau
o'r staff sy'n gweithio i chi,
42
00:02:20,921 --> 00:02:24,680
sut brofiad fydd bod yn rhan
o'ch lleoliad neu sefydliad,
43
00:02:24,760 --> 00:02:27,960
a beth rydych chi'n ei werthfawrogi
ac yn ei gydnabod yn eich staff.
44
00:02:28,440 --> 00:02:31,280
Fel rhan o'r pecyn offer recriwtio
sy'n seiliedig ar werthoedd
45
00:02:31,330 --> 00:02:33,695
ar gyfer gofal cymdeithasol preswyl plant,
46
00:02:33,745 --> 00:02:36,015
rydyn ni wedi datblygu
set enghreifftiol o werthoedd
47
00:02:36,065 --> 00:02:38,241
ar gyfer lleoliadau gofal preswyl
48
00:02:38,321 --> 00:02:41,560
yn seiliedig ar ganllawiau ymarfer
Gofal Cymdeithasol Cymru.
49
00:02:42,540 --> 00:02:46,400
Roedd y gwerthoedd cyffredin yn cynnwys
canolbwyntio ar y plentyn,
50
00:02:46,441 --> 00:02:48,175
parch a thosturi,
51
00:02:48,225 --> 00:02:50,270
gonestrwydd a chyfrifoldeb,
52
00:02:50,320 --> 00:02:51,800
a gwaith tîm.
53
00:02:52,280 --> 00:02:55,920
Efallai gallech chi gymryd eiliad
i fyfyrio ar sut mae'r gwerthoedd hyn
54
00:02:56,000 --> 00:02:59,640
yn debyg neu'n wahanol
i'r gwerthoedd yn eich lleoliad chi,
55
00:02:59,720 --> 00:03:03,400
a sut maen nhw'n cysylltu â'ch
proses recriwtio ar hyn o bryd.
56
00:03:03,940 --> 00:03:07,800
Ar gyfer pob gwerth rydych chi'n ei
adnabod fel un pwysig yn eich lleoliad,
57
00:03:07,880 --> 00:03:10,878
mae'n ddefnyddiol datblygu
set o ymddygiadau hefyd,
58
00:03:10,958 --> 00:03:14,030
sy'n disgrifio i ddarpar staff
a staff cyfredol
59
00:03:14,080 --> 00:03:19,000
sut mae'r gwerthoedd hynny'n edrych
yng ngwaith pobl o ddydd i ddydd.
60
00:03:19,041 --> 00:03:23,080
Er enghraifft, gadewch i ni edrych
ar y gwerth o barch a thosturi.
61
00:03:23,160 --> 00:03:26,120
Gallai rhai o'r ymddygiadau
y byddech chi'n eu cynnwys
62
00:03:26,170 --> 00:03:30,150
i ddisgrifio sut y gall parch
a thosturi edrych yn ymarferol gynnwys
63
00:03:30,200 --> 00:03:35,120
bod yn wirioneddol gynnes, caredig,
empathetig, dibynadwy, a thosturiol
64
00:03:35,200 --> 00:03:37,720
tuag at bawb rydyn ni'n gweithio
gyda nhw ac yn eu cefnogi.
65
00:03:37,900 --> 00:03:42,350
Ymddygiad posib arall fyddai
parchu hawliau plant a phobl ifanc,
66
00:03:42,400 --> 00:03:44,615
gan geisio sicrhau nad yw eu hymddygiad
67
00:03:44,665 --> 00:03:47,320
yn niweidio nhw eu hunain
na phobl eraill.
68
00:03:47,680 --> 00:03:52,970
Yn y pecyn cymorth, mae hefyd enghraifft
o fframwaith gwerthoedd ac ymddygiadau
69
00:03:53,021 --> 00:03:55,080
yn seiliedig ar y pedwar gwerth hyn
70
00:03:55,160 --> 00:03:58,576
fel y gallwch ddychmygu
sut fyddai'n edrych yn eich sefydliad chi
71
00:03:58,656 --> 00:04:01,781
ac efallai fyfyrio ar beth sydd
gyda chi ar waith yn barod.
72
00:04:02,480 --> 00:04:04,655
Mae cael fframwaith
gwerthoedd ac ymddygiadau,
73
00:04:04,705 --> 00:04:10,073
a allai gynnwys pedwar neu bum
prif werth hoffech i staff eu dangos,
74
00:04:10,114 --> 00:04:13,953
ynghyd â set o bedwar neu bump
o ymddygiadau o dan bob gwerth,
75
00:04:14,033 --> 00:04:18,189
yn gam cyntaf tuag at roi dull
sy'n seiliedig ar werthoedd ar waith
76
00:04:18,269 --> 00:04:20,400
mewn recriwtio yn eich sefydliad.
