Jump to content
Awgrymiadau ar gyfer denu staff sy'n rhannu eich gwerthoedd

Helps you to attract staff who share your values.

1. Dewiswch y math o bobl rydych chi eisiau iddyn nhw weithio i chi

 Cyn i chi hysbysebu, meddyliwch am y mathau o bobl rydych chi am eu cyrraedd a'u recriwtio.

  • Oes demograffeg benodol neu fath o brofiad yr hoffech chi ei ychwanegu at eich tîm?
  • Beth sydd bwysicaf i'r bobl hyn?
  • Sut allech chi werthu eich gwerthoedd iddyn nhw fel y bydden nhw eisiau gwneud cais am eich swyddi? 

2. Hysbysebwch yn y lle iawn

Mae yna lawer o ffyrdd o gael pobl i wneud cais am rolau – a bydd gwahanol ddulliau’n denu gwahanol bobl. Gallech chi roi cynnig ar ddefnyddio:

  • byrddau swyddi a gwefannau recriwtio
  • eich gwefan eich hun
  • papurau newydd lleol, siopau lleol a byrddau hysbysebion cymunedol
  • cyfryngau cymdeithasol (Facebook, Instagram, X, LinkedIn)
  • ffeiriau gyrfaoedd
  • diwrnodau agored
  • cynlluniau atgyfeirio gweithwyr.

Meddyliwch am staff rydych chi wedi'u recriwtio sydd wedi dangos eich gwerthoedd a'ch ymddygiadau gweithle yn eu gwaith. 

O ble ddaeth y staff hynny a pha fath o hysbysebu a'u denodd?

3. Rhannwch y negeseuon cywir

Gofynnwch i'ch staff presennol beth oedd yn eich hysbysebion a werthodd eich diwylliant a'ch gwerthoedd iddyn nhw, fel y gallwch ddefnyddio'r negeseuon hynny yn eich hysbysebion. 

Ceisiwch gael gwahanol hysbysebion ar gyfer gwahanol rolau ac i apelio at werthoedd a chymhellion y gwahanol grwpiau rydych chi am eu targedu. 

Yn eich hysbysebion swyddi, rhannwch eich gwerthoedd a'r hyn sy'n gwneud eich gweithle a'ch cartref plant yn unigryw.

Gofynnwch gwestiynau i wneud cysylltiad rhwng gwerthoedd eich gweithle a'u gwerthoedd nhw.

Er enghraifft:

  • “Ydych chi'n rhannu'r gwerthoedd hyn?” neu “a yw'r gwerthoedd hyn yn bwysig i chi?”
  • “Ydych chi'n hoffi gwneud gwahaniaeth i blant a phobl ifanc?” neu “ydych chi'n berson gofalgar?”

Yn eich hysbysebion, a'r wybodaeth mewn pecynnau recriwtio ac ar eich gwefan, defnyddiwch enghreifftiau bywyd go iawn o staff yn rhoi eich gwerthoedd ar waith.

Er enghraifft, gallech gynnwys astudiaeth achos o weithiwr gofal preswyl plant yn gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn neu berson ifanc trwy eu gwaith.

Os nad oes angen profiad ar gyfer y rôl, gwnewch hyn yn glir yn eich hysbyseb. Rhowch wybod i bobl eich bod yn chwilio am rywun â'r gwerthoedd a'r ymddygiadau cywir ac y bydd yr ymgeisydd cywir yn cael ei gefnogi i ddysgu unrhyw sgiliau angenrheidiol. Peidiwch ag ofni nodi pryd mae cymhwyster neu brofiad yn hanfodol.

4. Ceisiwch y math iawn o ymateb

Meddyliwch am yr hyn rydych chi eisiau i bobl ei wneud mewn ymateb i'ch hysbyseb, a sut y gall eich proses recriwtio roi cyfle iddyn nhw brofi eich gwerthoedd a'ch diwylliant. 

  • Ydych chi eisiau i bobl ffonio am sgwrs anffurfiol neu a fydd hynny'n anodd ei drefnu?
  • A fyddai'n haws cynnal bore coffi 'galw heibio' lle gallech chi sgwrsio ag ymgeiswyr posibl mewn lleoliad anffurfiol?
  • Os oes gennych chi werth parch a thosturi, sut fydd y broses yn eu parchu nhw, eu hamser a'r wybodaeth maen nhw'n ei rhannu gyda chi?
  • Sut allech chi rannu gwybodaeth am:
    • beth sy'n digwydd yn eich gweithle?
    • eich gwerthoedd ar waith?
    • eich straeon llwyddiant?
    • cadw mewn cysylltiad ag ymgeiswyr rhwng gwahanol gamau'r broses recriwtio a gwirio?   

Os yw'n berthnasol i'r swydd, cynhwyswch ddatganiad yn nodi y bydd angen i chi wneud gwiriad cofnod troseddol a pha lefel y mae angen iddyn nhw ei wneud. 

Dyma gyfle i chi ddangos eich bod yn ymgorffori eich gwerthoedd (megis diogelu a pharchu eu gwybodaeth) fel rhan o ymrwymiad eich sefydliad i ddiogelu a chanolbwyntio ar y plentyn.

5. Byddwch yn gynhwysol

Gellir gweld gofal cymdeithasol, yn enwedig gofal plant, fel gyrfa i fenywod.

Gall hysbysebion a manylebau person sy'n defnyddio geiriau fel 'meithrin' apelio'n fwy at fenywod na dynion. 

Gall yr offeryn dadgodio rhywedd hwn helpu i niwtraleiddio'r iaith rydych chi'n ei defnyddio yn eich hysbysebion.

Mae ymgyrch recriwtio Gofalwn Cymru yn cynnwys dynion a pham y gwnaethon nhw ddewis gweithio ym maes gofal preswyl i blant. 

Gallwch hefyd gynnwys datganiad sy'n dangos eich ymrwymiad i gynhwysiant a gwneud addasiadau i sicrhau y gall ymgeiswyr anabl a niwroamrywiol rannu eu gwerthoedd gyda chi mewn ffordd sy'n diwallu eu hanghenion.

Er enghraifft:

Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud addasiadau neu gymwysiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ymgeiswyr anabl a niwroamrywiol.

Rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch fel rhan o'r broses recriwtio neu gyfweld. Rydym yn hapus iawn i'ch cefnogi, a gallwn wneud awgrymiadau os nad ydych yn siŵr pa gefnogaeth sydd ar gael.

Os oes gennych heriau i ddeall unrhyw un o'n gwerthoedd neu ymddygiadau a sut y gallech fod wedi dangos y rhain, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.

Hysbysebion enghreifftiol

Dyma rai enghreifftiau o hysbysebion y gallech eu defnyddio i ddenu staff sy'n rhannu eich gwerthoedd gweithle. 

Enghraifft 1: Gweithiwr Gofal Plant Preswyl

Enghraifft 2: Gweithiwr Gofal Plant Preswyl