Gall y panel sy'n llunio'r rhestr fer ddefnyddio tabl i benderfynu pwy i'w wahodd i gyfweliad, a sicrhau bod y bobl sy'n llunio'r rhestr fer wedi'u hyfforddi a'u briffio ar sut i chwilio am y gwerthoedd a'r ymddygiadau.
Gall defnyddio tabl hefyd helpu'r panel i gofnodi'r meini prawf hanfodol eraill ar gyfer y swydd megis sgiliau, profiad a chymwysterau perthnasol.
Mae gennym ni enghraifft o dabl y gallwch ei ddefnyddio i ddangos sut mae'r ymgeisydd yn dangos, yn dangos yn rhannol, neu ddim yn dangos y meini prawf hanfodol, a'r dystiolaeth ar gyfer hyn.
Mae'r rhes gyntaf yn rhestru'r rôl. Yr ail res yw enw'r ymgeisydd.
Mae'r golofn gyntaf yn rhestru meini prawf hanfodol. Er enghraifft:
Sgiliau a phrofiad
- Ymglymiad â phlant a phobl ifanc
- Datblygiad plant
- Partneriaethau â theuluoedd a gweithwyr proffesiynol
- Sgiliau cyfathrebu
- Cyfrinachedd
Cymwysterau
- Iaith Gymraeg Lefel 2
- Trwydded yrru
Gwerthoedd
- Canolbwyntio ar y plentyn
- Parch a thosturi
- Uniondeb a chyfrifoldeb
- Gwaith tîm
Mae'r colofnau sy'n weddill yn caniatáu nodiadau yn erbyn y sgorio ac a yw'r ymgeisydd yn dangos eu bod nhw :
- yn dangos
- yn dangos yn rhannol
- ddim yn dangos
ac unrhyw dystiolaeth i brofi hyn.