Jump to content
Ymrwymiad 1: creu amgylcheddau gweithio diogel sy’n gwella’n barhaus ac yn cefnogi iechyd a llesiant
Mae’r adran hon yn gysylltiedig â’r canlynol:
  • Y Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogwyr Gofal Cymdeithasol, adrannau 1.5, 1.6, 2.2, 3.4.
  • Y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol, adrannau 6.1, 6.4, 6.5, 6.8, 7.4.

Mae’n bwysig mynd ati mewn ffordd eang i gefnogi iechyd a diogelwch corfforol a meddyliol pobl.

Dylai sefydliadau ddarparu amgylcheddau gweithio diogel a chefnogol ar gyfer cyflogeion. 

Dylai cyflogwyr fod yn gefnogol, ac annog aelodau o’r staff i flaenoriaethu hunanofal a hunandosturi – yn enwedig pan fydd pethau’n arbennig o straenus neu heriol. 

Y ffordd fwyaf effeithiol o gael timau i flaenoriaethu eu llesiant yw gwneud yn siŵr bod rheolwyr ac arweinwyr yn modelu’r ymddygiad hwn eu hunain. 

Mae ein poster awgrymiadau llesiant personol yn tynnu sylw at y prif ymddygiadau y dylai sefydliadau eu hannog a’u cefnogi.

Dylai sefydliadau ddarparu cymorth, neu gyfeirio neu atgyfeirio staff at wasanaethau a all ddarparu cymorth.

Gall hyn gynnwys cymorth yn y gwaith, cymorth iechyd meddwl, cwnsela, cymorth gan gymheiriaid neu gymorth cymunedol, rhaglen cynorthwyo cyflogeion, neu wasanaeth iechyd galwedigaethol. 

Mae’n bwysig bod rheolwyr yn cael yr arweiniad y mae ei angen arnynt i gynorthwyo’u timau, er mwyn iddynt allu cael sgyrsiau sensitif â’r bobl a reolir ganddynt a’u cyfeirio i gael cymorth arbenigol pan fo angen. 

Bydd unrhyw un sy’n rhannu gwybodaeth am gyflwr iechyd yn cael ei drin yn deg ac yn dosturiol, gan gadw cyfrinachedd. Dylai sefydliadau bob amser gynorthwyo pobl i aros yn y gwaith neu i ddychwelyd i’r gwaith.

Sut olwg sydd ar hwn?

Mewn sefydliad, mae hyn yn golygu:

  • bod arweinwyr yn hybu diogelwch, bod yn agored, a llesiant fel gwerthoedd craidd
  • bod prosesau iechyd a diogelwch clir ar gael ar gyfer staff ac ar gyfer y bobl y maent yn gweithio gyda nhw, gan gynnwys asesiadau risg corfforol a meddyliol 
  • bod swyddogaethau a chyfrifoldebau sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch corfforol a meddyliol wedi’u diffinio’n glir
  • bod yr offer iawn yn cael eu darparu er mwyn i bobl wneud eu gwaith 
  • bod llesiant yn cael ei hybu, ar gyfer staff ac ar gyfer y bobl maen nhw’n gweithio gyda nhw, drwy bolisïau, gweithdrefnau a ffyrdd o weithio 
  • bod llwythi gwaith yn rhesymol, bod modd ymdopi â nhw, a’u bod yn cael eu hadolygu’n rheolaidd
  • bod pobl yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt
  • bod yr arwyddion bod rhywun wedi ymlâdd a dan straen oherwydd gwaith yn cael eu cydnabod 
  • bod diwylliant o lesiant ar waith sy’n deall bod yr hyn sy’n digwydd inni yn ein bywydau’n effeithio arnom yn ein gwaith 
  • bod staff â chyflyrau hirdymor yn cael eu cydnabod a’u cynorthwyo i wneud eu gwaith   
  • bod mynediad ar gael at raglenni cymorth cyflogaeth, gwasanaethau cymorth yn y gwaith neu iechyd galwedigaethol 
  • bod straen, a’i effaith emosiynol, yn cael eu cydnabod fel pethau arferol, yn enwedig mewn swyddi gofal cymhleth
  • bod cymorth emosiynol yn cael ei ddarparu, neu bod staff yn cael eu cyfeirio i gael cymorth o’r fath – gan gynnwys cymorth gan gymheiriaid.

Beth y gallwch chi ei wneud

Ar gyfer sefydliadau

Ar gyfer rheolwyr

Ar gyfer pawb

Adnoddau a chymorth

Mae'n bosib na fyddai rhai adnoddau allanol yn hygyrch neu ar gael yn ddwyieithog. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am adnoddau allanol.

  • Sgyrsiau llesiant ac ymarfer myfyriol – SharePoint Gofal Cymdeithasol Cymru
    Offer i gynorthwyo rheolwyr i gynnwys sgyrsiau llesiant ac ymarfer myfyriol fel rhan o’r ffyrdd arferol o weithio (cyfarfodydd tîm, sesiynau goruchwylio, gofodau myfyriol).
     
  • Canllawiau fesul testun – yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
    Templedi polisïau, gwybodaeth, cyngor ynghylch ystod eang o destunau iechyd a diogelwch yn y gwaith.
     
  • Cymorth llesiant yn y gwaith – SharePoint Gofal Cymdeithasol Cymru 
    Gwybodaeth am wasanaethau cymorth iechyd meddwl a gwasanaethau cymorth yn y gwaith i bobl sy’n gweithio yng Nghymru, a manylion cyswllt y gwasanaethau hynny.
Cyhoeddwyd gyntaf: 12 Mehefin 2023
Diweddariad olaf: 9 Tachwedd 2026
Diweddarwyd y gyfres: 9 Tachwedd 2026
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (47.2 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (111.4 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch