Jump to content
Gwasanaethau gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar sy'n denu, recriwtio a chadw pobl â'r gwerthoedd cywir i ddiwallu anghenion y rhai sydd angen gofal a chymorth

Trosolwg o'n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn yn 2023-2024

Yn 2022:

  • amcangyfrifwyd bod 84,134 o bobl yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru – saith y cant yn llai* nag yn 2021.
  • roedd 226 yn fwy o bobl wedi ymuno â'r sector o'i gymharu â'r rhai a adawodd
  • cofnodwyd 5,323 o swyddi gwag, sy'n cyfateb i naw y cant o'r gweithlu
  • roedd 80% o'r gweithlu wedi'u cyflogi ar gontract parhaol
  • roedd canran y gweithwyr asiantaeth wedi gostwng ychydig, roedd cyfran y gweithwyr asiantaeth a oedd yn gweithio i:
    • ddarparwyr a gomisiynir yn 1.7 y cant (i lawr o dri y cant yn 2021)
    • awdurdodau lleol wedi cynyddu i 0.5 y cant (i fyny o 0.4% yn 2021).

Ffynhonnell: Adroddiad data'r gweithlu 2022

Mae tua 17,300 o bobl yn gweithio ym meysydd y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru

(Ffynhonnell: Adolygiad Llywodraeth Cymru o'r Sector Gofal Plant yng Nghymru 2018)

Gofalwn Cymru

Yn 2023 a 2024, fe wnaethom barhau i ddatblygu brand Gofalwn Cymru er mwyn denu, recriwtio a chadw pobl yn y sectorau gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar.

Fe wnaethom ddatblygu ymgyrch genedlaethol a phorth swyddi Gofalwn Cymru ymhellach, sy'n cael ei ddefnyddio gan fwy o ddarparwyr.

Mae'r porth swyddi’n ffordd hawdd i gyflogwyr gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar hysbysebu eu swyddi gwag ac i bobl weld y swyddi gwag sydd ar gael yn eu hardal. Gwelwyd cynnydd yn nifer y swyddi a hysbysebwyd ar y porth swyddi ac yn nifer y ceisiadau a dderbyniwyd.

Gofalwn Cymru 

219,286 o bobl wedi defnyddio'r wefan

57,675 o bobl wedi defnyddio'r porth swyddi

3,551 o swyddi wedi'u cyhoeddi

Rhaglen Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol 

Rydyn yn cynnal rhaglen hyfforddi wedi'i hariannu ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn gweithio ym maes gofal cymdeithasol o'r enw Cyflwyniad i Ofal Cymdeithasol.

Yn 2023:  

  • cofrestrodd 1,079 o bobl ar y rhaglen
  • cwblhawyd y rhaglen gan 580 o oedolion a phobl ifanc (53%)
  • mynychodd 127 o bobl ifanc y rhaglen coleg a oedd yn para deuddydd  
  • cafodd 67 o bobl gymorth un-i-un gan hyfforddwr gwaith
  • cafodd 77 gyfle ym maes cyflogaeth, addysg neu wirfoddol ar ôl cwblhau'r rhaglen

Cyflwyniad i'r blynyddoedd cynnar a gofal plant 

Nod y rhaglen 'Cyflwyniad i Ofal Plant' yw codi ymwybyddiaeth o'r profiad o weithio ym maes gofal plant a chynghori pobl ar ddechrau eu gyrfa yn y sector.

Yn 2023, roedd 205 o bobl wedi cwblhau'r rhaglen.

Ystyried sut i fynd i'r afael â heriau'r gweithlu ym meysydd gofal cymdeithasol a gofal plant

Dywedodd pobl sy'n gweithio yn y sector y gall dod o hyd i waith ymchwil cyfoes sy'n berthnasol i'w hymarfer fod yn her. Er mwyn cynorthwyo pobl gyda hyn, rydyn wedi bod yn cynhyrchu crynodebau tystiolaeth sy'n cyflwyno canfyddiadau gwaith ymchwil mewn ffordd hawdd ei deall. Gan ddibynnu ar y wybodaeth sydd ar gael, mae ein crynodebau tystiolaeth yn gallu cynnig y canlynol i bobl:

  • esboniad byr o sut mae'r pwnc yn ymwneud â deddfwriaeth a pholisi Cymru
  • dolenni i ddata perthnasol ar ein Porth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol
  • enghreifftiau o ymarfer addawol o Gymru
  • mynediad at ragor o gymorth, gan gynnwys ein cymunedau ymarfer, ein gwasanaeth anogaeth arloesedd, a'n cymorth gwerthuso
  • dolenni i ddigwyddiadau a hyfforddiant cysylltiedig

Deall atyniad, recriwtio ac ymddygiadau ceisio gwaith

Fe wnaethom gyhoeddi cyfres o adroddiadau ac argymhellion yn ymwneud â deall atyniad, recriwtio ac ymddygiadau ceisio gwaith er mwyn cynorthwyo cyflogwyr gofal cymdeithasol sy'n ei chael hi'n anodd denu a recriwtio staff. Fe wnaethom gynhyrchu dau adnodd ar eu cyfer hefyd:

  • pecyn cymorth personas defnyddwyr - mae’r pecyn cymorth hwn yn disgrifio sut y gellir defnyddio personas defnyddwyr i gefnogi ceiswyr gwaith yn y sector gofal cymdeithasol, gan gynnwys sawl enghraifft o bersonas defnyddwyr.
Cyhoeddwyd gyntaf: 19 Medi 2024
Diweddariad olaf: 19 Medi 2024
Diweddarwyd y gyfres: 19 Medi 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (46.9 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (156.4 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch