Jump to content
Dysgu a datblygu i gefnogi cadw'r gweithlu

Mae cyfleoedd dysgu a datblygu effeithiol yn rhoi sgiliau a’r hyder i staff gofal cymdeithasol i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u hysgogi i gyflawni eu rolau.  Mae hefyd yn cynnig y potensial o ddatblygiad gyrfa.  

Mae boddhad swydd a llesiant yn cynyddu pan mae pobl yn gallu tyfu a gweld dyfodol yn y sector. Mae hyn yn arwain at ymgysylltu cryfach a chyfraddau cadw gwell.

Beth mae ymchwil yn ei ddweud

Darganfodd Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus y gall gwella mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygiad personol helpu staff i deimlo'n fwy gwerthfawr, ac yn fwy tebygol o aros (Thomas et al., 2023). Mae gan wahanol fathau o bobl sy’n chwilio am waith gymhellion ac anghenion gwahanol, ac gall cyflogwyr eu bodloni trwy gyfleoedd datblygu wedi'u targedu. Er enghraifft, mae persona sy'n cynrychioli rhywun sy'n chwilio am ddatblygiad gyrfa yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynnig llwybrau datblygu i gadw gweithwyr uchelgeisiol. Gellir dod o hyd i ragor am hyn yn ein pecyn cymorth personas.

Mae cyfleoedd dysgu a datblygu yr un mor bwysig i reolwyr. Mae ymchwil gan The King’s Fund yn dangos y gall hyfforddiant mewn arweinyddiaeth dosturiol a diogelwch seicolegol helpu i greu diwylliant gwaith cadarnhaol.  Mae hynny wedyn yn gwella llesiant a chyfraddau cadw (Massie, 2017; Bailey a West, 2022).

Adnoddau

Dyma adnoddau i gefnogi cyfleoedd dysgu a datblygu i’r gweithlu.

Proses sefydlu

Ariannu hyfforddiant a datblygiad

Anogaeth gallu ac arloesedd

Modiwlau ac adnoddau dysgu

Cymwysterau

Codau ymarfer proffesiynol

Prif themâu ac adnoddau eraill

Darganfyddwch brif themâu ac adnoddau eraill i gefnogi cadw’r gweithlu.

Darllen ychwanegol

Cysylltu â ni

Oes meysydd neu adnoddau eraill rydych chi'n teimlo a fyddai'n eich helpu i wella cadw i'r gweithlu? Gadewch i ni wybod drwy e-bostio strategaethgweithlu@gofalcymdeithasol.cymru