Jump to content
Mynegi

Adnabod gwerthoedd a diwylliant eich gweithle, a'u rhannu gyda staff newydd a staff presennol.

Adnabod gwerthoedd a diwylliant eich gweithle, a'u rhannu gyda staff newydd a staff presennol.

Mae mynegi eich gwerthoedd a’ch diwylliant yn eich galluogi i ddisgrifio beth yw personoliaeth unigryw eich cartref plant a'r hyn sydd bwysicaf i chi a'r plant a'r bobl ifanc sy’n byw yn eich cartrefi. 

Mae hyn yn bwysig oherwydd ei fod yn: 

  • disgrifio diwylliant unigryw eich cartref gofal i ddarpar recriwtiaid, er mwyn i chi allu denu staff sy’n rhannu eich gwerthoedd 
  • gallu gwneud eich gweithle yn fwy cynhwysol, drwy ddenu pobl wahanol sy’n rhannu eich gwerthoedd ond efallai nad oes ganddyn nhw brofiad o waith gofal 
  • canolbwyntio eich proses asesu a chyfweld ar y gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n bwysig i'r plant a’r bobl ifanc, a diwylliant eich gweithle 
  • cyfrannu at gadw staff gwych oherwydd eu bod yn: 
  • teimlo eu bod wedi cysylltu â’ch gweledigaeth a’ch diwylliant  
  • deall sut gallant wneud gwahaniaeth drwy weithio gyda phlant a phobl ifanc. 

Sut i fynegi gwerthoedd a diwylliant eich cartref plant

Gallwch fynegi gwerthoedd a diwylliant eich cartref plant drwy’r canlynol: 

  • cynnwys ystod amrywiol o staff, plant a phobl ifanc i ddatblygu gwerthoedd ac ymddygiadau ar gyfer eich cartref plant 
  • os oes gennych chi werthoedd ac ymddygiadau yn eich sefydliad yn barod, gallwch chi feddwl am:  
    • ba mor dda maen nhw'n disgrifio'r diwylliant a'r ymddygiadau rydych chi eisiau eu gweld wrth eich staff
    • a oes angen i chi eu mynegi mewn ffordd sydd â mwy o ystyr i bobl.
  • disgrifio'r ymddygiadau y dylai staff eu dangos yn eu gwaith o dan bob un o'r gwerthoedd, fel bod pobl yn gwybod sut i'w defnyddio yn eu sgyrsiau, eu gwaith, a'u perthynas â phlant a phobl ifanc  
  • cyfathrebu’r gwerthoedd a'r ymddygiadau gyda staff a phlant a phobl ifanc yn y cartref plant mewn ffyrdd syml, hygyrch, gweledol ac ystyrlon 
  • cyfathrebu eich gwerthoedd yn allanol i ddarpar recriwtiaid drwy ddefnyddio: 
    • eich gwefan 
    • cyfryngau cymdeithasol 
    • mewn hysbysebion 
    • mewn pecynnau recriwtio  
    • eich marchnata a'ch gwybodaeth allanol. 

Adnoddau

Dyma rai adnoddau i’ch cefnogi i ddatblygu a mynegi set o werthoedd ac ymddygiadau ar gyfer eich cartref gofal i blant.

Fframwaith gwerthoedd ac ymddygiadau enghreifftiol ar gyfer gofal preswyl i blant – Gofal Cymdeithasol Cymru 

Dyma fframwaith gwerthoedd ac ymddygiadau enghreifftiol sy’n seiliedig ar ganllawiau ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru i weithwyr gofal preswyl i blant. Gallech ddefnyddio’r fframwaith fel enghraifft i adolygu neu ddatblygu’r gwerthoedd a’r ymddygiadau ar gyfer eich cartref plant. 

Rhannu disgwyliadau gwerthoedd ac ymddygiadau gyda staff (gofal cymdeithasol i oedolion) – Sgiliau Gofal gyda Kerry Clearly 

Gallai’r fframweithiau gwerthoedd ac ymddygiadau hyn a’r daflen i staff eich helpu i feddwl am sut gallech chi rannu a mynegi’n glir yr hyn rydych chi’n ei ddisgwyl wrth eich staff o ran eu hymddygiad wrth roi eich gwerthoedd ar waith. 

Beth mae cyflogwyr yn chwilio amdano mewn gweithwyr? (gofal cymdeithasol i oedolion) – Sgiliau Gofal gyda Kerry Clearly 
Gallai’r fframweithiau gwerthoedd ac ymddygiadau hyn a’r daflen i staff eich cefnogi i feddwl am sut y gallech chi rannu a mynegi’n glir yr hyn rydych chi’n ei ddisgwyl wrth eich staff o ran eu hymddygiad wrth roi eich gwerthoedd ar waith.