Jump to content
Asesu gwerthoedd yn eich proses ddethol ar gyfer gofal cymdeithasol preswyl i blant

Mae llawer o sefydliadau'n dibynnu ar gyfweliadau fel eu hunig offeryn dethol.

Ond pan fyddwch chi'n defnyddio gwahanol offer dethol, ac yn cynnwys gwahanol bobl yn y broses recriwtio, rydych chi'n fwy tebygol o recriwtio'r person cywir ar gyfer eich rôl.

Mae hyn oherwydd eich bod chi'n rhoi cyfle i'r person ddangos ei botensial i wahanol aseswyr ac mewn gwahanol ffyrdd.

Gall fod yn heriol i gyflogwyr ddod o hyd i amser i gynnwys mwy o bobl neu fuddsoddi mwy o amser mewn asesu ymgeiswyr. Felly gall bod yn greadigol helpu gyda'r heriau hyn.

Megis cynnwys plant a phobl ifanc yn briodol, a hyfforddi eich staff ar sut i fod yn rhan o recriwtio.

Beth yw offer dethol?

Maen nhw’n weithgareddau ac ymarferion gwahanol y gallwch eu defnyddio i ddysgu am werthoedd, ymddygiadau, sgiliau a chymwyseddau ymgeiswyr. Maent yn eich galluogi i ddarganfod pwy sy'n debygol o fod yn llwyddiannus ac yn hapus yn eich rôl ac yn eich gweithle.

Gallwch ddefnyddio llawer o offer gwahanol i asesu gwerthoedd, gan gynnwys:

  • cyfweliadau sy'n seiliedig ar werthoedd 
  • gweithgareddau ysgrifenedig 
  • treialon gwaith  
  • cyfarfodydd gyda'r plant a'r bobl ifanc y byddant yn eu cefnogi.

Gallai diwrnod asesu syml gynnwys tri ymarfer gwahanol fel cyfweliad, ymarfer ysgrifenedig ac ymarfer rhyngweithio. 

Byddai ymgeiswyr yn cael eu gweld gan fwy nag un cyfwelydd neu asesydd. Dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o ddewis yr ymgeiswyr cywir, yn hytrach na dibynnu ar gyfweliad yn unig. 

Sut i ddylunio offer dethol sy'n seiliedig ar werthoedd ar gyfer eich proses asesu

Dechreuwch drwy edrych ar eich fframwaith gwerthoedd ac ymddygiadau, eich disgrifiad swydd, a manyleb y person. Gofynnwch i chi'ch hun :

  • beth sy'n gwneud y gwahaniaeth rhwng perfformiad da a gwael yn y rôl?
  • beth yw'r gwerthoedd a'r ymddygiadau allweddol sydd eu hangen arnoch yn y rôl?

Er enghraifft, dychmygwch mai dyma eich ymddygiadau a'ch gwerthoedd :

  • canolbwyntio ar y plentyn: rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd popeth a wnewch
  • parch a thosturi: trin pawb â thosturi a pharch
  • uniondeb a chyfrifoldeb: bod yn agored ac yn ddibynadwy a chymryd cyfrifoldeb am bopeth a ddywedwch ag a wnewch
  • gwaith tîm: gweithio gydag eraill i gyflawni'r canlyniadau gorau i blant a phobl ifanc.

Yna diffiniwch y rhain o ran dangosyddion cadarnhaol a negyddol o'r hyn y byddai aseswyr yn disgwyl ei weld – a pheidio â'i weld – gan ymgeiswyr ar gyfer pob ymarfer. 

Dyma fydd y meini prawf i asesu eich holl ymgeiswyr yn eu herbyn ac mae'n golygu y byddant yn gallu asesu'r holl ymgeiswyr yn deg.

Dylai'r rhain fod yn gysylltiedig â'ch gwerthoedd ac ymddygiadau y dylech fod wedi'u diffinio yn eich fframwaith gwerthoedd ac ymddygiadau (gweler ein canllawiau ar sut i fynegi eich gwerthoedd). 

Enghraifft

Parch a thosturi: trin pawb â thosturi a pharch

Dangosyddion cadarnhaol

  • Rydych chi'n treulio amser yn gwrando ar bobl er mwyn dod i’w hadnabod nhw a'u hanghenion.
  • Rydych chi'n parchu hawl pobl i wneud eu dewisiadau eu hunain ac yn cynnig arweiniad a chefnogaeth heb farnu iddyn nhw.
  • Rydych chi'n cyfathrebu â phobl mewn ffordd glir, agored a syml gan ddefnyddio iaith briodol.
  • Rydych chi'n sensitif i anghenion a phryderon teuluoedd a gofalwyr. 

