Trosolwg o'n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn yn 2023-2024
Fel sefydliad arweinyddiaeth cenedlaethol, mae gennym gyfrifoldeb i arwain drwy esiampl o ran sut rydyn yn gweithio.
Er mwyn bod yn effeithiol, mae'n rhaid i ni ddeall yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu pobl sy'n gweithio ym meysydd gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar. Rydyn yn parhau i weithio gyda nhw er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau’n diwallu eu hanghenion sy'n newid. Rydyn yn defnyddio adborth i herio a llywio ein busnes, ein prosiectau a'n cynlluniau.
Fe wnaethom barhau i ddangos natur agored a thryloyw ein penderfyniadau (llywodraethu) yn y ffordd rydyn yn gweithio ac yn gwario arian cyhoeddus wrth i ni gyflwyno ein cynllun pum mlynedd.
Cawsom adroddiadau cadarnhaol gan Archwilio Cymru a'n harchwilwyr mewnol ar ein trefniadau llywodraethu, yn ogystal ag adborth cadarnhaol gan ein Gweinidog sy'n noddi a swyddogion Llywodraeth Cymru ynglŷn â'n gwaith i gefnogi'r sector.
Yn 2023 i 2024, fe wnaethom y canlynol:
- cyhoeddi ein hadroddiad effaith, yn dangos y cynnydd a wnaethom yn ystod blwyddyn gyntaf ein cynllun strategol 2022 i 2027 pum mlynedd
- cynnal ymgyrch recriwtio helaeth gyda thîm penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru i chwilio am aelodau newydd o'r Bwrdd. Fe wnaethom recriwtio 11 aelod newydd o'r Bwrdd – bydd chwech yn dechrau ym mis Ebrill 2024 a bydd y pump arall yn dechrau ym mis Ebrill 2025
- recriwtio prif weithredwr newydd
- rhannu sut rydyn yn gweithio gyda safonau'r Gymraeg
- cyflwyno ein dull marchnata a chyfathrebu mewnol a'n strategaeth ddigidol er mwyn cefnogi sut rydym yn gweithio ac yn cyfathrebu â phobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau. Rydym eisiau sicrhau bod ein gwasanaethau ar-lein yn gydnaws â'n cynulleidfaoedd sy'n tyfu a bod ein cynnwys a'n platfformau yn hygyrch, yn hawdd eu defnyddio ac yn diwallu anghenion ein cynulleidfaoedd
- cynnal archwiliad sgiliau gyda'n staff er mwyn cefnogi ein cynllun hyfforddi, dysgu a datblygu staff tair blynedd
- cadw ein hachrediad ISO27001 a sicrhau achrediad Cyber Essentials
- datblygu ein Cynllun gweithredu datgarboneiddio - ers 2019, rydym wedi lleihau ein hôl troed carbon 44 y cant
Roedd dros 500,000 o bobl wedi ymweld â'n gwefan.
Roedd gennym dros 7,000 o ddilynwyr ar X (Twitter), dros 5,000 o ddilynwyr ar Facebook a 2,000 o ddilynwyr ar LinkedIn.
Ein staff
Erbyn diwedd mis Mawrth 2024, roedd gennym:
- 234 aelod o staff
- 44 o weithwyr newydd
- trosiant staff o 5.5%
- cyfradd absenoldeb oherwydd salwch o 3.6%
- cyfradd absenoldeb oherwydd salwch o 1.3%, os nad ydym yn cynnwys salwch hirdymor
- sgôr ymgysylltu â staff o 91.2%
- tystysgrif archwilio lân sydd i’w gweld yn ein cyfrifon blynyddol