Jump to content
Wythnos Llesiant 2026: dysgu, cysylltu a rhannu
Newyddion

Wythnos Llesiant 2026: dysgu, cysylltu a rhannu

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n cynnal wythnos o ddigwyddiadau llesiant ar-lein ym mis Ionawr i gefnogi pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, a'r blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.

Rhwng 19 a 23 Ionawr, bydd gwesteion arbennig yn ymuno â ni i rannu gwybodaeth am y pethau y gallwch chi eu gwneud i gefnogi’ch llesiant eich hun a llesiant y bobl o'ch cwmpas.

Mae Wythnos Llesiant 2026 yn ofod cadarnhaol lle gall pobl yn y sector ddod at ei gilydd i ddysgu am lesiant a rhannu arferion gorau.

Bydd llawer o sesiynau gwahanol ar gael i bawb – o weithdai i weminarau – ar bynciau sy’n cynnwys:

  • lle gwych i weithio
  • menywod a hyder
  • cefnogi iechyd meddwl dynion yn y gwaith
  • pŵer adrodd straeon yn y gwaith.

Mae'r digwyddiadau yn agored i bawb yn y sector. Gallwch ymuno â chymaint o ddigwyddiadau ag y dymunwch. Does dim rhaid i chi gymryd rhan yn yr holl ddigwyddiadau.

Mae pynciau ein sesiynau Wythnos Llesiant yn cyd-fynd â'r pedwar ymrwymiad yn ein fframwaith iechyd a llesiant y gweithlu.

Sef:

  • Ymrwymiad 1: creu amgylcheddau gweithio diogel sy’n gwella’n barhaus ac sy’n gefnogol i iechyd a llesiant
  • Ymrwymiad 2: triniaeth deg, urddas a pharch i bawb
  • Ymrwymiad 3: sefydlu diwylliannau gweithlu lle mae pawb yn cael eu cynnwys ac yn wybodus
  • Ymrwymiad 4: blaenoriaethu diwylliant o ddatblygu a dysgu’n barhaus.

Dywedodd Kate Newman, Rheolwr Gwella a Datblygu ar gyfer Llesiant Gofal Cymdeithasol Cymru:

“Mae Wythnos Llesiant yn gyfle i ddod ynghyd ag eraill mewn rolau tebyg, gan greu gofod ar y cyd i ddysgu, cysylltu, a myfyrio ar sut i gefnogi llesiant eich tîm a'ch llesiant eich hun yn y gwaith.

“Rydyn ni am gynnig rhywbeth syml ond pwerus i chi: caniatâd i flaenoriaethu'ch hun. Rhowch yr amser i chi'ch hun ymuno â ni, hyd yn oed os mai dim ond am un sesiwn. Pan gymerwn amser i ganolbwyntio ar ein llesiant yn y gwaith, gall newid defnyddiol a phwysig ddigwydd.”

Mae Jen Griffin, Trefnydd Datblygu Dysgu Ardal Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, yn cymryd rhan yn Wythnos Llesiant. Dywedodd Jen:

“Mae cymryd amser i ofalu am eich iechyd a’ch llesiant eich hun nid yn unig yn creu fersiwn iachach ohonoch chi a gweithle hapusach, mae hefyd yn eich rhoi yn y sefyllfa orau i gefnogi’r pobl rydych chi’n gweithio gyda nhw.

“Gwnewch eich hun yn flaenoriaeth a dewch i un o’r sesiynau.”

Ymunwch â ni ar gyfer Wythnos Llesiant 2026

Edrychwch ar beth sydd ymlaen ac archebwch eich lle.