Uchelgais: bydd y gweithlu gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi ble bynnag y maen nhw’n gweithio.
Thema un: Gweithlu sy’n ymgysylltu, yn llawn cymhelliant ac yn iach
Cynyddu cyfran y gweithlu sy'n teimlo bod eu morâl yn dda
Bod y gweithlu yn gwybod ble i gael gwybod am gymorth iechyd a llesiant yn y gwaith
Gostwng canran y gweithlu sy'n dweud eu bod wedi profi bwlio, gwahaniaethu neu aflonyddu
Gostwng canran y gweithlu sy'n bwriadu gadael y sector yn y 12 mis nesaf
Mesurau safonol, y gellir eu cymharu'n genedlaethol, ar gyfer bodlonrwydd ar fywyd, teimlo'n werth chweil, hapusrwydd a gorbryder
Thema dau: Denu a recriwtio
Uchelgais: bydd gofal cymdeithasol wedi'i sefydlu'n dda fel brand cryf a hawdd ei adnabod, a'r sector o ddewis i'n gweithlu yn y dyfodol.
Cynnal canran y bobl sy'n ymuno â'r sector oherwydd eu bod eisiau gwneud gwahaniaeth
Lleihau canran y swyddi gwag fel cyfran o'r sector
Lleihau heriau recriwtio a chadw
Gwella hyd gwasanaeth, gan ddefnyddio data o'r gofrestr fel mesur o gyfraddau cadw
Gwella faint mae’r gweithlu yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
Gwella canfyddiad y cyhoedd yng Nghymru o’r gweithlu
Thema tri: Modelau gweithlu di-dor
Uchelgais: modelau gweithlu amlbroffesiynol ac aml-asiantaeth fydd y norm
Cynnal gwaith ymgysylltu blynyddol â byrddau gweithlu rhanbarthol i gael adborth ynghylch sut mae anghenion gweithlu integredig yn cael eu diwallu
Cynhyrchu adroddiadau monitro blynyddol SCWWDP i ddeall blaenoriaethau gweithlu gwasanaethau integredig
Thema pedwar: Adeiladu gweithlu sy'n barod i ddigidol
Uchelgais: bydd galluoedd digidol a thechnolegol y gweithlu wedi’i ddatblygu'n dda ac yn cael ei ddefnyddio'n eang i wneud y gorau o’n ffordd o weithio, er mwyn ein helpu i ddarparu'r gofal gorau posib i bobl.
Sefydlu'r mesurau cywir ar gyfer llythrennedd a hyder digidol.
Thema pump: Addysg a dysgu rhagorol
Uchelgais: bydd y buddsoddiad mewn addysg a dysgu ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn darparu'r sgiliau a'r galluoedd sydd eu hangen i ddiwallu anghenion pobl Cymru
Lleihau canran y gweithlu cofrestredig sy'n gorfod ennill y cymwysterau sydd eu hangen i adnewyddu eu cofrestriad
Cynyddu canran y gweithlu sy'n dweud eu bod yn cael yr hyfforddiant iawn i'w cefnogi yn eu rôl
Cynyddu nifer y bobl sy'n cwblhau prentisiaethau
Thema chwech: Arweinyddiaeth ac olyniaeth
Uchelgais: bydd arweinwyr yn y maes/sector iechyd a gofal cymdeithasol yn dangos arweinyddiaeth gyfunol a thosturiol.
Cynyddu canran y gweithlu a fyddai'n hoffi swydd arwain yn y dyfodol.
Cynyddu canran y gweithlu sy'n teimlo eu bod eu rheolwr yn eu cefnogi
Gostyngiad yn yr anghydraddoldeb o staff lleiafrifol mewn swyddi rheoli
Thema saith: Cyflenwad a siâp y gweithlu
Uchelgais: bydd gennym ni weithlu cynaliadwy mewn niferoedd digonol i ddiwallu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol ein poblogaeth