77
00:04:21,138 --> 00:04:23,615
Heb y fframwaith gwerthoedd
ac ymddygiadau hwn,
78
00:04:23,665 --> 00:04:26,720
mae'n anodd rhannu'n glir
gyda darpar recriwtiaid
79
00:04:26,800 --> 00:04:30,060
am beth rydych chi'n chwilio amdano
yn eich hysbyseb a'ch proses ymgeisio.
80
00:04:30,140 --> 00:04:33,215
A phan fyddwch yn asesu a dethol staff,
81
00:04:33,265 --> 00:04:37,240
heb weledigaeth glir o'r gwerthoedd
a'r ymddygiadau rydych chi eisiau
82
00:04:37,301 --> 00:04:40,800
allwch chi ddim bod yn siŵr
y byddwch chi'n dewis y bobl iawn.
83
00:04:41,640 --> 00:04:44,535
Felly symudwn ymlaen nawr
i rannu syniadau
84
00:04:44,585 --> 00:04:47,950
am sut i ddatblygu eich fframwaith
gwerthoedd ac ymddygiadau eich hun,
85
00:04:48,000 --> 00:04:51,080
fel y cam cyntaf ar eich taith
recriwtio sy'n seiliedig ar werthoedd.
86
00:04:51,640 --> 00:04:54,895
Gadewch i ni rannu syniadau yn gyntaf
am beth i'w wneud
87
00:04:54,945 --> 00:04:59,120
os nad oes fframwaith gwerthoedd
ac ymddygiadau gyda chi yn barod.
88
00:04:59,873 --> 00:05:04,615
Gallech ddechrau drwy ddefnyddio'r
fframwaith enghreifftiol o'r pecyn cymorth
89
00:05:04,665 --> 00:05:08,295
i feddwl am sut gallai pob un o'r
gwerthoedd a'r ymddygiadau hyn berthyn
90
00:05:08,345 --> 00:05:12,302
i ddiwylliant eich gweithle
a'ch disgwyliadau chi o'ch staff.
91
00:05:12,880 --> 00:05:17,440
Y ffordd fwyaf effeithiol o ddatblygu
gwerthoedd y mae staff yn eu cefnogi
92
00:05:17,520 --> 00:05:22,400
yw eu cynnwys nhw a'r plant a'r bobl ifanc
wrth ddatblygu'r gwerthoedd gyda chi.
93
00:05:22,640 --> 00:05:26,160
Felly dylech chi ddod o hyd
i wahanol ffyrdd o gynnwys eich staff
94
00:05:26,240 --> 00:05:28,455
a'r plant a'r bobl ifanc mewn trafodaeth
95
00:05:28,505 --> 00:05:31,815
am y gwerthoedd a'r ymddygiadau
sy'n bwysicaf iddyn nhw yn eich lleoliad,
96
00:05:31,865 --> 00:05:33,800
ac i gael eu hadborth a'u mewnbwn nhw
97
00:05:33,880 --> 00:05:36,960
wrth lunio fframwaith
sy'n berthnasol i'ch lleoliad.
98
00:05:38,200 --> 00:05:40,400
Gallech wneud hyn
drwy gynnal grwpiau ffocws,
99
00:05:40,720 --> 00:05:42,935
neu drwy wneud gweithgareddau
hwyliog gyda phlant
100
00:05:42,985 --> 00:05:46,035
yn edrych ar sut mae gwerthoedd
yn edrych ac yn teimlo iddyn nhw,
101
00:05:46,085 --> 00:05:48,455
ac efallai drwy rannu'r
fframwaith enghreifftiol
102
00:05:48,505 --> 00:05:52,643
a gofyn iddyn nhw am syniadau
am sut i'w addasu i'ch lleoliad.
103
00:05:53,640 --> 00:05:57,400
Mae'n bwysig sicrhau bod
y fframwaith rydych chi'n ei greu
104
00:05:57,450 --> 00:06:00,680
yn adlewyrchu ac yn disgrifio
diwylliant eich sefydliad
105
00:06:00,760 --> 00:06:04,360
mewn iaith sy'n golygu rhywbeth
i staff ac i blant a phobl ifanc,
106
00:06:04,440 --> 00:06:07,003
ac y gallan nhw ei defnyddio
o ddydd i ddydd.
