Trosolwg o'n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn yn 2023-2024
Yn 2023 i 2024, fe wnaethom barhau i arwain y dull strategol o ymdrin â data gofal cymdeithasol a rheoli porth data gofal cymdeithasol cenedlaethol Cymru. Mae hyn yn gwneud defnydd gwell o ddata er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'r rhai sy'n derbyn gwasanaethau gofal a chymorth.
Yn ystod y flwyddyn, roedd ein porth data:
- wedi derbyn 11,000 o ymweliadau
- wedi cael 3,000 o ddefnyddwyr unigryw.
Edrychwyd yn ôl hefyd ar y cynnydd yr oeddem wedi'i wneud ar ddiwedd y Strategaeth ymchwil a datblygu gofal cymdeithasol gyntaf, lle buom yn gweithio'n agos gyda phartneriaid amrywiol i gefnogi cymunedau ymarfer, datblygu sgiliau, rhannu ymarfer a chefnogi gwaith arloesol.
Adroddiad data'r gweithlu
Rydyn yn casglu data'r gweithlu bob blwyddyn er mwyn rhoi cipolwg ar y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn yn gofyn i awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau annibynnol anfon data atom ar nifer eu gweithwyr a nodweddion eu gweithlu.
Rydyn wedi bod yn casglu'r data ers 2021, ar ôl i Fframwaith Perfformiad a Gwella Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ddisodli casgliadau data blaenorol gydag un broses a reolir gennym ni.
Mae'r casgliad yn wahanol i wybodaeth a gyhoeddir am y gweithlu cofrestredig gan ei fod yn casglu data ar bawb sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Hefyd, mae'n edrych ar faterion fel contractau ac oriau gwaith, yn ogystal â phobl sy'n ymuno â'r sector ac yn gadael y sector, o le maen nhw wedi symud ac i le maen nhw'n symud.
“Mae'n newyddion cadarnhaol bod data fel hyn yn golygu ein bod yn gallu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am y ffordd orau o gefnogi'r sector i oresgyn yr heriau hyn a diwallu anghenion y boblogaeth.” ein Prif Weithredwr
Aeddfedrwydd data gofal cymdeithasol
Rydyn wedi gwneud gwaith ymchwil yn ymwneud ag aeddfedrwydd data gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ein nod oedd helpu pob awdurdod lleol yng Nghymru i ddeall sut maen nhw'n gallu gwneud y defnydd gorau o'r data sy'n cael ei gasglu, ei brosesu a'i rannu fel rhan o'u darpariaeth gofal cymdeithasol.
Ar ôl i ni asesu pob un o'r 22 awdurdod lleol, byddwn yn cyhoeddi adroddiad yn 2024 i 2025 sy'n rhoi trosolwg o'r data gofal cymdeithasol sydd ar gael yng Nghymru.
Arloesi digidol
Ym mis Gorffennaf 2023, fe wnaethom gyhoeddi bylchau yn y cymorth presennol ar gyfer arloesi digidol ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Yna fe wnaethom edrych ar sut y gallem gefnogi arloesedd digidol trwy asesu aeddfedrwydd digidol gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Gan weithio gyda 97 o ddarparwyr gwasanaethau ac 8 sefydliad seilwaith, adolygwyd 9 model presennol o aeddfedrwydd digidol gan dderbyn gwybodaeth gan 6 arbenigwr a oedd wedi datblygu modelau aeddfedrwydd digidol.
Ymlaen - y strategaeth ymchwil, arloesi a gwella newydd ar gyfer gofal cymdeithasol 2024 i 2029
Daethom â phartneriaid a rhanddeiliaid at ei gilydd i ddatblygu strategaeth ymchwil, arloesi a gwella newydd ar gyfer gofal cymdeithasol. Rydyn eisiau creu diwylliant lle mae tystiolaeth yn ganolog i ddarparu gofal cymdeithasol a lle mae'n cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau ar bob lefel.
Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr, gwnaethom ofyn i bobl am eu barn am y strategaeth. Fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, cynhaliwyd 4 gweithdy (cyfanswm o 40 o bobl), er mwyn sicrhau bod pobl sy'n arwain, yn datblygu ac yn darparu gofal cymdeithasol yn teimlo'n hyderus ac yn awyddus i ddefnyddio tystiolaeth a dulliau arloesol, ac yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i wneud hynny.
Byddwn yn defnyddio'r adborth a gasglwyd i lywio'r fersiwn derfynol o'r strategaeth, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn 2024 i 2025.
Datblygu gwasanaeth ymchwil, data, arloesi a gwella newydd ar gyfer gofal cymdeithasol
Yn 2023 i 2024, buom yn gweithio ar wasanaeth newydd ar gyfer gofal cymdeithasol o'r enw Grŵp Gwybodaeth. Nod y Grŵp Gwybodaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal cymdeithasol drwy ganolbwyntio ar dri maes – ymchwil a data, rhannu a dysgu, a hyfforddi a chyngor.
Bydd y gwasanaeth yn cael ei lansio yn 2024 i 2025, gan roi mynediad i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol at y gwaith ymchwil a data gofal cymdeithasol diweddaraf, canllawiau ar hyfforddiant, cyfleoedd i gydweithio, a chyngor ar y cymorth sydd ar gael.
Gwasanaeth anogaeth arloesedd
Ym mis Medi, lansiwyd gwasanaeth anogaeth newydd i helpu pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i fynd i'r afael ag anghenion a heriau. Rydyn yn gwybod bod arloesedd yn digwydd ar draws y sector gofal cymdeithasol, ond yn aml nid yw'n cael ei gydnabod. Os yw'r cymorth priodol ar gael, mae mwy o bobl yn gallu manteisio ar ddatblygiadau arloesol ym maes gofal cymdeithasol. Dyna pam rydyn wedi sefydlu'r gwasanaeth anogaeth arloesedd.
Yn 2023 i 2024, fe wnaeth ein hanogwyr arloesedd gefnogi bron i 25 o bobl a thimau. Mabwysiadwyd agwedd hyblyg at ein dulliau gweithio er mwyn deall sut i becynnu a chynnig ein cefnogaeth er mwyn helpu pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Rydym wedi cefnogi amrywiaeth ehangach o brosiectau gan gynnwys profi dulliau o wella llesiant staff a chynyddu cyfraddau cadw staff, a chynyddu 'microfentrau gofal' er mwyn ailgynllunio 'drws ffrynt' y system atgyfeirio ar gyfer gwasanaethau oedolion.
Fe gawsom adborth cadarnhaol gan bobl sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth, ond rydym am barhau i ddod o hyd i ddulliau newydd o egluro'r gwasanaeth a dangos yr hyn y gall ei wneud i’r sector.
“Dyma fy mhrofiad cyntaf fel anogwr, ac mae wedi bod yn wych. Wnes i erioed feddwl y byddai'n arwain at gymaint o gynnydd ar lefel ymarferol, a hefyd rhywfaint o ddatblygiad personol ac ymdeimlad cryfach o hyder.”
Cynhyrchu crynodebau o dystiolaeth i gefnogi ymarferwyr gofal cymdeithasol gyda thystiolaeth hygyrch a chyfredol i gefnogi sut maent yn defnyddio tystiolaeth yn eu gwaith
Rydyn wedi bod yn cynhyrchu crynodebau o dystiolaeth sy'n cyflwyno canfyddiadau ymchwil mewn ffyrdd sy'n hawdd eu deall. Mae’r rhain yn cyd-fynd â chynnig cofleidiol o gefnogaeth a chynnwys gan y Grŵp Gwybodaeth i helpu pobl i ddehongli a defnyddio tystiolaeth yn eu gwaith.
Yn 2023-24 fe wnaethom gyhoeddi pedwar crynodeb o dystiolaeth ar y Grŵp Gwybodaeth: dulliau gweithredu sy’n ystyried o ddrawma, denu a recriwtio, gwell llesiant a chadw’r gweithlu, a gofal yn seiliedig ar le. Rydyn wedi cael adborth cadarnhaol gan bobl sy’n darparu gofal a chymorth, ymchwilwyr ac addysgwyr.