Jump to content
Ymrwymiad 3: sefydlu diwylliant yn y gweithle lle y mae pawb yn cael eu cynnwys a’u hysbysu
Mae’r adran hon yn gysylltiedig â’r canlynol:
  • Y Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogwyr Gofal Cymdeithasol, adrannau 2.6, 2.7, 2.8
  • Y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol 3.5, 4.5, 6.6, 7.1

Dylai fod gan sefydliadau systemau, ymddygiadau, ac arferion cyfathrebu sy’n gwneud yn siŵr bod pob cyflogai – beth bynnag fo’i swydd, ei gefndir, neu’i leoliad – yn cael mynediad at y canlynol:

  • gwybodaeth glir,
  • ymwneud ystyrlon,
  • cyfleoedd i ddylanwadu ar gyfeiriad y sefydliad.

I wneud hyn, mae angen creu amgylchedd lle y mae’r cyfathrebu’n dryloyw a lle y mae pob cyflogai’n teimlo bod cysylltiad rhyngddo a phwrpas y sefydliad a’i fod yn cael cyfleoedd i gymryd rhan yn y pethau sy’n effeithio arno.

Mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu pan fydd ganddynt lais a phan fyddant yn cael eu cynnwys mewn newid yn y gweithle. Gallai hyn fod yn newid i’r ffordd y mae’r sefydliad yn gweithio, neu’n newid i’r ffordd yr ydych yn darparu gofal a chymorth. 

I gynnwys ac i hysbysu pobl, mae hefyd angen i arweinwyr atgyfnerthu diwylliant agored a chyfranogiad.

Sut olwg sydd ar hyn?

Mewn sefydliad, mae hyn yn golygu:

  • bod dulliau rheolaidd a chyson ar waith i ofyn am farn staff
  • bod gan staff lais yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt 
  • bod cwestiynau’n cael eu gofyn i’r staff am eu llesiant, am yr amgylchedd gweithio, ac am sut y gall y sefydliad wella, a bod newidiadau a datblygiadau’n cael eu cydlunio gyda’r staff 
  • bod staff yn cael gwybod am ganlyniadau eu hadborth ac yn gweld pethau’n cael eu gwneud o ganlyniad i’w mewnbwn.

Beth y gallwch chi ei wneud

Ar gyfer sefydliadau

Ar gyfer rheolwyr

Ar gyfer pawb

Adnoddau a chymorth

Mae'n bosib na fyddai rhai adnoddau allanol yn hygyrch neu ar gael yn ddwyieithog. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am adnoddau allanol.

Cyhoeddwyd gyntaf: 12 Mehefin 2023
Diweddariad olaf: 9 Tachwedd 2026
Diweddarwyd y gyfres: 9 Tachwedd 2026
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (43.0 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (111.4 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch