Cymerwch y cam nesaf yn eich taith iaith Gymraeg ac ymunwch â chyrsiau Croeso’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae strategaeth Mwy na geiriau Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i bob gweithiwr yn y sector iechyd a gofal fod â lefel cwrteisi o Gymraeg erbyn 2027. Mae’r cwrs Croeso, wedi’i ddatblygu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, yn gwrs byr i weithwyr yn y sector iechyd a gofal sy’n cynnwys geiriau a chyfarchion syml i gyfarch a chroesawu pobl yn y Gymraeg.
Bydd y cwrs yn datblygu eich hyder i siarad Cymraeg, ac yn eich annog i ddysgu mwy.
Mae defnyddio’r Gymraeg â siaradwyr Cymraeg, hyd yn oed os mai dim ond ambell air, yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i rai sy'n derbyn gofal, ynghyd â'u teuluoedd.
Os hoffech fynychu gweithdy Croeso ar-lein gyda thiwtor, dyma'r dyddiadau a'r dolenni cofrestru gyfer y cyrsiau cwrteisi Cymraeg ar-lein ar gyfer mis Tachwedd a Rhagfyr:
7 Tachwedd – 10.30am i 11.30am - https://learnwelsh.cymru/learning/course/a9ea0284-83aa-f011-b855-dbbb1153303d/
10 Tachwedd – 5.30pm i 6.30pm - https://learnwelsh.cymru/learning/course/09e9c0eb-7faa-f011-b855-dbbb1153303d/
14 Tachwedd – 2.30pm i 3.30pm - https://learnwelsh.cymru/learning/course/e19b1ca2-7eaa-f011-b855-dbbb1153303d/
5 Rhagfyr – 10.30am i 11.30am - https://learnwelsh.cymru/learning/course/b9b882d7-32ab-f011-b855-dbbb1153303d/
8 Rhagfyr - 5.30pm i 6.30pm - https://learnwelsh.cymru/learning/course/1ad3e568-80aa-f011-b855-dbbb1153303d/
12 Rhagfyr – 2.30pm i 3.30pm - https://learnwelsh.cymru/learning/course/b28b2441-7faa-f011-b855-dbbb1153303d/
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y cyrsiau, ebostiwch Iechydagofal@dysgucymraeg.cymru.
I gael mynediad i'r cwrs croeso hunan-astudio digidol, dilynwch y ddolen yma: Croeso Iechyd a Gofal | Dysgu Cymraeg