Dangosodd canfyddiadau arolwg Dweud eich Dweud 2025 bod 73 y cant o weithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth gan eu rheolwyr. Ond roedd naw y cant o'r gweithlu yn teimlo nad oeddynt yn cael cefnogaeth. Mae cysylltiad cryf rhwng cymorth gan reolwyr a chanlyniadau da o ran llesiant a chadw staff. Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd yn dangos y gall cefnogaeth dda gynyddu morâl staff a lleihau gorweithio, gan olygu gwell cyfraddau cadw staff am dymor hir.
Mae ymchwil gan Sgiliau Gofal a Chymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (BASW) yn dangos y gall creu gweithleoedd cadarnhaol a thosturiol helpu i wella llesiant a chyfraddau cadw staff. Trwy flaenoriaethu tosturi a pharch yn y gweithle, gall arweinwyr leihau lefelau straen a chreu amgylcheddau lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Gall hyn arwain at lai o drosiant staff (Figgett, 2017; Thompson et al., 2021).
Mae'r gwaith ymchwil hwn hefyd yn dangos y gall rheolwyr wella cyfraddau cadw trwy flaenoriaethu sgyrsiau rheolaidd gyda'u staff a chreu diwylliant o gyfathrebu agored. Mae hyn yn helpu staff i deimlo bod rheolwyr yn gwrando arnynt a'u parchu, sy'n eu gwneud yn fwy tebygol o fod eisiau aros.