00:00:04,880 --> 00:00:06,400
Awdur yr Adnodd.
00:00:06,440 --> 00:00:08,160
Fy enw i yw Abdul Quinn-Aziz...
00:00:08,200 --> 00:00:11,080
..ac rwy'n ddarllenydd
mewn gwaith cymdeithasol.
00:00:11,120 --> 00:00:14,120
Fe wnes i waith cymdeithasol
a gofal cymdeithasol...
00:00:14,160 --> 00:00:17,880
..am nifer o flynyddoedd cyn dod
i addysgu gwaith cymdeithasol...
00:00:17,920 --> 00:00:20,240
..ac rydw i erioed wedi bod
â diddordeb...
00:00:20,280 --> 00:00:22,600
..ac yn ymwneud â gwaith
gwrth-hiliaeth.
00:00:22,640 --> 00:00:25,360
Ac rydw i yma i'ch croesawu
i'r hyfforddiant hwn.
00:00:25,400 --> 00:00:27,120
Pam ydyn ni'n gwneud y cwrs hwn?
00:00:28,400 --> 00:00:31,680
Gyda hyn, yr hyn rydyn ni'n ceisio
ei wneud yw eich helpu...
00:00:31,720 --> 00:00:34,120
..ar hyd y daith o ddod
yn fwy gwrth-hiliol.
00:00:34,160 --> 00:00:35,760
A thaith yw hi, nid cyrchfan.
00:00:35,800 --> 00:00:37,800
Rydyn ni i gyd yn dysgu
drwy'r amser.
00:00:37,840 --> 00:00:39,680
Cyflwyniad i Gymru Wrth-hiliol.
00:00:39,720 --> 00:00:43,520
Yr hyn rydyn ni'n ceisio ei wneud
yw gweithio gydag uchelgeisiau...
00:00:43,560 --> 00:00:46,240
..cynllun gwrth-hiliaeth
Llywodraeth Cymru.
00:00:46,280 --> 00:00:48,000
Ac rydych chi i gyd yn gwybod...
00:00:48,040 --> 00:00:51,520
..bod yna addysgu ynghylch
gwrth-hiliaeth mewn ysgolion...
00:00:51,560 --> 00:00:53,760
..mewn colegau, mewn prifysgolion...
00:00:53,800 --> 00:00:56,680
..ond hefyd mae sefydliadau'n edrych
ar ffyrdd...
00:00:56,720 --> 00:01:00,800
..gallan nhw fod yn fwy gwrth-hiliol
dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
00:01:00,840 --> 00:01:03,720
Dyna beth rydyn ni'n ceisio'ch
helpu chi i'w wneud.
00:01:03,760 --> 00:01:07,240
Mae'n debyg ein bod ni i gyd yn
dechrau mewn mannau gwahanol...
00:01:07,280 --> 00:01:10,600
..ac efallai bod rhai pethau
sy'n ymddangos yn syml iawn...
00:01:10,640 --> 00:01:14,040
..ond hefyd rhai meysydd sy'n
teimlo'n wirioneddol heriol.
00:01:14,080 --> 00:01:16,080
Rydyn ni i gyd yn dysgu
drwy'r amser.
00:01:16,120 --> 00:01:17,760
Sut gall y cwrs hwn eich helpu?
00:01:17,800 --> 00:01:21,680
O fewn hynny, mae'n ymwneud â'ch
helpu chi i ddatblygu'r adnoddau...
00:01:21,720 --> 00:01:25,320
..a'r hyder a gofyn i chi roi cynnig
ar bethau, i ddysgu pethau...
00:01:25,360 --> 00:01:28,040
..ac i feddwl yn wirioneddol
am sut ydych chi...
00:01:28,080 --> 00:01:29,800
..a ble rydych chi'n gweithio.
00:01:30,360 --> 00:01:33,440
Ond dydy'r gwaith yma ddim i fod
i wneud i bobl deimlo...
00:01:33,480 --> 00:01:37,000
..eu bod yn gwneud camgymeriadau,
ac y dylech deimlo'n euog...
00:01:37,040 --> 00:01:39,720
..ond cydnabod y gallai'r gwaith
fod yn heriol.
00:01:39,760 --> 00:01:42,640
Rydyn ni wedi cael canrifoedd
o ddysgu hiliaeth...
00:01:42,680 --> 00:01:46,080
..ac felly bydd yn cymryd peth amser
a rhywfaint o ymdrech...
00:01:46,120 --> 00:01:48,800
..i ddad-ddysgu hynny -
dydy o ddim yn gam hawdd.
00:01:48,840 --> 00:01:51,240
Os oedd o, bydden ni wedi ei
drwsio'n barod.
00:01:51,280 --> 00:01:53,000
Camau bach, gwahaniaeth mawr.
00:01:53,040 --> 00:01:56,960
Y peth am deimlo'n bryderus am wneud
camgymeriad neu deimlo'n euog...
00:01:57,000 --> 00:01:59,800
..yw nad yw'r naill na'r llall
yn ein helpu i newid.
00:01:59,840 --> 00:02:02,920
Yr hyn rydyn ni eisiau eich helpu
i'w wneud yw meddwl...
00:02:02,960 --> 00:02:06,680
..ble rydych chi, ble hoffech chi
fod, a sut y gallwch gyrraedd yno.
00:02:06,720 --> 00:02:09,720
Ond mae hefyd yn ymwneud â'r camau
bach sy'n bosibl...
00:02:09,760 --> 00:02:11,760
..o fewn eich gwaith,
yn eich bywyd.
00:02:11,800 --> 00:02:13,840
Achos mae'r camau bach hynny
i gyd...
00:02:13,880 --> 00:02:16,360
..yn dod at ei gilydd i wneud
gwahaniaeth...
00:02:16,400 --> 00:02:19,600
..a bydd Cymru wrth-hiliol yn well
fyth i bob un ohonon ni.
00:02:19,640 --> 00:02:23,560
Fel mae'r ymchwil yn dangos, mae
pobl amrywiol a lleisiau gwahanol...
00:02:23,600 --> 00:02:27,000
..yn arwain at ganlyniadau gwell,
penderfyniadau gwell...
00:02:27,040 --> 00:02:28,880
..a bydd yn well i bob un ohonon ni.
00:02:28,920 --> 00:02:30,520
Beth sydd yn y cwrs?
00:02:31,800 --> 00:02:34,480
Felly gadewch i ni fynd ar y daith
gyda'n gilydd.
00:02:34,520 --> 00:02:37,440
Daw'r adnodd mewn pum uned
a daw pob uned mewn dwy ran.
00:02:37,480 --> 00:02:40,400
Fel hyn, gallwch ei wneud ar eich
cyflymder eich hun.
00:02:40,440 --> 00:02:42,920
Mae pob uned yn gorffen gyda
chwestiynau...
00:02:42,960 --> 00:02:46,480
..i chi feddwl amdanyn nhw, ac yna
eu trafod gyda'ch rheolwr...
00:02:46,520 --> 00:02:50,400
..ac mae rhai o'r unedau'n gofyn i
chi feddwl amdanoch chi eich hun...
00:02:50,440 --> 00:02:53,160
..eich gweithle, eich lleoliad,
ac yn ehangach.
00:02:53,200 --> 00:02:56,080
Mae'r modiwlau'n dechrau
drwy ein cael i feddwl...
00:02:56,120 --> 00:02:57,960
..am y cyd-destun yng Nghymru...
00:02:58,000 --> 00:03:02,000
..sut mae hiliaeth yn effeithio y
rhai sy'n defnyddio gwasanaethau...
00:03:02,040 --> 00:03:04,240
..a'r rhai sy'n darparu
gwasanaethau.
00:03:04,280 --> 00:03:07,560
Byddwn yn edrych ar sut y gallwn
ddysgu bod yn wrth-hiliol.
00:03:07,600 --> 00:03:10,320
Gallwn hefyd edrych ar
sut y gallwn siarad am hil.
00:03:10,360 --> 00:03:12,480
Unwaith eto,
dydy hyn ddim yn hawdd...
00:03:12,520 --> 00:03:14,920
..ond rydyn ni eisiau gwneud
gwahaniaeth.
00:03:14,960 --> 00:03:17,480
Gallwn hefyd edrych ar rai
enghreifftiau...
00:03:17,520 --> 00:03:21,000
..lle mae pobl wedi gwneud
gwahaniaeth, i'n helpu i feddwl...
00:03:21,040 --> 00:03:23,920
..am yr hyn y gallen ni ei wneud
yn wahanol i'r hyn...
00:03:23,960 --> 00:03:26,680
..rydyn ni bob amser wedi
meddwl ei wneud fel hyn.
00:03:26,720 --> 00:03:29,240
Mae gan bob uned ddolenni
i ddeunydd arall...
00:03:29,280 --> 00:03:31,600
..pethau i ddarllen
neu fideos i wylio...
00:03:31,640 --> 00:03:34,360
..a bydd rhestr o adnoddau
os ydych chi eisiau...
00:03:34,400 --> 00:03:36,640
..mynd â'ch dysgu ymhellach
ar y diwedd.
00:03:36,680 --> 00:03:39,800
Rwy'n gobeithio y bydd y cwrs
hwn yn ddefnyddiol i chi...
00:03:39,840 --> 00:03:43,360
..ac yn eich helpu i deimlo'n
fwy hyderus wrth fynd i'r afael...
00:03:43,400 --> 00:03:47,120
..â hil a sut y gallwch chi wella'ch
gwaith a gwaith eich sefydliad.