Cyngor ac adnoddau er mwyn triniaeth deg, urddas a pharch i bawb.
Mae gweithle cadarnhaol yn holl bwysig i’n llesiant. Dylai cyflogwyr greu diwylliant cadarnhaol gyda thriniaeth deg, urddas a pharch i’r bobl maent yn eu cyflogi a’r bobl a gefnogant.
Rhaid i bob gweithiwr, heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil neu gred, rhyw, a thueddfryd rhywiol gael eu trin ag urddas, parch a thegwch a rhaid iddynt beidio â dioddef aflonyddu, gwahaniaethu, camdriniaeth, na thriniaeth ddiraddiol annynol.
Mae hyn yn cysylltu â’r
- Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogwyr Gofal Cymdeithasol, adrannau 1.3 ac 1.6
- Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer gweithwyr Gofal Cymdeithasol, adran 3.2
Mewn sefydliad, mae hyn yn golygu:
- bod staff yn deall gwerthoedd y sefydliad
- trin staff ag urddas a pharch
- trin staff yn gyfartal
- gweithio gyda staff i adolygu a gwella’r ffordd rydyn ni’n gweithio
- mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u grymuso
- mae staff yn teimlo eu bod yn uchel eu parch
- ei fod yn lle diogel i godi pryderon.
I wneud hyn, fe all sefydliadau:
- sicrhau bod eu gwerthoedd yn gwbl glir ac yn cael eu mynegi wrth eich gweithlu
- lle bo’n bosibl, creu strategaeth ar gyfer y sefydliad sydd wedi’i sefydlu ar y gwerthoedd hyn
- dangos eich ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth, hawliau a pharch, drwy bolisïau neu ffyrdd o weithio
- cydnabod a helpu staff sydd â chyflyrau corfforol neu feddyliol hirdymor i wneud eu gwaith
- darparu goruchwyliaeth ystyrlon, sy’n seiliedig ar gryfderau staff fel eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn myfyrio ac yn tyfu
- herio ymddygiadau yn eich gweithlu nad ydynt yn adlewyrchu eich gwerthoedd craidd a chefnogi eich staff i wneud yr un peth.
Fel rheolwr rwyf:
- yn arwain drwy esiampl drwy weithio yn y ffordd yr hoffwn i eraill weithio a drwy drin pobl eraill fel yr hoffwn i gael fy nhrin
- herio fy arweinwyr neu fy rheolwyr os nad wyf yn cael fy nhrin yn unol â gwerthoedd y sefydliad
- sicrhau fy mod yn cael sesiynau goruchwylio rheolaidd imi fy hun a fy mod yn cynnal sesiynau goruchwylio rheolaidd i’m staff.
- gofyn am yr un oruchwyliaeth gan fy rheolwr os nad yw hyn wedi’i drefnu ar fy nghyfer i
- cefnogi staff wrth herio ymarfer neu ymddygiadau gwael.
Fel unigolyn rwyf:
- yn gweithio mewn ffordd sy’n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad
- yn trin fy nghydweithwyr a’r bobl a gefnogwn ag urddas a pharch
- yn deall ein cyfrifoldebau a’r hyn mae hynny’n ei olygu i ni a’r bobl a gefnogwn
- yn ymwybodol o’r codau ymarfer ac yn gweithio’n unol â nhw
- yn cael fy ngrymuso i herio ymarfer gwael, bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu.
Ble allaf fi weld esiamplau?
Ar gyfer sefydliadau
- Taflen ffeithiau: pam mae llesiant yn bwysig am sefydliad (Saesneg yn unig) – CIPD
Yn eich helpu i ddeall y cysylltiadau rhwng gwaith, iechyd a llesiant. - Beth yw goruchwyliaeth dda – Gofal Cymdeithasol Cymru
Arweiniad i unrhyw un sy’n gyfrifol am oruchwyliaeth mewn sefydliad. - Sut i gynnal sesiynau goruchwylio – Gofal Cymdeithasol Cymru
Sut i gynnal sesiynau goruchwylio ac ymarfer myfyriol mewn dull sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Ar gyfer rheolwyr
- Fideo: creu diwylliant llesiant (Saesneg yn unig) – Skills for Care
Rheolwr yn siarad am greu diwylliant o garedigrwydd ac arweinyddiaeth. - Arweiniad ar y camau cyntaf mewn rheoli – Gofal Cymdeithasol Cymru
Arweiniad i helpu rheolwyr newydd yn y sector gofal cymdeithasol. - Beth yw goruchwyliaeth dda – Gofal Cymdeithasol Cymru
Arweiniad i unrhyw un sy’n gyfrifol am oruchwyliaeth mewn sefydliad. - Sut i gynnal sesiynau goruchwylio – Gofal Cymdeithasol Cymru
Sut i gynnal sesiynau goruchwylio ac ymarfer myfyriol mewn dull sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. - Sut i gael trafodaeth ddwyffordd dda – Gofal Cymdeithasol Cymru
Fideo sy’n dangos esiampl o sesiwn oruchwyliaeth sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau. - Sut i gael sgyrsiau anodd gyda staff – Gofal Cymdeithasol Cymru
Sut i gael sgwrs anodd gyda’ch staff. - Cymru Iach ar Waith: gwaith teg ar gyfer iechyd, llesiant a thegwch – Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gwybodaeth am fod yn gyflogwr gwaith teg.
Ar gyfer pawb
- Taflen ffeithiau: llais y gweithiwr (Saesneg yn unig) – CIPD
Yn egluro sut all llais y gweithiwr wneud newidiadau cadarnhaol mewn sefydliad.
Cyhoeddwyd gyntaf: 12 Mehefin 2023
Diweddariad olaf: 28 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd y gyfres: 18 Rhagfyr 2024
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch