Jump to content
Ap Adran 12 (S12) newydd wedi’i lansio i helpu cyflymu asesiadau Deddf Iechyd Meddwl
Newyddion

Ap Adran 12 (S12) newydd wedi’i lansio i helpu cyflymu asesiadau Deddf Iechyd Meddwl

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae ap newydd yn helpu gweithwyr proffesiynol i drefnu asesiadau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn gyflymach ac yn haws.

Mae’r ap dwyieithog S12 bellach ar gael yng Nghymru ac yn cael ei ddefnyddio gan Weithwyr Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHPs) a meddygon sydd wedi’u cymeradwyo o dan Adran 12, fel rhan o gynllun peilot. Mae wyth awdurdod lleol a thri bwrdd iechyd yn defnyddio’r ap yn barod neu’n paratoi i’w ddefnyddio.

Yn yr ap S12, gall AMHP anfon cais am gymorth meddygol ac mae pob meddyg sydd wedi cofrestru yn derbyn neges yn syth sy’n dangos:

  • ble bydd yr asesiad yn cael ei gynnal
  • pryd mae ei angen
  • unrhyw sgiliau arbenigol sydd eu hangen, fel profiad CAMHS neu ddewis iaith.

Heb yr ap, yn aml mae’n rhaid i AMHPs ffonio gwahanol feddygon i ddod o hyd i un sydd ar gael. Nawr, gall meddygon ymateb drwy’r ap, gan wneud y broses yn gyflymach ac yn fwy cydgysylltiedig.

Mae’r ap S12 yn rhoi pob cais mewn un lle. Gall pob meddyg sydd wedi cofrestru weld ceisiadau newydd ar unwaith. Dylai hyn:

  • leihau amseroedd aros
  • cwtogi oedi
  • gwella’r profiad i bobl mewn argyfwng.

Er bod yr ap wedi’i ddefnyddio’n llwyddiannus yn Lloegr ers sawl blwyddyn, dyma’r tro cyntaf iddo gael ei addasu ar gyfer defnydd yng Nghymru. Rydyn ni’n cefnogi’r peilot 12 mis.

Dywedodd Jim Widdett, ein Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu:

“Rydyn ni’n falch iawn bod yr ap S12 bellach ar gael yng Nghymru. Mae gennym ni bwrpas clir: gwella ansawdd a chyflymder y cymorth i bobl sydd angen asesiad o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, a’u teuluoedd.”

Gall staff sy’n defnyddio’r ap hefyd rannu eu profiadau ar flog newydd ar gymuned ymarfer ar-lein yr AMHP. Mae’r gymuned ar-lein ar gyfer AMHPs i gysylltu â’i gilydd a rhannu profiadau. Gallwch ymuno â’r gymuned yma.