107
00:06:07,320 --> 00:06:09,706
Felly cynhwyswch staff
a phlant a phobl ifanc
108
00:06:09,786 --> 00:06:13,267
wrth greu eu hiaith eu hunain
i ddisgrifio'r mathau o ymddygiadau
109
00:06:13,347 --> 00:06:16,600
y mae staff yn eu dangos yn y gwaith
pan maen nhw'n gwireddu'r gwerthoedd
110
00:06:16,680 --> 00:06:20,280
ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol
i'r plant a'r bobl ifanc yn eu gwaith.
111
00:06:21,000 --> 00:06:22,880
I helpu gyda'r meddwl hwn,
112
00:06:22,921 --> 00:06:25,280
rhannaf weithgaredd
dw i'n ei ddefnyddio yn aml.
113
00:06:25,640 --> 00:06:28,295
Dw i'n rhoi cylchgronau
a phapurau newydd i grwpiau
114
00:06:28,345 --> 00:06:31,095
ac yn gofyn iddyn nhw
greu gludwaith o luniau
115
00:06:31,145 --> 00:06:34,520
i ddangos y mathau o ymddygiadau
maen nhw'n teimlo sy'n bwysig.
116
00:06:34,721 --> 00:06:37,836
Ac wedyn dw i'n gofyn iddyn nhw
roi geiriau i bob llun,
117
00:06:37,916 --> 00:06:40,320
gan ddefnyddio geiriau
y maen nhw'n uniaethu â nhw,
118
00:06:40,400 --> 00:06:42,200
i ddisgrifio'r ymddygiad.
119
00:06:43,200 --> 00:06:46,920
Nesaf, ystyriwch sut gallwch sicrhau
bod eich arweinwyr a'ch rheolwyr
120
00:06:47,000 --> 00:06:50,620
wedi ymrwymo i fabwysiadu a defnyddio'r
fframwaith gwerthoedd ac ymddygiadau,
121
00:06:50,700 --> 00:06:55,080
ac iaith y gwerthoedd, wrth reoli staff
a gwneud penderfyniadau.
122
00:06:55,621 --> 00:06:58,400
All gwerthoedd ac ymddygiadau ddim
jyst bod yn addurn ar y wal;
123
00:06:58,480 --> 00:07:00,910
mae'n rhaid eu byw
a'u defnyddio bob dydd
124
00:07:00,960 --> 00:07:03,640
er mwyn iddynt ddod
yn rhan ystyrlon o'ch diwylliant.
125
00:07:04,160 --> 00:07:07,095
Ac unwaith rydych chi
wedi datblygu eich fframwaith,
126
00:07:07,145 --> 00:07:09,495
bydd angen cynllunio
sut byddwch chi'n cyfleu
127
00:07:09,545 --> 00:07:11,470
ac yn rhannu'r gwerthoedd
a'r ymddygiadau newydd,
128
00:07:11,520 --> 00:07:14,800
gyda'ch staff cyfredol
a gyda phlant a phobl ifanc.
129
00:07:15,720 --> 00:07:20,029
Meddyliwch am yr holl wahanol ffyrdd,
llefydd, a chyfleoedd sydd gyda chi
130
00:07:20,109 --> 00:07:21,895
i rannu'r gwerthoedd newydd
131
00:07:21,945 --> 00:07:25,280
mewn ffyrdd bydd pobl yn eu gweld
a'u clywed yn y gwaith.
132
00:07:25,651 --> 00:07:29,220
Mae'n bwysig dod yn ôl
at y gwerthoedd dro ar ôl tro,
133
00:07:29,300 --> 00:07:31,695
nes iddyn nhw ddod yn rhan o'r iaith
134
00:07:31,745 --> 00:07:34,280
a'r ffordd y mae pethau'n
cael eu gwneud yn eich sefydliad.
135
00:07:35,440 --> 00:07:38,960
Yna, pan fyddwch wedi datblygu
set o werthoedd sy'n iawn i chi,
136
00:07:39,116 --> 00:07:42,095
cynlluniwch sut i wreiddio'r
gwerthoedd a'r ymddygiadau newydd
137
00:07:42,145 --> 00:07:45,495
ym mhob rhan o'ch
prosesau recriwtio a rheoli
138
00:07:45,545 --> 00:07:48,736
gan ddefnyddio'r Model 5A ar gyfer
recriwtio sy'n seiliedig ar werthoedd.
