Mae pob rhan o’n bywyd gwaith yn effeithio ar ein llesiant yn y gwaith – gan gynnwys yr amgylchedd yr ydym yn gweithio ynddo, y diwylliant, sut rydyn ni'n teimlo am ein swydd, pwy rydyn ni'n gweithio iddo, a’r bobl rydyn ni'n gweithio gyda nhw.
Gall gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar a gofal plant fod yn yrfa fuddiol sy’n ein hysbrydoli, ond rydyn ni'n gwybod y gall y pwysau yn y sectorau hyn effeithio ar lesiant y gweithlu.
Mae tystiolaeth yn dangos bod llesiant da yn y gweithle yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae’n golygu:
- bod gennym ymdeimlad o bwrpas a chyflawniad yn ein rôl
- ein bod yn perfformio’n well os ydyn ni'n hapusach yn y gwaith a bod gennym hyder yn yr hyn yr ydyn ni'n ei wneud, sy’n golygu ein bod yn cynorthwyo pobl yn well
- bod staff sy’n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn y gwaith yn fwy tebygol o aros gyda sefydliad.
Rydyn ni'n gwybod bod llawer o sefydliadau eisoes yn gwneud gwaith da i gefnogi llesiant y gweithlu.
Rydyn ni wedi llunio’r fframwaith hwn i’ch helpu i adeiladu ar yr hyn yr ydych eisoes yn ei wneud i gefnogi llesiant yn y gwaith.
Rydyn ni wedi seilio themâu’r fframwaith hwn ar feysydd llesiant CIPD.