Fe allwch ddefnyddio’r fframwaith hwn yn hyblyg i fodloni anghenion eich sefydliad.
Gwyddom mai megis cychwyn ar eich siwrnai ydych chi o bosibl. Rydyn ni hefyd yn cydnabod eich bod eisoes o bosibl wedi bod yn gwneud pethau i wella llesiant eich gweithlu. Fe wnaethom ddylunio’r fframwaith hwn i’ch helpu i weithio at yr ymrwymiadau ac i’ch helpu i greu gweithlu ymroddedig, iach a llawn cymhelliant.
Ceir pedair adran i’r fframwaith hwn, un ar gyfer pob ymrwymiad. Mae pob adran yn disgrifio beth mae’r ymrwymiad hwnnw’n ei olygu i sefydliad, rheolwr ac unigolyn. Mae’n cynnwys dolenni at adnoddau a all eich helpu i ddefnyddio’r fframwaith.
Mae pob adran yn cynnwys y saith elfen o lesiant gweithlu fel y disgrifir yn y graffeg.
Byddem yn awgrymu ichi ddarllen yr ymrwymiadau’n gyntaf. Yna, i’ch helpu ymhellach, rydym wedi datblygu tri offeryn i’ch helpu i wneud newidiadau.