Jump to content
​Eiriolwyr sy' ddim yn eiriolwyr proffesiynol

Cyflwyniad a chefndir

Nod y deunyddiau dysgu hyn, a ddatblygwyd gan Tros Gynnal Plant, yw helpu’r rhai nad ydynt yn eiriolwyr proffesiynol annibynnol, ond sydd yn eirioli (e.e. gweithwyr proffesiynol nad ydynt yn eiriolwyr, ffrindiau, teulu, gofalwyr) i ddeall rôl eiriolwr yn llawn a sut y caiff hyn ei adlewyrchu yn eu gweithredoedd eu hunain.

Bydd y deunyddiau hyn yn ategu’r broses o weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) drwy gefnogi dinasyddion i gyflawni llesiant. Bydd y modiwlau yn cyfrannu at roi llais cryfach i bobl a mwy o reolaeth dros eu bywydau, a chaniatáu i’r rhai y mae angen gofal a chymorth arnynt, ynghyd â’u gofalwyr, gyfrannu’n weithredol at eu llesiant eu hunain drwy greu eiriolwyr medrus a hyderus i sefyll ochr yn ochr â nhw.

Modiwl 1 – beth yw eiriolaeth?

Mae'r modiwl hwn yn edrych ar yr hyn y mae’r term eiriolaeth yn ei olygu. Mae hefyd yn disgrifio a chymharu dulliau eirioli presennol, cydnabod yr hyn y mae eiriolwr effeithiol yn ei wneud/ddim yn ei wneud, disgrifio’r broses eirioli a nodi ystyriaethau allweddol ar gyfer yr eiriolwyr ar bob cam o’r broses.

Modiwl 2 – ydw i'n eiriolwr?

Nod y modiwl hwn yw helpu pobl i adnabod pryd a sut y gallan nhw eu hunain weithredu fel eiriolwyr. Mae hefyd yn ystyried pam na allan nhw eirioli’n effeithiol mewn rhai sefyllfaoedd o bosibl a pha opsiynau amgen sydd ar gael er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cael cymorth parhaus os na fyddant yn gallu eirioli’n effeithiol.

Modiwl 3 – sgiliau eiriolaeth

Mae'r modiwl hwn yn helpu pobl nodi’r sgiliau allweddol sydd eu hangen i fod yn eiriolwr effeithiol. Mae hefyd yn helpu nhw i adnabod eu sgiliau eiriolaeth eu hunain a’u cysylltu â’u profiadau

eu hunain, ac yn dangos sgiliau newydd a/neu well er mwyn ategu eu rôl fel eiriolwr.

Cyhoeddwyd gyntaf: 5 Ebrill 2017
Diweddariad olaf: 25 Medi 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (51.3 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch