Offeryn hunanasesu sy'n seiliedig ar werthoedd
Mae Question of Care wedi creu her fideo ryngweithiol sy’n rhoi cyfle i bobl sy’n chwilio am waith i weld sut beth yw gyrfa ym maes gofal. Ar ddiwedd yr her, byddant yn derbyn proffil personol manwl sy'n eu cryfderau a'r meysydd i’w ddatblygu. Gall y person rannu eu proffil personol gyda chyflogwyr fel rhan o ddull recriwtio sy'n seiliedig ar werthoedd.
Recriwtio sy'n seiliedig ar werthoedd
Dyma adnodd i reolwyr sy’n cynnwys cyngor ac adnoddau ar gyfer gwasanaethau gofal cartref o ran cynnig recriwtio sy'n seiliedig ar werthoedd yn eu gweithle. Mae hefyd yn eu cefnogi i weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Denu, recriwtio a chadw staff: canllaw i gyflogwyr
Fel rhan o gyfres ehangach o ymchwil, rydyn ni wedi datblygu canllaw i gyflogwyr ar sut i fynd ati i wella prosesau denu, recriwtio a chadw staff.
Pecyn cymorth personas defnyddwyr
Fel rhan o'n canllaw i gyflogwyr, rydyn ni wedi creu pecyn cymorth i ddangos sut y gellir defnyddio personas defnyddwyr i gefnogi pobl sy’n chwilio am waith. Mae personâu defnyddwyr yn gymeriadau, fel arfer yn rhai ffug, sy’n cynrychioli cynulleidfa darged neu ddefnyddiwr gwasanaeth. Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys sawl engraifft o bersona.
Cyflogi pobl ifanc
Weithiau gall cyflogi pobl ifanc 16 ac 17 oed yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru fod yn anodd, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig. Rydym wedi datblygu canllaw i'ch helpu i gefnogi pobl ifanc i mewn i'r sector.
Staff sy’n newydd i Gymru
Rydyn ni eisiau cefnogi cyflogwyr gyda staff sy'n newydd i Gymru er mwyn eu helpu i deimlo croeso ac yn sefydlog yn eu rôl.Mae gweithwyr sy’n derbyn cymorth ac sydd wedi eu hysgogi yn fwy tebygol o fod eisiau aros. Darllenwch yr adnodd hwn i ddysgu mwy.