139
00:07:49,620 --> 00:07:54,015
Ond beth os oes gan eich sefydliad eisoes
set ar wahân o werthoedd corfforaethol,
140
00:07:54,065 --> 00:07:56,415
rhai sydd efallai
ddim yn adlewyrchu'n llwyr
141
00:07:56,465 --> 00:07:59,600
eich lleoliad neu'ch
rhan chi o'r sefydliad?
142
00:08:00,212 --> 00:08:03,720
Neu beth os oes set o werthoedd
gyda chi ar gyfer eich lleoliad
143
00:08:03,800 --> 00:08:06,829
ond eich bod chi eisiau
eu hadolygu neu eu gwella nhw?
144
00:08:07,332 --> 00:08:11,350
Os oes gan eich sefydliad werthoedd
wedi'u cytuno'n gorfforaethol
145
00:08:11,400 --> 00:08:13,175
y mae'n rhaid i chi weithio gyda nhw,
146
00:08:13,225 --> 00:08:15,295
dyw hynny ddim yn eich rhwystro
rhag eu haddasu
147
00:08:15,345 --> 00:08:17,255
nac ychwanegu gwerthoedd penodol
148
00:08:17,305 --> 00:08:21,240
sy'n berthnasol i'ch gwaith chi
a'ch gwaith gyda phlant a phobl ifanc.
149
00:08:21,520 --> 00:08:25,670
Gallai'r gwerthoedd hyn gael eu
defnyddio dim ond ar gyfer recriwtio,
150
00:08:25,720 --> 00:08:29,495
neu efallai gallech eu defnyddio
fel rhan o'ch dulliau sefydlu,
151
00:08:29,545 --> 00:08:31,920
hyfforddi, goruchwylio, a rheoli staff,
152
00:08:32,000 --> 00:08:34,815
drwy ddefnyddio prosesau
cyfredol y sefydliad,
153
00:08:34,865 --> 00:08:37,239
ond gan gynnwys elfen
o'ch gwerthoedd eich hun.
154
00:08:37,560 --> 00:08:40,400
Byddwn yn edrych ar sut
gall hyn weithio yn y fideos nesaf,
155
00:08:40,480 --> 00:08:43,220
wrth edrych ar wahanol gamau'r
broses recriwtio.
156
00:08:44,273 --> 00:08:48,160
Os oes eisoes gennych set o werthoedd
ac ymddygiadau ar gyfer eich lleoliad,
157
00:08:48,240 --> 00:08:51,880
gallech ddefnyddio'r fframwaith
enghreifftiol yn y pecyn cymorth
158
00:08:51,960 --> 00:08:55,690
i edrych ar sut mae'ch gwerthoedd chi'n
cyd-fynd â'r rhai enghreifftiol,
159
00:08:55,740 --> 00:08:58,255
ac i adnabod ffyrdd
gallech chi eu mynegi nhw
160
00:08:58,305 --> 00:09:01,240
yn gliriach ac mewn ffordd
fwy perthnasol i'ch lleoliad.
161
00:09:01,863 --> 00:09:04,630
Gallech chi fyfyrio ar
a oes unrhyw fylchau,
162
00:09:04,680 --> 00:09:08,568
ac a oes gwerthoedd neu ymddygiadau
i'w hychwanegu i wella'ch fframwaith.
163
00:09:09,200 --> 00:09:11,615
Unwaith rydych chi wedi
diweddaru eich fframwaith,
164
00:09:11,665 --> 00:09:13,970
dylech chi ei rannu
gydag arweinwyr a rheolwyr
165
00:09:14,020 --> 00:09:15,815
a sicrhau eu bod
nhw'n rhannu'r un iaith
166
00:09:15,865 --> 00:09:18,516
ac wedi ymrwymo
i'w wreiddio yn eich lleoliad.
167
00:09:18,860 --> 00:09:20,675
Ac wedyn gallech chi gymryd amser
168
00:09:20,725 --> 00:09:22,775
i fyfyrio ar beth rydych chi
eisoes wedi'i wneud
169
00:09:22,825 --> 00:09:24,844
i gyfleu a rhannu'ch fframwaith
170
00:09:24,924 --> 00:09:27,680
gyda staff cyfredol,
staff rydych chi'n eu recriwtio,
171
00:09:27,760 --> 00:09:29,340
a gyda phlant a phobl ifanc.
