Jump to content
Gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar sydd â chymwysterau addas, sy’n wybodus a medrus ac sydd â’r gwerthoedd, yr ymddygiad a’r ymarfer cywir

Trosolwg o'n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn yn 2023-2024.

Fe wnaethom helpu pobl sy'n cael eu cyflogi ym meysydd gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar i ddatblygu eu sgiliau a gwella eu galluoedd i gefnogi pobl a darparu gofal yn effeithiol.

  • dywed 67% o'r cyhoedd yng Nghymru fod gweithwyr gofal preswyl yn fedrus ac yn broffesiynol yn eu gwaith bob amser (yr un ganran ag yn 2021) 
  • dywed 65% o'r cyhoedd yng Nghymru fod gweithwyr gofal cartref yn fedrus ac yn broffesiynol yn eu gwaith bob amser (67% yn 2021) 
  • dywed 67% o'r cyhoedd yng Nghymru fod gweithwyr y blynyddoedd cynnar a gofal plant yn fedrus ac yn broffesiynol yn eu gwaith bob amser (69% yn 2021 a 2020)

(Ffynhonnell: Arolwg Omnibws Cymru 2023)

Cofrestr seiliedig ar gymwysterau

Gyda 61,000 o bobl ar y gofrestr rydyn yn gallu adrodd ar y cymwysterau sydd gan weithwyr gofal i gyflawni eu rolau. Rydyn yn darparu data ac yn adrodd ar y data o'r gofrestr seiliedig ar gymwysterau y mae gweithwyr gofal eu hangen i feddu ar gymwysterau penodol yn dibynnu ar eu rôl swydd.

Rydyn wedi ymrwymo i ddarparu mynediad agored i ddata gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r data o’n Cofrestr wedi’i gynnwys yn ein Porth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol i Gymru sy’n dwyn ynghyd ddata o wahanol ffynonellau i helpu i greu darlun o ofal cymdeithasol a chymorth ledled Cymru.

Rheoli'r broses ar gyfer cyhoeddi tystysgrifau prentisiaeth drwy Ardystio Prentisiaethau Cymru  

Mae prentisiaethau'n cynnig ffordd o dderbyn hyfforddiant a datblygu sgiliau a chymwysterau newydd wrth i bobl weithio ac ennill cyflog. Mae manylion holl fframweithiau prentisiaethau gofal cymdeithasol neu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant ar gael ar wefan Ardystio Prentisiaethau Cymru (ACW). Ein rôl ni yw helpu i wirio tystiolaeth er mwyn sicrhau ei bod yn bodloni'r safonau gofynnol. Wedyn rydym yn anfon tystysgrifau at ddarparwyr dysgu sy'n dyfarnu'r brentisiaeth i'w dysgwyr.

Cwblhaodd 3,270 o bobl brentisiaethau ym meysydd gofal plant, chwarae, dysgu a datblygu neu iechyd a gofal cymdeithasol yn 2023 i 2024: 

  • cwblhaodd 880 o bobl brentisiaeth gofal plant, chwarae, dysgu a datblygu
  • cwblhaodd 2,390 o bobl brentisiaeth iechyd a gofal cymdeithasol.

Buddsoddi yn y gweithlu

Rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol 

Derbyniodd 172 o fyfyrwyr newydd fwrsariaeth yn 2023 i 2024:  

  • 100 o fyfyrwyr israddedig 
  • 72 o fyfyrwyr Meistr 

Mynychodd 224 o fyfyrwyr adnewyddu gyrsiau yn 2023 i 2024 

Grant Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (SCWWDP)

Mae Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol (SCWWDP) yn fenter grant sydd â’r nod o wella gweithlu'r sector gofal cymdeithasol. Ei nod yw gwella ansawdd a phrosesau rheoli gwasanaethau cymdeithasol trwy hyfforddiant wedi'i dargedu a chynyddu nifer y bobl sy'n manteisio ar hyfforddiant ledled y sector.

Fe wnaethom roi £7,640,051 i awdurdodau lleol drwy Grant Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (SCWWDP). Darparodd yr awdurdodau lleol arian cyfatebol gwerth £3,274,076. 

Cynorthwyo gweithwyr gofal cymdeithasol i ddysgu Cymraeg

Mae ein data yn awgrymu bod tua 29% o'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gallu deall Cymraeg i ryw raddau ac rydym yn parhau i edrych ar ddulliau o gefnogi'r gweithlu i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.

Eleni, cofrestrodd 474 o bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ar ein cwrs Camau i ddechreuwyr, mewn partneriaeth â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae'n cymryd 60 awr i gwblhau'r cwrs di-dâl, sy'n cynnig cyfnodau dysgu byr a hyblyg, gan ganolbwyntio ar y geiriau a'r ymadroddion Cymraeg y mae gweithwyr yn fwyaf tebygol o fod eu hangen wrth gyfathrebu â'r bobl maen nhw’n eu cynorthwyo.

Safonau hyfforddiant diogelu

Ym mis Tachwedd, cyhoeddwyd y Fframwaith hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed.

Cafodd y fframwaith ei greu mewn partneriaeth â chydweithwyr ym meysydd gwasanaethau cymdeithasol, gofal cymdeithasol, addysg, iechyd a'r gwasanaethau brys yng Nghymru, ac mae'n nodi safonau ar gyfer y lefelau a'r mathau o hyfforddiant diogelu sydd eu hangen ar weithwyr proffesiynol.

Y safonau hyn oedd y cyntaf o'u math yng Nghymru a'u nod yw sicrhau bod gan weithwyr proffesiynol ledled Cymru lefelau a mathau cyson o hyfforddiant diogelu.

Rhaglenni arweinyddiaeth 2023/24

Rydyn yn goruchwylio nifer o raglenni rheolaeth ac arweinyddiaeth gofal cymdeithasol:

  • rhaglen arweinyddiaeth gyfunol a thrugarog, i wella rhinweddau arweinyddiaeth ymysg uwch arweinwyr yn y sector gofal cymdeithasol – roedd 87% o'r rhai a gwblhaodd y rhaglen yn fodlon ei bod wedi diwallu eu hanghenion
  • mae'r rhaglen rheolwyr canol yn helpu darpar reolwyr canol i ddeall a pharatoi ar gyfer symud i'r rolau hyn, ac yn cefnogi cynllunio ar gyfer olyniaeth
  • y cyfarwyddwyr statudol – ymunodd 8 o bobl â'r garfan newydd ar gyfer 2023 i 2024

Byddwn yn parhau i werthuso'r rhaglenni er mwyn parhau i wella, datblygu ac adeiladu ar yr hyfforddiant sy'n cael ei ddarparu.

Cymunedau ymarfer i gefnogi dysgu

Rydyn wedi sefydlu cymunedau er mwyn cynorthwyo pobl yn y sector i ddatblygu rhwydweithiau, gweithio gyda'i gilydd a dysgu oddi wrth ei gilydd, gan gynnwys y canlynol:

Rydyn am i'r cymunedau fod yn lle diogel i aelodau, lle maen nhw'n gallu teimlo'n ddiogel yn archwilio pynciau sy'n bwysig iddyn nhw. Gan wybod bod y gymuned yn eu cefnogi, mae aelodau'n gallu rhannu syniadau, gofyn cwestiynau a derbyn cymorth.

Dyma sylwadau aelodau o gymunedau ymarfer:

“Mae'n dda clywed bod pobl eraill yn mynd trwy heriau tebyg i mi. Mae'r gwaith hwn yn gallu bod yn anodd ac yn unig weithiau, ac rydych chi eisiau gwybod bod pobl eraill yn rhannu'ch profiad!”  

"Mae'r budd o ddatblygu cysylltiadau ar draws [awdurdodau lleol] eraill wedi bod yn werthfawr iawn. Yn fy marn i, mae'n fuddiol i ddatblygu gwasanaethau ledled Cymru.”

"Mae'n ddefnyddiol iawn derbyn cefnogaeth a gwrando ar syniadau pobl eraill sy'n ceisio datrys yr un math o broblemau.”

Cynnwys cysylltiedig

Cyhoeddwyd gyntaf: 19 Medi 2024
Diweddariad olaf: 21 Hydref 2024
Diweddarwyd y gyfres: 21 Hydref 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (43.9 KB) Lawrlwythwch y gyfres hon fel PDF (148.7 KB)
Efallai na fydd y ffeiliau hyn yn gyfan gwbl hygyrch