Mae’r adroddiad blynyddol yma yn nodi'r cynnydd a wnaed yn erbyn Cynllun Cyflawni'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026.
Mae’r cynllun cyflawni yn cynnwys camau gweithredu i’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru ganolbwyntio arnynt o 2024 i 2027 i ymdrin â'r heriau y mae'n eu hwynebu. Mae'n cynrychioli ail gam y strategaeth wreiddiol, Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a lansiwyd ym mis Hydref 2020.
Datblygwyd y cynllun cyflawni yn dilyn ymgysylltiad helaeth ar draws y sector.
Mae’n tynnu sylw at gyflawniadau ar draws saith thema y strategaeth weithlu a’r tri egwyddor sylfaenol - llesiant, y Gymraeg a chynhwysiant. Mae hefyd yn gosod y cyfeiriad ar gyfer gwelliant parhaus yn y blynyddoedd i ddod.
Ar gyfer pob thema rydyn ni wedi crynhoi:
- ein huchelgais
- y wybodaeth ddiweddaraf am fesurau sy'n canolbwyntio ar effaith
- y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ar y camau gweithredu
- y camau gweithredu a fydd yn cael eu cymryd yn y dyfodol.
Rydyn ni hefyd wedi tynnu sylw at gynnydd lle bo'n berthnasol i gynlluniau penodol y gweithlu ar gyfer:
- y proffesiwn gwaith cymdeithasol
- y gweithlu iechyd meddwl, a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), ynghyd â'r cynllun gweithredu cysylltiedig.
Mae'r adroddiad yn adlewyrchu cyflawniad ar y cyd rhwng Gofal Cymdeithasol Cymru, Llywodraeth Cymru, partneriaid cenedlaethol a'r sector gofal cymdeithasol gyfan, i adeiladu gweithlu gofal cymdeithasol brwdfrydig, ymgysylltiedig a gwerthfawr, sydd â'r gallu, y cymhwysedd a'r hyder i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl Cymru
Mae’r cynllun cyflawni yn cael ei fonitro gan y Grŵp Gweithredu Strategol, sy'n cynnwys partneriaid cenedlaethol. Rydyn ni’n cydweithio a gwneud penderfyniadau i weithio tuag at uchelgeisiau y strategaeth gweithlu. Mae'r grŵp yn cael ei gyd-gadeirio gan ein prif weithredwr Sarah McCarty a Taryn Stephens, Dirprwy Brif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru yn Llywodraeth Cymru.
O ran effaith, o fewn yr adroddiad blynyddol rydyn ni'n:
- darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau’r cynllun cyflawni gyda ffocws ar effaith
- cynnwys data ansoddol a meintiol sy’n tynnu sylw at yr effaith ar gyfer gwahanol feysydd gwaith a’r hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn.
Mae’r mwyafrif, os nad yr holl, waith wedi’i seilio ar bartneriaethau cryfion a cadarn ar draws y sector, fel bod atebion yn cael eu cyd-gynhyrchu, gan greu ymdeimlad o berchnogaeth yn y sector oherwydd eu cyfraniad nhw.
Prif uchafbwyntiau'r adroddiad
Llesiant
- Mynychodd mwy na 780 o bobl ein sesiynau llesiant.
- Cafodd canolfan llesiant ddigidol newydd o'r enw Ffordd ei lansio drwy'r cynllun strategol ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl i gefnogi iechyd a llesiant y gweithlu iechyd meddwl a'r gweithlu ehangach.
- Fe wnaehton ni barhau i hyrwyddo gwasanaeth cymorth iechyd meddwl Canopi.
Y Gymraeg
- Cafodd mwy na 270 o weithwyr gofal cymdeithasol gymorth i wella eu sgiliau Cymraeg drwy diwtoriaid a dysgu ar-lein.
- Fe wnaethnon ni barhau i hyrwyddo pwysigrwydd defnyddio'r Gymraeg yn y gwaith a rhannu gwybodaeth am yr hyn sydd ar gael drwy dudalennau gwe Defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.
- Cyflwynon ni gwrs Croeso newydd dan arweiniad tiwtor, mewn cydweithrediad â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, i helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach.
Cynhwysiant
- Cyhoeddon ni adroddiad cyntaf Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu (WRES) ar gyfer gofal cymdeithasol i fonitro profiadau staff o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
- Lansion ni rhaglen arweinyddiaeth beilot i gefnogi pobl o gefndiroedd amrywiol i symud ymlaen i rolau arwain.
- Lansion ni pecyn e-ddysgu gwrth-hiliaeth dwyieithog a rhaglen hyfforddi'r hyfforddwr i gefnogi arferion gwrth-hiliol ar draws gofal cymdeithasol.
Gweithlu ymgysylltiedig, llawn cymhelliant ac iach
- Mynychodd mwy na 400 o bobl yr ail Wythnos Llesiant, gyda'r adborth yn hynod gadarnhaol.
- Lansiodd y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol fframwaith gwirfoddol drafft ar gyfer cyflog a dilyniant mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru.
- Cyhoeddodd Partneriaeth y Gweithlu Gofal Cymdeithasol ei set gyntaf o bolisïau adnoddau dynol enghreifftiol ar gyfer y sector gofal cymdeithasol.
Denu a recriwtio
- Cyrhaeddodd ymgyrchoedd recriwtio cenedlaethol filiynau o bobl gan hyrwyddo gyrfaoedd mewn meysydd fel gofal preswyl plant, gwaith cymdeithasol, gofal cartref ac ailalluogi.
- Cyrhaeddodd Wythnos y Dysgwyr ddwyieithog 2,850 o ddisgyblion ysgolion cynradd ledled Cymru, gan helpu i godi ymwybyddiaeth o yrfaoedd a rolau mewn gofal cymdeithasol.
- Dathlon ni'r gweithlu yn Gwobrau 2025, a denodd Gwobrau 2026 nifer uchaf erioed o geisiadau, sef 141.
Modelau gweithlu di-dor
- Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Fframwaith Ymarfer Amlasiantaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Plant i gefnogi gweithio amlasiantaethol ledled Cymru.
- Gwnaeth partneriaid barhau i gydweithio drwy fyrddau gweithlu rhanbarthol a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.
- Cafodd ap newydd ei lansio drwy'r cynllun strategol ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl i gefnogi gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy (AMHPs) a meddygon Adran 12 sy'n ymwneud ag asesiadau iechyd meddwl.
Adeiladu gweithlu sy'n barod yn ddigidol
- Rhannon ni ganfyddiadau'r ddyfais botensial ddigidol i helpu i lywio datblygiad digidol yn y sector yn y dyfodol.
- Dechreuon ni'r gwaith ar ddau fframwaith newydd sy'n gysylltiedig â'i gilydd: fframwaith 'sut mae da yn edrych' ar gyfer aeddfedrwydd a llythrennedd digidol, a fframwaith cymhwysedd digidol ar gyfer arweinyddiaeth.
- Cyhoeddon ni canllaw ar ddeallusrwydd artiffisial (AI) ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Addysg a dysgu rhagorol
- Cafodd adolygiad annibynnol o lwybrau addysg gwaith cymdeithasol ei gomisiynu er mwyn mynd i'r afael â heriau recriwtio a'r gweithlu.
- Cyhoeddon ni pecyn hyfforddi ar gyfer ymarferwyr Grŵp C yn seiliedig ar y safonau cenedlaethol newydd ar gyfer hyfforddiant, dysgu a datblygu ym maes diogelu.
- Cynhaliodd Cymru ei dwy gynhadledd gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy gyntaf i godi proffil y rôl a chryfhau rhwydweithiau proffesiynol.
Arweinyddiaeth ac olyniaeth
- Cymerodd mwy na 370 o bobl ran mewn hyfforddiant ar arweinyddiaeth dosturiol, ac fe gafodd dros 1,500 fynediad at adnoddau ategol ar-lein.
- Lansion ni canllaw newydd ar gefnogi diwylliannau cadarnhaol, gan ddenu mwy na 220 o bobl i'r weminar lansio.
- Cyhoeddon ni Codau Ymarfer Proffesiynol wedi'u diweddaru ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a chyflogwyr yng Nghymru.
Cyflenwad a siâp y gweithlu
- Lansion ni dangosfwrdd cofrestru newydd ar Borth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru, gan ddarparu data a mewnwelediadau am y gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru.
- Dechreuon ni'r gwaith ar gynllun cyflawni newydd ar gyfer y gweithlu gofal preswyl i blant a chynllun cyflawni wedi'i ddiweddaru ar gyfer y gweithlu gwaith cymdeithasol.
- Cyflawnodd Llywodraeth Cymru gam cyntaf cynllun gweithredu'r Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol a chyhoeddodd cynigion ar gyfer y cam nesaf.
Dewch o hyd i fwy o dystiolaeth ynglŷn â'n cynnydd yn erbyn uchelgeisiau'r strategaeth.