172
00:09:29,440 --> 00:09:31,495
Ydych chi'n credu
gallech chi wneud mwy
173
00:09:31,545 --> 00:09:35,560
i gyfleu'r gwerthoedd a'r ymddygiadau
yn glir i staff ac i blant a phobl ifanc?
174
00:09:35,640 --> 00:09:39,790
Ac ydy'r gwerthoedd a'r ymddygiadau'n cael
eu defnyddio yn y ffyrdd mwyaf effeithiol
175
00:09:39,840 --> 00:09:42,095
pan rydych chi'n
recriwtio ac yn rheoli staff?
176
00:09:43,364 --> 00:09:45,295
Felly hoffwn ni orffen y fideo hwn
177
00:09:45,345 --> 00:09:48,255
gyda phrif awgrymiadau
a chwestiynau i fyfyrio arnyn nhw,
178
00:09:48,305 --> 00:09:50,215
i'ch ysbrydoli a'ch cefnogi
179
00:09:50,265 --> 00:09:54,000
wrth fynegi'r gwerthoedd a'r ymddygiadau
sy'n bwysig yn eich gweithle.
180
00:09:54,240 --> 00:09:55,720
Prif awgrym un:
181
00:09:56,122 --> 00:10:01,240
cynhwyswch staff a phlant a phobl ifanc
wrth ddatblygu eich gwerthoedd.
182
00:10:01,680 --> 00:10:03,030
Prif awgrym dau:
183
00:10:03,080 --> 00:10:07,200
ar gyfer pob gwerth, disgrifiwch hefyd
yr ymddygiad byddai staff yn ei ddangos
184
00:10:07,280 --> 00:10:09,804
wrth iddyn nhw fyw
y gwerth hwnnw yn eu gwaith.
185
00:10:10,040 --> 00:10:11,430
A phrif awgrym tri:
186
00:10:11,480 --> 00:10:14,015
cyfleuwch eich gwerthoedd
yn fewnol gyda staff
187
00:10:14,065 --> 00:10:16,840
ac yn allanol gydag ymgeiswyr
ar bob cyfle,
188
00:10:17,120 --> 00:10:19,760
iddynt wybod pam
y dylen nhw weithio i chi.
189
00:10:20,600 --> 00:10:24,480
A dyma dri chwestiwn
gallech chi fyfyrio arnyn nhw.
190
00:10:26,080 --> 00:10:27,695
Beth ydych chi wedi'i ddysgu heddiw
191
00:10:27,745 --> 00:10:31,240
am y gwerthoedd a'r ymddygiadau
sy'n bwysig yn eich lleoliad?
192
00:10:31,584 --> 00:10:34,935
Ydy'r gwerthoedd a'r ymddygiadau hyn
yn cael eu mynegi'n glir
193
00:10:34,985 --> 00:10:37,295
i staff newydd a chyfredol
eich lleoliad,
194
00:10:37,345 --> 00:10:39,415
yn yr hysbysebion,
y disgrifiadau swyddi,
195
00:10:39,465 --> 00:10:41,360
y cyfnod sefydlu,
a'r hyfforddiant?
196
00:10:41,944 --> 00:10:44,830
Ac yn drydydd, beth sydd angen
i chi'i wneud nesaf
197
00:10:44,880 --> 00:10:46,490
i sicrhau eich bod chi'n deall yn glir
198
00:10:46,540 --> 00:10:49,215
y gwerthoedd a'r ymddygiadau
rydych yn eu disgwyl gan staff,
199
00:10:49,265 --> 00:10:52,135
fel y gallwch greu dull recriwtio
sy'n seiliedig ar werthoedd
200
00:10:52,185 --> 00:10:54,776
a all adnabod y gwerthoedd hynny?
201
00:10:55,400 --> 00:10:58,150
Diolch am gymryd yr amser
i wylio'r fideo hwn
202
00:10:58,200 --> 00:11:02,830
ac i ddysgu sut i fynegi'r gwerthoedd
sy'n bwysig yn eich sefydliad.
203
00:11:03,200 --> 00:11:05,135
Ymunwch â ni yn y fideo nesaf,
204
00:11:05,185 --> 00:11:08,655
lle byddwn ni'n dysgu sut
i archwilio a gwreiddio gwerthoedd
205
00:11:08,705 --> 00:11:12,080
yn eich proses
denu ymgeiswyr ac ymgeisio.