Jump to content
Ymrwymiad 4: blaenoriaethu diwylliant o ddysgu a datblygu’n barhaus
Mae’r adran hon yn gysylltiedig â’r canlynol:
  • Y Cod Ymarfer ar gyfer Cyflogwyr Gofal Cymdeithasol, adrannau 1.4, 3.1, 3.2, 3.3, 3.4, 3.5
  • Y Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol 6.7, 7.3

Gall teimlo’n fodlon yn ein gwaith wella ein llesiant. 

Rydyn ni’n cydnabod bod gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yn waith medrus.

Mae ar ein gweithlu angen cael ei gefnogi er mwyn iddo ddysgu, tyfu a theimlo’n hyderus ac yn gymwys yn y gwaith y mae’n ei wneud. 

Mae pobl yn dysgu mewn gwahanol ffyrdd. Gallwn greu amgylcheddau dysgu cadarnhaol lle y mae staff yn cael eu meithrin, gan deimlo bod ganddynt bwrpas a’u bod yn perthyn.

I greu diwylliant o ddysgu a datblygu, mae angen ymrwymiad cadarn gan arweinwyr. 

Mae arweinwyr yn modelu dysgu drwy fynd i sesiynau hyfforddi a myfyrio eu hunain. 

Ceir cysylltiad clir rhwng dysgu a datblygu ar y naill law a gwerthoedd y sefydliad ac ansawdd y gofal ar y llaw arall. Mae rheolwyr yn mynd ati i annog chwilfrydedd, gwelliant, a dysgu ar y cyd. 

Fel gweithlu cofrestredig, mae’n bwysig ein bod ni’n cynorthwyo staff i gael eu hyfforddi ac yn darparu cyfleoedd iddyn nhw barhau i ddatblygu’n broffesiynol.

Sut olwg sydd ar hyn?

Mewn sefydliad, mae hyn yn golygu ein bod:

  • yn creu gweithle sy’n ysbrydoli, lle’r ydym yn dathlu’r hyn yr ydym yn ei wneud yn dda 
  • yn meithrin diwylliant o gynllunio ar gyfer dysgu a datblygu’n barhaus 
  • yn creu amgylchedd dysgu cadarnhaol, lle y gall staff ddysgu oddi wrth ei gilydd 
  • yn blaenoriaethu amser a lle i fyfyrio, i ddysgu, i dyfu ac i addasu i newid
  • yn darparu hyfforddiant i staff o’r dechrau’n deg er mwyn iddynt wneud eu gwaith yn ddigonol ac yn briodol, gan gynnwys hyfforddiant sefydlu cynhwysfawr
  • yn cynorthwyo staff a rheolwyr pan fyddant yn symud i swyddi newydd, gan gynnwys symud i swyddi rheoli 
  • yn gwneud yn siŵr bod pobl yn cael mynediad cyfartal at gyfleoedd dysgu a datblygu priodol 
  • yn hybu cyfle cyfartal i bobl sydd eisiau camu ymlaen
  • yn cynorthwyo ac yn hyfforddi pobl er mwyn iddynt gamu ymlaen
  • yn cefnogi cymwysterau, prentisiaethau, a llwybrau i gamu ymlaen mewn gyrfa.

Ble allaf fi weld esiamplau?

Beth y gallwch chi ei wneud

Ar gyfer sefydliadau

Ar gyfer rheolwyr

Ar gyfer pawb

Adnoddau a chymorth

Mae'n bosib na fyddai rhai adnoddau allanol yn hygyrch neu ar gael yn ddwyieithog. Dydyn ni ddim yn gyfrifol am adnoddau allanol.

Cyhoeddwyd gyntaf: 12 Mehefin 2023
Diweddariad olaf: 9 Tachwedd 2026
Diweddarwyd y gyfres: 9 Tachwedd 2026
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (44.9 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (111.4 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch