Cyngor ac adnoddau er mwyn sefydlu diwylliannau gweithlu lle mae pawb yn cael eu cynnwys ac yn wybodus.
Pan mae gan bobl lais ac yn cael eu cynnwys mewn unrhyw newid, maent yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu.
Fe allai hyn fod yn newid yn y ffordd mae’r sefydliad yn gweithio neu’n newid yn y ffordd rydych chi’n darparu gofal a chymorth.
Mewn gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant, rydyn ni’n deall gwerth cydgynhyrchu. Mae hyn er mwyn y bobl sy’n gweithio inni yn ogystal â’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
Mae hyn yn cysylltu â’r
- Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer gweithwyr Gofal Cymdeithasol, adrannau 6.5 a 6.9
Mewn sefydliad, mae hyn yn golygu:
- y ceir dulliau rheolaidd a chyson o geisio barn staff
- mae gan staff lais yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt
- gofynnir cwestiynau i’r staff am eu hiechyd a’u llesiant, am yr amgylchedd gweithio a sut all y sefydliad wella
- caiff unrhyw newidiadau a datblygiadau eu cyd-ddylunio â’r staff
- caiff staff eu hysbysu o ganlyniadau eu hadborth
- mae staff yn gweld pethau’n cael eu gwneud o ganlyniad i’w mewnbwn.
I wneud hyn, fe all sefydliadau:
- gynnwys staff mewn newidiadau yn y sefydliad, gan gynnwys unrhyw newidiadau mewn polisïau a gweithdrefnau
- canfod ffyrdd i staff gael lleisio’u barn, fel mewn arolygon i staff, fforymau staff a chynrychiolwyr a gwybodaeth am undebau
- sefydlu arolwg o lesiant staff, neu ddull tebyg i’ch helpu i ddeall beth sy’n effeithio ar lesiant eich staff
- cyfathrebu’n glir gyda staff sut ydych chi wedi gweithredu o ganlyniad i’w mewnbwn.
Fel rheolwr rwyf:
- yn cyfranogi yn y gwaith o newid a gwella fy sefydliad ac yn annog fy staff i wneud yr un peth
- yn hyrwyddo ac yn cymryd rhan mewn arolygon staff ac mewn cyfleoedd eraill i ddweud sut rwy’n teimlo
- yn rhannu gyda’r staff unrhyw newidiadau sydd wedi digwydd o ganlyniad i’w hadborth.
Fel unigolyn rwyf:
- yn cyfranogi yn y gwaith o newid a gwella fy sefydliad
- yn cymryd rhan mewn arolygon staff ac mewn cyfleoedd eraill i ddweud sut rwy’n teimlo
- yn cymryd amser i edrych ar y gefnogaeth sydd ar gael imi
- yn gwneud awgrym neu’n cyfrannu at newid heb orfod aros i rywun ofyn imi.
Ble allaf fi weld esiamplau?
Ar gyfer sefydliadau
- Cwestiynau i fesur llesiant (Saesneg yn unig) – What Works Wellbeing
Banc o gwestiynau y gallwch eu defnyddio i fesur llesiant yn y gweithle.
Cyhoeddwyd gyntaf: 12 Mehefin 2023
Diweddariad olaf: 28 Mawrth 2024
Diweddarwyd y gyfres: 28 Mawrth 2024
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch