Dyma enghraifft o sut olwg fyddai ar fframwaith gwerthoedd ac ymddygiadau ar gyfer lleoliad gofal plant preswyl. Mae'n seiliedig ar ein canllawiau ymarfer ar gyfer gweithwyr gofal plant preswyl.
Canllaw yn unig yw'r fframwaith hwn. Dylech ymgysylltu â staff, plant a phobl ifanc i ddatblygu fframwaith sy'n adlewyrchu eich lleoliad a'ch sefydliad unigol.
Mae fframwaith gwerthoedd ac ymddygiadau clir yn galluogi cyflogwyr i recriwtio a rheoli staff sy'n cyd-fynd â'u gwerthoedd a'u diwylliant gweithle, er mwyn rhoi'r canlyniadau gorau i blant a phobl ifanc. Dyma'r sail ar gyfer ffordd o recriwtio a rheoli staff sy'n seiliedig ar werthoedd.
Mae pedair adran yn y fframwaith enghreifftiol – un ar gyfer pob gwerth. O dan bob un o'r gwerthoedd, fe welwch restr o ymddygiadau enghreifftiol.
Sut i ddefnyddio'r fframwaith
Os nad oes gennych fframwaith gwerthoedd ac ymddygiadau yn eich gweithle eisoes
Os oes gennych chi fframwaith gwerthoedd ac ymddygiadau yn eich lleoliad eisoes
Y fframwaith enghreifftiol
Y pedwar gwerth ac ymddygiad yn y fframwaith enghreifftiol hwn yw :
- canolbwyntio ar y plentyn
- parch a thosturi
- uniondeb a chyfrifoldeb
- gwaith tîm.
1. 1. Canolbwyntio ar y plentyn: rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd popeth a wnawn
2. Parch a thosturi: trin pawb â thosturi a pharch
3. Uniondeb a chyfrifoldeb: bod yn agored ac yn ddibynadwy a chymryd cyfrifoldeb am bopeth a ddywedwch a wnewch
4. Gwaith tîm: gweithio gydag eraill i sicrhau'r canlyniadau gorau i blant a phobl ifanc
Teclyn mapio gwerthoedd
Mae gennym ni declyn i chi mapio eich gwerthoedd.
Mae gan y teclyn bedwar chwarter ar gyfer y gwerthoedd o fewn cylch, mae hyn yn dangos sut y dylid cysylltu'r gwerthoedd a ffurfio diwylliant cyfan. Wrth ymyl pob chwarter mae blwch gwag.
Sut i ddefnyddio'r teclyn
Os oes gennych set sefydliadol o werthoedd ac ymddygiadau
Yn y lle gwag o dan bob gwerth isod, ysgrifennwch pa un o'ch gwerthoedd ac ymddygiadau sy'n cyd-fynd agosaf â phob un o'r gwerthoedd enghreifftiol.
Os nad oes gennych set o werthoedd ac ymddygiadau
Trafodwch bob un o'r gwerthoedd enghreifftiol. Yn y bylchau islaw pob un, ysgrifennwch yr ymddygiadau neu'r geiriau y byddech chi'n eu defnyddio i ddisgrifio'r gwerth hwn yn eich lleoliad.
Yn y teclyn, rydyn ni wedi defnyddio'r gwerthoedd enghreifftiol yma:
- canolbwyntio ar y plentyn
- parch a thosturi
- uniondeb a chyfrifoldeb
- gwaith tîm.
Lawrlwytho adnoddau
-
Teclyn mapio gwerthoeddDOCX 38KB