Pan fyddwn yn sôn am y gweithlu, rydyn ni’n sôn am bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Mae’r gweithlu’n cynnwys amrywiaeth eang o swyddi sy’n ysgwyddo gwahanol lefelau o gyfrifoldeb mewn sefydliadau o wahanol math.
Mae’r gweithlu’n cynnwys pobl hunangyflogedig, fel gwarchodwyr plant a chynorthwywyr personol. Gall rhai fod yn wirfoddolwyr, a gall rhai fod yn gyflogedig.