Jump to content
Gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar sy'n cael ei gydnabod a'i werthfawrogi'n fawr

Trosolwg o'n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn yn 2023-2024

  • Mae 76% o'r gweithlu cofrestredig yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi gan y bobl a'r teuluoedd y maent yn eu cynorthwyo, mae 71% yn teimlo bod eu cydweithwyr yn eu gwerthfawrogi, a 61% yn teimlo bod eu rheolwyr yn eu gwerthfawrogi. Ond dim ond 44% sy'n teimlo bod y cyhoedd yn eu gwerthfawrogi.
  • Mae 57% yn fodlon â'u swydd bresennol (mae 33% yn anfodlon). 
  • Dywedodd 63% fod ganddynt deimlad o foddhad swydd, y rhan fwyaf o'r amser o leiaf.

(Canlyniadau'r arolwg o'r gweithlu 2023)

Mae Arolwg Omnibws Cymru o 1,000 o aelodau'r cyhoedd yn 2023 yn dangos bod y cyhoedd yn gwerthfawrogi'r gweithlu:

  • mae mwy na dwy ran o dair (76%) yn credu eu bod yn gwneud gwaith da
  • mae bron i dri chwarter yn ymddiried ynddyn nhw
  • mae bron i 80 y cant yn credu y dylai gweithwyr gofal gael lefelau tebyg o gyflog a buddion i'r rhai sy'n gweithio yn y GIG.

(Ffynhonnell: Arolwg Omnibws Cymru 2023)

Fforwm Gwaith Gofal Cymdeithasol

Mae ein gweithlu gofal cymdeithasol yn haeddu gwobr deg sy'n adlewyrchu ei gyfraniad hollbwysig at lesiant pobl a chymunedau.

Fel aelodau o'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol, fe wnaethom barhau i ddylanwadu ac ymrwymo i ymgorffori gwaith teg a gwella telerau ac amodau'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Fe wnaethom gadeirio ac arwain y gweithgor a ddatblygodd y Fframwaith Cyflog a Datblygu Gyrfa a oedd yn destun ymgynghoriad yn 2023. Cafwyd cefnogaeth eang i'r fframwaith hwn a bydd yn cael ei ddatblygu ymhellach yn 2024/25.

Cydnabod a dathlu'r gweithlu

Cynhaliwyd ein seremoni wobrwyo Gwobrau ar 27 Ebrill 2023. Roedd yn gyfle i ni gydnabod, dathlu a rhannu ymarfer rhagorol ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Mae'r Gwobrau’n agored i weithwyr gofal ar bob lefel, yn ogystal â thimau, prosiectau a sefydliadau o bob rhan o'r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol ac annibynnol sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.

Roedd dros 40 o brosiectau a gweithwyr o bob rhan o Gymru wedi gwneud cais neu wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau 2023. Dewiswyd y 15 a gyrhaeddodd y rownd derfynol gan banel o feirniaid a oedd yn cynnwys aelodau o'n Bwrdd, cynrychiolwyr o sefydliadau partner a phobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau gofal a chymorth. 

“Mae mor bwysig ein bod yn neilltuo’r amser hwn i ddiolch i'r gweithwyr gofal hynny a chydnabod a dathlu'r gofal a'r cymorth rhagorol sy'n cael eu darparu bob dydd ym mhob cymuned yng Nghymru.” ein Prif Weithredwr

Mae sylwadau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau ein prosiectau buddugol a'r rhai a gafodd ganmoliaeth uchel yn dangos bod y gofal a'r cymorth y maent yn eu derbyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i'w bywydau.

Gwobr gofalu trwy'r Gymraeg

Mae gallu derbyn gofal a chymorth gan rywun sy'n gallu siarad eich iaith yn rhan bwysig o dderbyn gofal urddasol o ansawdd uchel. Roedd seremoni wobrwyo Gofalu trwy'r Gymraeg 2023, a gynhaliwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ar 10 Awst, yn gyfle i gydnabod, dathlu a rhannu gwaith pobl sy'n darparu gofal a chymorth rhagorol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Eleni, dewiswyd pump o bobl o bob rhan o Gymru ar gyfer rownd derfynol y wobr gan banel o feirniaid arbenigol. Cafodd yr enillydd, arweinydd chwarae o Gaerdydd, Ross Dingle, ei ddewis trwy bleidlais gyhoeddus lle pleidleisiodd dros 2,250 o bobl.

“Mae'r wobr eleni wedi rhoi enghreifftiau rhagorol i ni o weithwyr ymroddedig sy'n ysbrydoli pobl trwy ddarparu gofal rhagorol trwy gyfrwng y Gymraeg. Maen nhw'n adlewyrchu'r gwahaniaeth pwysig a chadarnhaol y gall derbyn gofal a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg ei wneud i fywydau pobl.” ein Prif Weithredwr

‘‘Dweud eich dweud' – yr arolwg cyntaf o'r gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig

Cwblhaodd mwy na 3,100 o bobl sydd wedi cofrestru gyda ni ein harolwg cyntaf o'r gweithlu, a oedd yn gofyn cwestiynau am faterion fel:

  • llesiant
  • y profiad o weithio ym maes gofal cymdeithasol
  • cyflog ac amodau
  • hyfforddiant a chymwysterau.

Ym mis Hydref, cyhoeddwyd canlyniadau'r arolwg. Byddwn yn defnyddio'r canfyddiadau i lywio'r cymorth a'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig gennym, yn ogystal â gwaith ein sefydliadau partner. Yn y dyfodol byddwn yn gallu gweld sut y gallwn wella a chefnogi mwy o feysydd ar gyfer y gweithlu yn ein holl waith. Fe wnaethom lansio arolwg 2024 ym mis Ionawr er mwyn gallu monitro'r hyn y mae'r gweithlu'n ei ddweud wrthym dros amser. Byddwn yn rhannu canlyniadau'r arolwg hwnnw yn hydref 2024. 

“Mae ymrwymiad eithriadol ein gweithlu gofal cymdeithasol yn amlwg yn yr arolwg drwyddo draw. Fodd bynnag, mae canfyddiadau'r arolwg yn atgyfnerthu'r ffaith fod angen gwneud llawer mwy i sicrhau bod ein gweithlu’n teimlo bod pobl yn ei werthfawrogi a'i fod yn cael y cymorth gorau posibl sydd ar gael.” Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd

Cerdyn gweithiwr gofal

Fe wnaethom gyhoeddi fersiwn newydd o'r cerdyn gweithiwr gofal yn 2024. Mae gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr y blynyddoedd cynnar yn gallu defnyddio'r cerdyn hwn i gael cerdyn arian-yn-ôl a chasgliad o gynigion manwerthu gan y darparwr disgowntiau pwrpasol Discounts for Carers.

Ar ddiwedd mis Mawrth 2024, roedd cerdyn gan 45,232 o weithwyr gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar. O'r rhain:

  • mae 8,705 yn weithwyr gofal cymdeithasol nad ydynt wedi cofrestru gyda ni
  • mae 1,762 yn weithwyr y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Cynnwys cysylltiedig

Cyhoeddwyd gyntaf: 19 Medi 2024
Diweddariad olaf: 19 Medi 2024
Diweddarwyd y gyfres: 19 Medi 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (44.8 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (156.4 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch