Jump to content
Cadw’r gweithlu gofal cymdeithasol

Mae'r fframwaith hwn yn darparu adnoddau a chamau gweithredu i sefydliadau gofal cymdeithasol i’w helpu i gadw staff. Mae cadw staff sydd â’r gwerthoedd a'r sgiliau cywir yn hanfodol wrth ddarparu'r gofal a'r gefnogaeth sy'n seiliedig ar berthynas sy'n bwysig i bobl.

Cadw staff – yr heriau presennol

Dangosodd ein harolwg Dweud eich Dweud 2025 mai cadw staff yw un o'r heriau mwyaf arwyddocaol sy'n wynebu gofal cymdeithasol. 

Mae bron i un o bob pump o weithwyr yn dweud eu bod yn bwriadu gadael gofal cymdeithasol o fewn y 14 mis nesaf. Roedd y rhesymau a restrwyd dros adael y sector yn cynnwys: 

  • cyflog isel
  • diffyg cydnabyddiaeth
  • amodau gwaith gwael 
  • cyfleoedd datblygu cyfyngedig. 

Mae llwythi gwaith uchel a phrinder staff yn ychwanegu at y pwysau, gan wneud rolau yn anoddach eu cynnal.

Ar yr un pryd, dywedodd bron i hanner y gweithlu fod angen gwell hyfforddiant a llwybrau cliriach ar gyfer cynnydd gyrfa. 

Mae'r canfyddiadau hyn yn dangos pam ei fod yn hanfodol i wella cyfraddau cadw staff - nid yn unig ar gyfer sefydlogrwydd y gweithlu, ond ar gyfer darparu gofal cyson o ansawdd uchel.

Y fframwaith

Mae'r fframwaith hwn yn tynnu sylw at adnoddau sydd wedi'u cynllunio i helpu cyflogwyr i fynd i'r afael â'r heriau hyn yn uniongyrchol. 

Ein nod yw eich helpu i greu amodau sy'n annog staff i aros, tyfu a ffynnu yn eu rolau. 

Rydyn ni wedi dod ag adnoddau ac ymchwil at ei gilydd i helpu i wella cadw'r gweithlu a datrys rhai o'r problemau y gall trosiant staff uchel eu hachosi. Gall yr adnoddau helpu i ddarparu profiad cadarnhaol yn y gweithle i bobl, a bydd hyn, yn ei dro, yn arwain at well gofal i bobl sy'n defnyddio gofal a chymorth. 

Prif prif themau i gefnogi cadw’r gweithlu

Themâu

Prif prif themâu

Rydyn ni wedi grwpio'r adnoddau o dan bedwar pennawd allweddol:

Y camau nesaf

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu adnoddau pellach dros amser i gefnogi rheolwyr, arweinwyr a sefydliadau i wella eu gallu i gadw eu gweithlu. Mae'r rhain yn cynnwys: arolygon cadw staff, fframweithiau cyflog a chynnydd, a dulliau o recriwtio sy’n seiliedig ar werthoedd. 

Cysylltu â ni

Oes meysydd neu adnoddau eraill rydych chi'n teimlo a fyddai'n eich helpu i wella cadw'r gweithlu? Gadewch i ni wybod drwy e-bostio strategaethgweithlu@gofalcymdeithasol.cymru