Jump to content
Ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau i sefydliadau: cefnogi eich staff i weithio gyda chryfderau

Mae’r dudalen hon yn esbonio sut i gefnogi aelodau staff yn eich sefydliad i weithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau.

Pam ddylai sefydliadau weithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau?

Gall sefydliadau ddefnyddio ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau i helpu'r bobl y maent yn gofalu amdanynt, neu'n eu cefnogi, i gyflawni eu canlyniadau personol.

Ond gall sefydliadau hefyd ei ddefnyddio yn fewnol i:

  • wella cyfathrebu
  • helpu timau i weithio'n agosach
  • greu diwylliant cadarnhaol sy'n canolbwyntio ar dŵf.

Mae rhain i gyd yn helpu staff i deimlo fel eu bod yn cael mwy o gefnogaeth, a fydd yn dylanwadu ar lefel y gofal a‘r gefnogaeth maen nhw'n ei roi.

Gallwch ddarganfod mwy am sut mae ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau yn creu diwylliannau cadarnhaol yn ein canllaw ar y Grŵp Gwybodaeth.

Sut i gefnogi'ch staff i weithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau

Er mwyn cefnogi'ch staff i ddefnyddio ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau, bydd angen i chi edrych ar yr holl wahanol rannau o'ch sefydliad a sut mae pob un o'r rheiny yn gweithio gyda chryfderau.

Er mwyn cefnogi'ch staff i ddefnyddio ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau, bydd angen i chi edrych ar yr holl wahanol rannau o'ch sefydliad a sut mae pob un o'r rheiny yn gweithio gyda chryfderau.

  1. arweinyddiaeth
  2. gweledigaeth a gwerthoedd
  3. polisïau a phrosesau eich sefydliad
  4. dysgu, hyfforddi a goruchwylio.

Defnyddio ffordd o arwain pobl sy'n seiliedig ar gryfderau

Mae arweinyddiaeth dda yn ymddygiad cadarnhaol sy'n cael ei ddangos a'i ddilyn gan bawb yn y sefydliad, gan gynnwys mentoriaid neu hyrwyddwyr ymarfer.

Er mwyn cefnogi staff i weithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau, dylech wneud yn siŵr bod eich arweinwyr strategol a gweithredol yn dechrau gyda chryfderau.

Mae arweinyddiaeth dosturiol yn arddull o arwain pobl trwy ganolbwyntio ar gryfderau.

Gall arweinwyr tosturiol gydnabod a chefnogi cryfderau'r bobl maen nhw'n gweithio gyda nhw, a gall hyn arwain at ddiwylliannau cadarnhaol mewn gofal cymdeithasol.

Gallwch ddarganfod mwy am arwain gyda thosturi, gan gynnwys adnoddau i'ch helpu i ddechrau, ar ein tudalennau arweinyddiaeth.

Cael gweledigaeth a gwerthoedd sy'n canolbwyntio ar gryfderau

Mae gan sefydliadau sy'n seiliedig ar gryfderau weledigaeth glir sy'n gysylltiedig â set o werthoedd sefydliadol sy'n ysbrydoli ac yn ysgogi'r holl staff.

Mae gennym ganllaw i'r gwerthoedd cyffredin a welwn mewn ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau.

I ddarganfod mwy, edrychwch ar Y Grwp Gwybodaeth.

Gwnewch yn siŵr bod eich polisïau a'ch prosesau yn canolbwyntio ar ganlyniadau

Gallwch wneud eich polisïau a'ch prosesau yn fwy seiliedig ar gryfderau trwy:

  • weithio gyda'r bobl sy'n rhoi, derbyn ac asesu gofal a chymorth i adolygu eich polisïau a’ch offer cofnodi fel eu bod yn gweithio gydag arferion sy’n seiliedig ar gryfderau
    • Dylai eich polisïau fod yn hawdd i'w ddefnyddio gan staff.
  • gael polisïau, prosesau a systemau arweinyddiaeth sy'n cefnofi rheolwyr i fodelu ffyrdd o weithio sy'n seiliedig ar gryfderau
    • Er enghreaifft, gall polisïau sy'n cefnogi gorchwyliaeth gefnogi'ch staff i wrando ar y bobl maen nhw'n eu harwain.
  • gefnogi cymryd risg cadarnhaol, oherwydd mae’n gwneud i staff deimlo’n ddiogel ac yn seicolegol ddiogel.
    • Pan mae staff yn archwilio beth yw risg gadarnhaol, mae nhw’n cael eu cefnogi i fod y fersiwn orau ohonynt eu hunain. Gall hyn arwain at ganlyniadau gwell i bobl sy'n derbyn gofal a chefnogaeth.

Cael dysgu, hyfforddiant a goruchwyliaeth sy'n seiliedig ar gryfderau

Gwnewch yn siŵr bod staff wedi'u hyfforddi yn y ffordd hon o weithio, fel eu bod yn ei ddeall ac yn ymgysylltu ac yn buddsoddi ynddo.

Cynnigwch ymrwymiad parhaus i ymgorffori sgiliau trwy hyfforddiant parhaus, goruchwyliaeth ac ymarfer myfyriol.

Mae gennym lawer o adnoddau i chi eu defnyddio gyda staff i'w cael i ddechrau gweithio gyda chryfderau.

Cymerwch olwg ar ein tudalen adnoddau am offer a deunyddiau hyfforddi.

Comisiynu hyfforddiant, dysgu a datblygiad sy'n seiliedig ar gryfderau

Nid hyfforddiant yw popeth. Ond mae comisiynu hyfforddiant o ansawdd uchel, sy'n seiliedig ar gryfderau yn rhoi'r sgiliau a’r wybodaeth gywir i bobl i wneud yn siŵr fod gwasanaeth y gorau y gallant fod.

Cymerwch olwg ar ein canllaw i ddarganfod pa sgiliau, gwybodaeth a gwerthoedd sydd eu hangen ar staff i weithio mewn ffordd sy’n seiliedig ar gryfderau, a gweld sut mae hyfforddiant yn cyd-fynd â’r darlun ehangach.

Sut y gallwn ni eich cefnogi chi

Gallwn roi cymorth wedi'i deilwra i chi i helpu'ch sefydliad i ddechrau defnyddio ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau. I gael gwybod mwy, anfonwch e-bost at: cryfderau@gofalcymdeithasol.cymru