Dangosyddion negyddol 

  • Rydych chi'n anwybyddu pobl ac nid ydych chi'n gwneud amser i'w croesawu neu i ddod i'w hadnabod nhw a'u hanghenion. 
  • Dydych chi ddim yn parchu hawl pobl i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Rydych chi'n credu eich bod chi'n gwybod beth sydd ei angen arnyn nhw'n well nag ydyn nhw . 
  • Rydych chi'n defnyddio jargon wrth gyfathrebu â phobl, ac yn siarad â phobl mewn ffordd nawddoglyd, plentynnaidd neu amhriodol . 
  • Nid ydych chi'n ymwybodol o, nac â diddordeb yn, anghenion a phryderon teuluoedd a gofalwyr.

Meddyliwch am ofynion y swydd, a beth mae'r swydd yn ei olygu, cyn i chi benderfynu pa offer dethol sydd fwyaf priodol.

Cynlluniwch offer dethol sy'n berthnasol i'r swydd ac sy'n rhoi rhagolwg realistig o'r swydd i ymgeiswyr. Dylech wneud yn siŵr nad ydyn nhw'n anfanteisio ymgeiswyr nad oes ganddyn nhw brofiad na gwybodaeth flaenorol o'r math hwn o waith gyda phlant a phobl ifanc.

Enghreifftiau o offer a gweithgareddau dethol sy'n seiliedig ar werthoedd ar gyfer rolau yn y sector gofal

Dyma rai enghreifftiau o offer dethol y gallech eu defnyddio.

Ymarfer grŵp

Rydych chi mewn grŵp o weithwyr gofal plant preswyl sydd wedi cael eu gofyn gan eich sefydliad i fynychu grŵp ffocws. Mae'n rhaid i chi feddwl am sut y gall y sefydliad farchnata ei hun yn well fel lle i weithio i bobl nad ydynt efallai wedi meddwl am fynd i waith gofal plant preswyl.

Yn eich grŵp, mae angen i chi ysgrifennu rhestr o resymau pam rydych chi'n meddwl y dylai pobl ddod i weithio yn eich cartref gofal ac i weithio mewn gofal plant preswyl, yn enwedig y gwerthoedd sy'n bwysig i'w cael.

Mae gennych 15 munud ar gyfer eich trafodaeth ac i wneud nodiadau ar y siart fflip a ddarperir. Ar ddiwedd y drafodaeth, rhowch eich awgrymiadau ysgrifenedig i'r aseswyr.

Chwarae rôl

Gofynnwyd i chi gyfarfod â'r athro yn yr ysgol y mae un o'ch pobl ifanc yn ei mynychu. Ar hyn o bryd mae'r person ifanc yn gwrthod mynd i'r ysgol oherwydd ei fod yn teimlo bod yr athro bob amser yn "pigo arno" ac nad yw'n barchus tuag ato.

Mae'r ysgol wedi dweud wrthych fod yr athro newydd gymhwyso ac eisiau gweithio gyda chi a'r person ifanc, ond ei fod yn cael trafferth nodi strategaethau a allai weithio i'r person ifanc hwn.

Eich tasg chi yw cyfarfod â'r athro, gwrando ac ymateb i'w pryderon, eiriol dros eich person ifanc, a gweithio gyda'ch gilydd i lunio rhai strategaethau ac atebion.

Bydd y cyfarfod yn para 10 munud. Bydd rhywun yn chwarae rhan yr athro, ac asesydd yn yr ystafell yn gwneud nodiadau. Ni fydd yr asesydd yn cyfrannu at y drafodaeth.

Ymarfer ysgrifenedig: cynllun personol

Rydych chi wedi cael cynllun personol ar gyfer person ifanc a fydd yn cyrraedd eich cartref gofal yr wythnos nesaf. Byddwch chi'n cyfarfod â'r person ifanc a'i weithiwr cymdeithasol pan fyddan nhw'n cyrraedd fel eich bod chi'n deall:

  • beth yw cryfderau ac anghenion y person ifanc
  • pa ganlyniadau maen nhw am eu cyflawni
  • y ffordd orau i chi eu cefnogi.

Eich tasg yw darllen drwy'r cynllun personol ac ysgrifennu adroddiad byr. Byddwch yn rhannu'r adroddiad gyda'ch rheolwr yn ystod y sesiwn oruchwylio. Dylai'r adroddiad dynnu sylw at:

  • beth yw cryfderau ac anghenion y person ifanc yn eich barn chi
  • yr heriau a'r cwestiynau sydd gennych chi
  • beth allech chi ei gynnig i'r person ifanc hwn wrth weithio gyda nhw yn eich barn chi. 

Mae gennych 20 munud i gwblhau'r dasg hon.

Mewnflwch

Rydych chi wedi bod ar wyliau am bythefnos ac yn dychwelyd at ôl-groniad o ddogfennau – gan gynnwys e-byst, negeseuon ffôn, adroddiadau a llythyrau – am eich gwaith a phobl ifanc rydych chi'n gyfrifol am eu cefnogi.

Rhoddwyd cynllun blaenoriaethu i chi. Eich tasg chi yw darllen drwy'r gwahanol ddogfennau, a defnyddio'r cynllun i benderfynu pa rai yw'r rhai mwyaf brys a lleiaf brys, a sut y byddwch chi'n ymateb i bob un.

Dylech chi ddechrau gyda'r flaenoriaeth bwysicaf, a gorffen gyda'ch blaenoriaeth leiaf pwysig ac egluro sut y byddwch chi'n delio â phob eitem. Mae gennych chi 20 munud i gwblhau'r dasg.

Cofnodi'r canlyniadau

Meddyliwch am sut y byddwch yn asesu gwerthoedd ymgeiswyr yn erbyn y meini prawf ym mhob ymarfer dethol. 

Gallech ddefnyddio tabl, fel eich bod yn gwybod eich bod yn asesu pob gwerth o leiaf ddwywaith mewn gwahanol ymarferion a gweithgareddau. 

Mae gennym ni enghraifft o'r tabl y gallech ei ddefnyddio. 

Mae'n dangos y gwahanol werthoedd ac ymddygiadau yn y golofn gyntaf a'r offeryn asesu ar hyd y rhes gyntaf. Mae croes yn y blwch i ddangos pa werth sy'n cael ei asesu ym mhob ymarfer. 

Gwnewch yn siŵr bod gan bawb sy'n rhan o'r broses ddethol friff clir ar gyfer pob ymarfer, gan gynnwys yr hyn y mae angen i'r ymgeiswyr ei wneud a pha feini prawf y maent yn eu hasesu yn eu herbyn.

Lle bo modd, dylid hyfforddi aseswyr – neu o leiaf eu briffio'n fanwl – i ddeall yr hyn a ddisgwylir ganddyn nhw pan fyddan nhw’n asesu ymgeiswyr.

Dylech ddatblygu graddfa raddio i'w defnyddio'n gyson ar gyfer pob ymarfer, fel y gallwch gymharu perfformiad ymgeiswyr ar draws gwahanol ymarferion. Mae Cymdeithas Seicolegol Prydain yn argymell defnyddio graddfa rhwng 5 a 7 pwynt.

Er enghraifft:

  1. anfoddhaol
  2. islaw boddhaol
  3. boddhaol
  4. da
  5. rhagorol.

Ar y diwrnod asesu

Cyn y diwrnod, dylech rannu manylion yr hyn a fydd yn digwydd yn ystod y broses recriwtio gyda'r ymgeiswyr.

Dylech gynnwys unrhyw wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i baratoi ar gyfer yr asesiadau.

Dylech ofyn i ymgeiswyr a oes angen unrhyw addasiadau rhesymol iddyn nhw gael eu gwneud i ddiwrnod yr asesiad, fel y gallant gymryd rhan lawn.

Dylech gynllunio logisteg y dydd i wneud yn siŵr bod gennych ddigon o ystafelloedd ac aelodau staff ar gael i asesu ymgeiswyr. 

Mae'n dda cael amserlen ar gyfer pob ymgeisydd fel eu bod nhw'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud a ble mae angen iddyn nhw fod. 

Gall yr aseswyr ddefnyddio eu hamserlen eu hunain i gadw golwg ar bwy maen nhw'n ei weld ar wahanol adegau yn ystod y dydd.

Mae gennym ni dempled enghreifftiol o amserlen i chi lawrlwytho. 

Mae'r golofn gyntaf yn rhestru'r amser, yr ail golofn yr ymarfer, y drydedd golofn yr ystafell, y bedwaredd golofn yr asesydd. 

Lawrlwytho adnoddau